Cynllun Mentora Cyfoedion Ôl-raddedig/Ôl-ddoethurol

Mae'r Coleg Peirianneg yn gweithio ar gynllun mentora cymheiriaid newydd ar gyfer ein holl fyfyrwyr ôl-raddedig a staff ymchwil. Datblygwyd y cynllun hwn er mwyn eich helpu i droi'ch profiadau dysgu yn yrfaoedd llwyddiannus ac er mwyn integreiddio cymorth pellach a hwyluso rhyngweithio rhwng canolfannau ymchwil. Rydym wedi ei deilwra ar gyfer ymchwilwyr ôl-raddedig a staff ymchwil yn fwriadol. Credwn fod mentora cymheiriaid yn cynnig manteision i'r naill grŵp a'r llall ar bob cam o'r profiad ymchwil ac ni ddylech feddwl am y camau hyn ar wahân i weddill eich gyrfa.

Gall yr holl fyfyrwyr ôl-raddedig a staff ymchwil elwa o'r cynllun hwn waeth pa gam maent wedi ei gyrraedd yn eu gyrfa a beth bynnag eu rôl. Gall uwch-gymrodorion ymchwil sydd wedi cael gyrfa ymchwil hir a gwobrwyol ac sydd wedi derbyn grantiau o ffynonellau o fri gynnig mentora cynorthwywyr ymchwil sy'n awyddus i ddatblygu eu gyrfaoedd. Gall staff ymchwil gyrfa gynnar, a fydd yn agosach o lawer at gwblhau eu PhD na'r rhan fwyaf o staff academaidd, gynnig mentora i'r rhai sydd ar fin cwblhau eu PhD a'u helpu i sicrhau swydd ôl-ddoethurol. Yn yr un modd, gall y rhai sy'n dod i ddiwedd eu rhaglenni PhD fentora'r rhai sydd newydd ddechrau eu rhaglenni PhD.

Os oes gennych ddiddordeb mewn derbyn hyfforddiant a bod yn Fentor, cwblhewch yr holiadur hwn.

Bydd mentoriaid yn derbyn hyfforddiant dros yr haf drwy raglen SAILS, a chaiff rhestr o fentoriaid sydd wedi'u hyfforddi ei hychwanegu at y dudalen hon ynghyd ag ychydig o wybodaeth sylfaenol am eu meysydd a'u diddordebau ymchwil. Mae’r ymrwymiad amser yn isel. Mae’r sesiwn hyfforddi i fod yn Fentor Cyfoedion tua 2 awr o hyd, ac i gael cydnabyddiaeth ffurfiol am fentora, bydd yn rhaid i’r mentoriaid gwblhau a chofnodi cyfanswm o 6 awr o waith cysylltiedig â mentora.

Cynlluniwyd y rhaglen hon i fod yn hyblyg. Chi, y Mentor, sy'n penderfynu a hoffech gymryd rhan yn anffurfiol neu ennill cymwysterau swyddogol yn y maes. Y naill ffordd neu'r llall, bydd yn ffordd wych o ddatblygu'ch CV a helpu i gryfhau amgylchedd ymchwil y coleg.

Os oes gennych ddiddordeb  mewn cael eich mentora, dewch yn ôl i'r dudalen hon nes ymlaen yn yr haf i weld rhestr o'r rhai sydd ar gael i fentora.

Eich Mentoriaid Ymchwil

Gweler isod y rhestr o fyfyrwyr ymchwil ôl-raddedig a staff ymchwil sydd wedi’u hyfforddi ac sydd ar gael i fod yn fentoriaid. E-bostiwch
Engquality@abertawe.ac.uk os oes gennych ddiddordeb mewn cysylltu ag un o’r mentoriaid hyn, neu ddysgu mwy am eu diddordebau a’u meysydd o? arbenigedd.

Rhestr o fentoriaid yn ôl maes ymchwil