Oes rhaid i mi wisgo masg ar y campws?
Mae’r Brifysgol yn argymell yn gryf eich bod yn parhau i wisgo gorchudd wyneb ym mhob lleoliad dan do, yn enwedig lle nad yw’n bosib cadw pellter cymdeithasol. Rhaid gwisgo gorchuddion wyneb yn ôl y gyfraith mewn lleoliadau iechyd a gofal cymdeithasol oni bai eich bod wedi’ch eithrio.
Gall aelodau staff ofyn i chi wisgo gorchudd wyneb fel mesur rhesymol, h.y. lle ceir unigolion sydd mewn risg uwch oherwydd Covid-19, gan gynnwys y rhai a oedd yn hunanwarchod gynt, felly dylech barchu ceisiadau o’r fath.
Am ragor o wybodaeth, gweler ein dogfen arweiniad lawn ynghylch gorchuddion wyneb.
O ble alla i gael Lanyard os ydw i wedi'm heithrio rhag gwisgo masg?
Os yw myfyriwr neu aelod o staff wedi’i eithrio rhag gwisgo gorchudd wyneb neu fasg oherwydd cyflwr meddygol neu anabledd, gall ddewis gwisgo laniard blodau’r haul heb deimlo’n orbryderus ynghylch cael ei herio am beidio â gwisgo gorchudd wyneb. Mae’r laniardiau ar gael i fyfyrwyr o MyUniHub ar Gampws Parc Singleton a Champws y Bae ac yn y Colegau ar gyfer aelodau o staff.
Rwyf i fod i sefyll arholiad ond rwyf wedi profi'n bositif am COVID-19. Beth ddylwn i wneud?
Argymhellir y dylai unrhyw un sy'n profi'n bositif am Covid-19 aros gartref a pheidio â dod i'r arholiadau ar y campws. Nid yw'n ofyniad cyfreithiol mwyach i hunanynysu, ond er mwyn lleihau'r risg o drosglwyddo'r feirws i eraill, os oes gennych chi symptomau dylech chi wneud prawf a hunanynysu os ydych yn profi'n bositif
A oes cyfleusterau a gwasanaethau'r Brifysgol ar gael?
Defnyddiwch y dolenni isod i gael y wybodaeth ddiweddaraf am wasanaethau'r Brifysgol:
Rwy'n teimlo bod pobl yn fy erlid. Beth dylwn i ei wneud?
Nid yw Abertawe'n goddef gwahaniaethu neu aflonyddu. Rydym yn ystyried pob honiad o gamdriniaeth ac aflonyddu'n ddifrifol iawn.
Os ydych chi'n fyfyriwr sy'n poeni am hyn, cysylltwch â advice@swansea-union.co.uk neu adrodd amdano yma.
Mae gen i anawsterau ariannol oherwydd y sefyllfa bresennol gyda COVID. All y Brifysgol fy helpu?
Beth Sy'n Digwydd os Bydd Myfyriwr yn Torri Rheolau Covid-19?
Ein disgwyliadau gennych chi
Rydym yn disgwyl i bob myfyriwr ddilyn Siarter Myfyrwyr Atodol Covid-19 a gofynion Llywodraeth Cymru a Phrifysgol Abertawe ynghylch iechyd a diogelwch Covid-19.
Mae ein mesurau i gadw'r gymuned yn ddiogel yn cynnwys y canlynol, ymysg mesurau eraill:
• Cadw pellter cymdeithasol
• Hunanynysu
• Gorchuddion wyneb
Rydym yn cydnabod y gallai amgylchiadau personol rhai unigolion eu heithrio rhag gallu dilyn canllawiau neu ofynion penodol, ac rydym yn darparu canllawiau a chymorth gyda hyn.
Dyma'r mesurau sydd ar waith i gadw ein cymuned yn ddiogel.
Os ydych mewn ardal sy'n destun cyfyngiadau symud lleol ar hyn o bryd
Os ydych yn byw mewn ardal sy'n destun cyfyngiadau symud lleol, mae'n rhaid i chi ddilyn y cyngor a roddwyd yn yr ardal honno. Yn y rhan fwyaf (os nad pob un) o'r ardaloedd sy'n destun cyfyngiadau symud lleol, mae teithio i sefydliad addysgol yn eithriad, felly cewch deithio i Brifysgol Abertawe i astudio.
Fodd bynnag, ni ddylech ddod i'r Brifysgol os oes gennych symptomau Covid-19 a rhaid i chi ddilyn cyngor iechyd cyhoeddus ar hunanynysu a phrofi.
OS OES SYMPTOMAU COVID-19 GAN AELOD O GYMUNED Y BRIFYSGOL SY'N DYCHWELYD, MAE'N HOLLBWYSIG EI FOD YN HUNANYNYSU AR UNWAITH.
Mae angen i mi gyflwyno ffurflen i'r Brifysgol, allaf ei hanfon drwy'r post?
Oherwydd bod staff yn gweithio o bell, ni fydd MyUniHub yn gallu derbyn ffurflenni cais, dogfennau neu ohebiaeth drwy'r post ar hyn o bryd. Dylech ddefnyddio'r ffurflenni sydd ar gael ar-lein i gyflwyno ceisiadau.