Er mwyn i ni allu eich cefnogi’n academaidd ac o ran eich lles, gwnewch yn siŵr eich bod yn diweddaru eich dull astudio ar eich proffil ar y fewnrwyd, sydd o dan Manylion Personol yn y tab Statws Presenoldeb, yn ogystal â’ch cyfeiriad yn ystod y tymor.
Rydym yn gofyn i fyfyrwyr newid hyn pan fyddant yn ymgymryd â’u hastudiaethau ar y campws, at ddibenion monitro presenoldeb, neu os bydd angen iddynt ddewis cyfnod byr o astudio ar-lein oherwydd eu bod dan gwarantin neu’n hunanynysu oherwydd Covid. Os ydych yn astudio ar-lein dros dro, rhowch wybod i dîm MyUniSupport am eich amgylchiadau.
Am ragor o wybodaeth am weithdrefnau monitro presenoldeb, ewch i dudalennau Monitro Presenoldeb MyUni.