Cynhelir arholiadau ar y campws y mis Ionawr hwn.
Iechyd a diogelwch myfyrwyr yw ein prif flaenoriaeth bob amser. Cynhaliwyd asesiadau risg yn yr holl ardaloedd arholiadau, ac mae rheoliadau Covid-19, gan gynnwys cadw pellter cymdeithasol, lleihau nifer y bobl mewn lleoliadau a systemau un ffordd, ar waith.
I gadw eich hun a phobl eraill yn ddiogel, mae’n rhaid i chi wisgo mwgwd yn ystod eich arholiad, oni bai eich bod wedi’ch eithrio.Ni chaniateir i fyfyrwyr nad ydynt yn cydymffurfio â’r gofyniad hwn gael mynediad.