Rydym yn edrych ymlaen at eich croesawu chi nôl i Brifysgol Abertawe!
Rydym yn gwerthfawrogi efallai na fyddwch yn gallu ymuno â ni’n bersonol ar y campws o ddechrau’r tymor ac felly byddwch yn dechrau ar eich astudiaethau ar-lein (efallai bydd eithriadau; bydd eich Coleg neu’ch Ysgol yn gallu eich cynghori ar hyn).
Cyn gynted ag y bydd amgylchiadau’n caniatáu, rydym yn annog myfyrwyr i ymuno â ni yn Abertawe. Rhaid i’r holl fyfyrwyr, p’un ai eu bod yn dechrau’n bersonol neu ar-lein, gofrestru ar-lein erbyn 30 Hydref 2020. Ar hyn o bryd, rydym yn disgwyl i’r holl fyfyrwyr ddychwelyd i addysgu cyfunol (ar y campws) erbyn dechrau BA2. Os nad yw myfyrwyr yn gallu dychwelyd, y disgwyliad yw y byddant yn gohirio eu hastudiaethau.
Os nad yw eich amgylchiadau’n eich galluogi i ymuno â ni’n bersonol ar ddechrau’r tymor, dylech gysylltu â’ch Coleg/Ysgol i roi gwybod iddynt beth yw eich cynlluniau. Defnyddiwch y cyfeiriadau e-bost isod:
SIARTER MYFYWYR ATODOL I YMATED I COVID-19
Er mwyn parchu diogelwch pob myfyriwr ac aelod staff ac, yn wir, y gymuned ehangach, a sicrhau y gallwn i gyd helpu i gadw’r Brifysgol yn lle diogel i astudio a gweithio, rydym wedi llunio Siarter Myfyrwyr Atodol i gynorthwyo gyda hyn.
Gofynnwn i chi ei darllen yn ofalus a sicrhau eich bod yn glynu wrth yr egwyddorion.
Cliciwch ewch i wylio'r ffilm.
Iechyd a Diogelwch
Rydym wedi gwneud nifer o newidiadau er mwyn gwneud ein cyfleusterau'n ddiogel i chi, gan greu systemau unffordd o amgylch y campws, gosod gorsafoedd diheintio dwylo ym mhob adeilad, gwella systemau glanhau a lleihau'r boblogaeth drwy gael pobl i weithio gartref. Bydd pellter cymdeithasol o ddau fetr ar waith ar gyfer yr holl fannau dysgu ac addysgu gyda'r holl weithgareddau'n cael asesiad risg a threfniadau gweithredu diogel ar waith.
Gwnewch yn siŵr eich bod yn dilyn yr arwyddion ac yn golchi eich dwylo ac yn defnyddio'r hylif diheintio dwylo.
Drwy ddilyn canllawiau a rhoi gwybod i ni am unrhyw newidiadau, gallwn gydweithio i gadw cymuned y Brifysgol yn ddiogel.
Olrhain Gwybodaeth Myfyrwyr (Covid-19)
Er y byddem yn dwlu eich gweld chi i gyd yn ôl ar y campws ym mis Medi, rydym yn deall efallai na fydd hyn yn bosib i rai myfyrwyr oherwydd cyfyngiadau amrywiol neu resymau iechyd. Felly, bydd yn rhaid i'r holl fyfyrwyr roi gwybod i ni sut rydych yn bwriadu cymryd rhan yn eich astudiaethau. Gofynnir i chi roi’r wybodaeth hon wrth gofrestru a diweddaru eich statws ar y fewnrwyd os ceir newidiadau.