Cyflwyniad i'r gwasanaethau ariannol sydd ar gael i fyfyrwyr ychwil Ôl-raddedig

Mae gan y Gyfadran Gwyddoniaeth a Pheirianneg dîm sydd â'r nod o ddarparu arweiniad a chymorth mewn perthynas â holl wasanaethau ariannol y brifysgol. Mae'r arweiniad canlynol yn cyfeirio at y categorïau gwariant canlynol:

  • Prynu nwyddau a gwasanaethau
  • Trefniadau teithio
  • Prosesu hawliadau am dreuliau
Taflen Wybodaeth Gweithgareddau Rhyngwladol y Brifysgol

Trosolwg

Mae'r arweiniad isod wedi'i ategu gan ddolenni i fanylion polisi ariannol perthnasol y brifysgol, felly gallwch fod yn hyderus bod yr wybodaeth a ddarperir yn cael ei diweddaru'n rheolaidd pan gaiff polisïau eu diwygio. 

Prynu nwyddau a gwasanaethau

Students sitting outside Coffeopolis

Trosolwg o brynu nwyddau a gwasanaethau

I brynu nwyddau neu wasanaethau, rhaid dilyn yr arweiniad canlynol:

  1. Dylech chi drafod eich angen i brynu nwyddau neu wasanaethau â'ch goruchwyliwr a fydd yn gyfrifol am y gyllideb a ddefnyddir i ddiwallu eich angen.
  2. Bydd eich goruchwyliwr yn adolygu eich cais ac yn cadarnhau a yw eich cais wedi'i gymeradwyo ai peidio. Yna bydd yn cadarnhau manylion y côd cyfrif y bydd angen ei nodi pan fyddwch yn cyflwyno eich cais prynu.
  3. Yna dylech chi gyflwyno eich cais prynu fel a ganlyn:

Prosesu Hawliadau Treuliau

Entrance to Engineering central

Trosolwg o brosesu hawliadau treuliau

Mae'r brifysgol wedi rhoi polisi ar hawliadau treuliau ar waith sy'n berthnasol i staff a myfyrwyr. Mae manylion y polisi ar gael drwy'r ddolen ganlynol: Polisi a Gweithdrefn Treuliau - Prifysgol Abertawe

Dylech ddarllen y canllawiau cyn i chi wneud unrhyw daliadau'n uniongyrchol gyda golwg ar gael eich ad-dalu gan y Brifysgol yn ddiweddarach. Fel rheol, nifer cyfyngedig yn unig o gostau teithio y gallwch eu hawlio'n ôl drwy'r system hawliadau treuliau. Mae'r rhain yn cynnwys y canlynol:

  • Cynhaliaeth
  • Lwfans Milltiroedd
  • Tanwydd ar gyfer cerbydau wedi'u llogi
  • Costau teithio isel/pellter byr: er enghraifft - bysys gwasanaeth a thacsis lleol

Ystyrir ad-dalu pob math arall o gostau fel eithriad yn unig neu ar sail trefniant wrth gefn pan fo cymeradwyaeth wedi'i rhoi ymlaen llaw.

Cysylltu

Cysylltu

Gallwch gysylltu â thîm cyllid y gyfadran yn y cyfeiriadau e-bost penodol canlynol:

Prynu nwyddau a gwasanaethau - fseorders@abertawe.ac.uk

Archebu trefniadau teithio - fseorders@abertawe.ac.uk

Prosesu hawliadau treuliau - fseexpenseclaims@abertawe.ac.uk