Peidiwch â dychwelyd i’r campws nes bod addysgu wyneb yn wyneb yn ailddechrau ar gyfer eich cwrs, mae’n ofynnol i chi wneud hynny at ddibenion ymchwil neu fod gennych amgylchiadau personol penodol.
Ar gyfer y myfyrwyr hynny sydd eisoes ar y campws, ein cyngor yw aros yma a sicrhau eich bod yn dilyn canllawiau Llywodraeth Cymru. Byddwn yn parhau i’ch cefnogi chi drwy gydol y cyfnod hwn.
Os ydych yn fyfyriwr rhyngwladol sy’n teithio o dramor ac rydych eisoes wedi trefnu eich dull teithio i’r DU, gallwch barhau i deithio i’r Brifysgol yn unol â chanllawiau Llywodraeth Cymru, os ydych yn dymuno gwneud hynny. Os nad ydych eisoes wedi gwneud trefniadau teithio, byddem yn argymell eich bod yn oedi eich cynlluniau i deithio i’r DU a’ch bod yn dechrau eich astudiaethau gyda ni ar-lein o’ch gwlad gartref. Pan fyddwch yn trefnu teithio, gwiriwch a oes yn rhaid i chi ddangos prawf covid negyddol er mwyn dod i’r DU. O 11 Ionawr, bydd yr holl deithwyr rhyngwladol sy’n teithio i’r DU yn gorfod cael prawf covid 72 awr cyn gadael a chael canlyniad negatif.
Os bydd yn rhaid i chi gymryd rhan mewn addysgu ar y safle cyn 15 Chwefror, bydd eich Coleg yn cysylltu â chi i gadarnhau hyn.
Os ydych yn fyfyriwr ymchwil ôl-raddedig, dylech barhau â’ch ymchwil gartref lle bynnag y bo’n bosib. Os yw’n hanfodol cael mynediad i labordai ar gyfer eich ymchwil, mae’r un broses yn parhau i fod ar waith mewn Colegau ar gyfer cael mynediad i’r campws a chyfleusterau eraill ar y campws.