Cyngor ac Arweiniad Iechyd a Diogelwch o ran COVID 19 ar gyfer Myfyrwyr Israddedig
Cymerwch amser i ddarllen yr holl wybodaeth a chanllawiau perthnasol ynghylch Covid-19 sydd ar gael ar ein tudalennau Iechyd a Diogelwch, gan gynnwys y fideo Sefydlu Myfyrwyr.
Os oes symptomau Covid-19 gennych
OS OES GENNYCH SYMPTOMAU COVID-19, RHAID I CHI HUNANYNYSU AR UNWAITH.
Dylai unrhyw un sydd yn 5 oed neu'n hŷn sydd â symptomau’r coronafeirws hunanynysu a chael prawf. Dyma symptomau’r coronafeirws:
- peswch parhaus newydd
- tymheredd uchel
- colli’r gallu i flasu neu arogli, neu newid yn y gallu hwnnw
Ni ddylech fynd at y meddyg, ymweld â chyfleusterau'r Brifysgol neu fynd i feddygfa nac ysbyty cyn cael caniatâd ymlaen llaw os ydych yn profi symptomau. Dylech drefnu prawf os oes gennych symptomau drwy ffonio 119 neu ddefnyddio'r wefan https://gov.wales/apply-coronavirus-test
Anfonir pecyn prawf cartref at fyfyrwyr i'r cyfeiriad a nodir ganddynt a bydd yn cael ei gasglu o'r un cyfeiriad, a bydd y canlyniadau ar gael mewn 72 o oriau.
Os ydych chi wedi cael canlyniad cadarnhaol ar gyfer prawf Covid-19
Os ydych wedi profi'n bositif am COVID-19, rhaid i chi hunanynysu a dilyn y canllawiau isod.
Hunanynysu – beth yw'r cyngor?
Hunanynysu am 7 diwrnod os ydych yn profi yn bositif am COVID-19. Dylech gymryd Prawf Llif Unffordd (LFT) ar ddiwrnod 6 a 7. Os yw'r naill brawf neu'r llall yn bositif, dylech barhau i hunanynysu nes i chi gael 2 LFT negyddol, neu ar ôl diwrnod 10, pa un bynnag sydd gynharaf.
Gweler cyngor diweddaraf y Llywodraeth ar Hunanynysu.
Pàs Covid y GIG
Mae Pàs COVID y GIG yn eich galluogi i rannu eich cofnod o frechiadau rhag y coronafeirws (COVID-19) a’ch canlyniadau profion mewn ffordd ddiogel.
Mae’n eich galluogi i ddangos i eraill eich bod wedi cael eich brechu, neu eich bod wedi cael canlyniad prawf llif unffordd negatif. Gallech ei ddefnyddio ar gyfer:
- teithio dramor
- mynychu digwyddiadau mawr a lleoliadau yng Nghymru
- mynd i ddigwyddiadau yn rhannau eraill o’r DU
- dangos i’ch cyflogwr eich bod wedi cael eich brechu’n llawn ac nad oes angen ichi hunanynysu os byddwch yn cael eich adnabod fel cyswllt
Gall gymryd hyd at 14 diwrnod gwaith i’ch brechlyn ddangos ar eich Pàs COVID y GIG.
Cliciwch YMA am fwy o wybodaeth.
Adnoddau Iechyd Meddwl gan y Gwasanaeth Lles yn ystod Pandemig COVID-19
Rydym yn cydnabod bod Covid-19 wedi creu ansicrwydd a newid sylweddol a allai effeithio ar eich iechyd meddwl a'ch lles. I'ch cefnogi drwy'r cyfnod heriol hwn, rydym wedi casglu ynghyd amrywiaeth o adnoddau lles, gan gynnwys erthyglau, cyrsiau, fideos a phodlediadau ar-lein.
Mae'r adnoddau hyn yn ychwanegol at y gwasanaethau sydd eisoes ar gael, nid ydynt yn eu disodli.
 phwy arall gallaf siarad am fy iechyd meddwl?
Ceir amrywiaeth o sefydliadau sy'n gallu eich cefnogi https://www.nhs.uk/conditions/stress-anxiety-depression/mental-health-helplines/
Rwy'n teimlo'n wael – sut gallaf gael gafael ar ofal iechyd?
Mae cyngor y Llywodraeth ar Iechyd a Hunanynysu yn newid yn aml, felly cadwch lygad arno'n rheolaidd er mwyn cael gwybod y diweddaraf.
Iechyd
Ar gyfer cyngor iechyd ar coronafeirws, ewch i NHS 111 online neu Galw Iechyd Cymru.
Dim ond os nad oes gennych fynediad at y rhyngrwyd, cysylltwch ag NHS 111 drwy ffonio 111 – neu ffoniwch Galw Iechyd Cymru ar 0845 4647.
Os oes argyfwng meddygol, ffoniwch 999.
Rwy'n hunanynysu yn llety'r Brifysgol/mewn tŷ a rennir a dwi ddim yn gallu prynu bwyd. Beth dylwn i ei wneud?
Os yw hyn yn wir amdanoch chi, e-bostiwch myunisupport@abertawe.ac.uk
Oes modd i mi siarad â rhywun yn gyfrinachol?
Mae'r Gwasanaeth Gwrando ar gael o hyd i staff a myfyrwyr. Does dim angen i'ch problem fod yn ddifrifol, mae yno os hoffech gael sgwrs yn unig. Mae apwyntiadau ar gael ar hyn o bryd drwy Zoom a thros y ffôn felly, i drefnu apwyntiad, e-bostiwch listeningservice.campuslife@abertawe.ac.
Mae’r Gwasanaeth Gwrando ar gael hefyd i ddarparu cymorth profedigaeth un i un.
Oes rhaid i mi wisgo masg ar y campws?
Mae’r Brifysgol yn argymell yn gryf eich bod yn parhau i wisgo gorchudd wyneb ym mhob lleoliad dan do, yn enwedig lle nad yw’n bosib cadw pellter cymdeithasol. Rhaid gwisgo gorchuddion wyneb yn ôl y gyfraith mewn lleoliadau iechyd a gofal cymdeithasol oni bai eich bod wedi’ch eithrio.
Gall aelodau staff ofyn i chi wisgo gorchudd wyneb fel mesur rhesymol, h.y. lle ceir unigolion sydd mewn risg uwch oherwydd Covid-19, gan gynnwys y rhai a oedd yn hunanwarchod gynt, felly dylech barchu ceisiadau o’r fath.
Am ragor o wybodaeth, gweler ein dogfen arweiniad lawn ynghylch gorchuddion wyneb.
O ble alla i gael Lanyard os ydw i wedi'm heithrio rhag gwisgo masg?
Os yw myfyriwr neu aelod o staff wedi’i eithrio rhag gwisgo gorchudd wyneb neu fasg oherwydd cyflwr meddygol neu anabledd, gall ddewis gwisgo laniard blodau’r haul heb deimlo’n orbryderus ynghylch cael ei herio am beidio â gwisgo gorchudd wyneb. Mae’r laniardiau ar gael i fyfyrwyr o MyUniHub ar Gampws Parc Singleton a Champws y Bae ac yn y Colegau ar gyfer aelodau o staff.