GOFALU AM DY HUN
Rydym yn sylweddoli bod hwn yn amser llawn straen i bawb, ac y gall fod yn anodd cadw’n gadarnhaol ac yn frwdfrydig yn y sefyllfa hon. Edrycha ar y prif opsiynau sydd gan y Brifysgol o ran cymorth isod:
- Y Gwasanaeth Gwrando - Pe taset ti erioed eisiau sgwrsio â rhywun o'r Brifysgol am sut rwyt ti'n teimlo, mae Gwasanaeth Gwrando cyfrinachol ar gael i ti na fydd yn dy farnu, sy'n cael ei gynnal gan y Gwasanaethau Myfyrwyr dros y ffôn neu drwy gyfarfod fideo ar-lein. Bydd yn cynnal apwyntiadau personol hyd at 23 Rhagfyr 2020, gan gynnwys y dyddiad hwnnw, a bydd yn ail-ddechrau ar 5 Ionawr.
- Togetherall - Gwasanaeth iechyd meddwl digidol yw Togetherall, sydd ar gael am ddim yn com Gan ddefnyddio dy gyfeiriad e-bost ym Mhrifysgol Abertawe, gelli di ddod o hyd i gymorth yn ddienw ar-lein 24/7 gan glinigwyr hyfforddedig, ynghyd ag ystod o offer ac adnoddau defnyddiol. Mae'n lle diogel ar-lein i drafod dy bryderon, sgwrsio, mynegi eich meddyliau’n greadigol a dysgu sut i reoli dy iechyd meddwl.
- Gwasanaeth Lles - Mae gwasanaeth iechyd meddwl penodol gan y Brifysgol o'r enw'r Gwasanaeth Lles. Gelli di lenwi Ffurflen Cais am Gymorth Lles er mwyn iti dderbyn adnoddau mwy penodol neu gael dy gyfeirio at y gwasanaeth gorau ar gyfer dy ymholiad. Lle bo’n briodol, bydd y Gwasanaeth Lles yn cynnig apwyntiadau byr am gyngor ac arweiniad sydd ar gael dros y ffôn neu Zoom. Nid sesiynau iechyd meddwl na chwnsela yw’r apwyntiadau hyn, ond maent yn gallu cynnig cymorth, gwybodaeth a chyfeirio. Hefyd, mae tudalen Adnoddau Hunangymorth ganddynt sy'n cynnwys rhestr o apiau a gwybodaeth ddefnyddiol.
- Cymorth yn ystod argyfwng - Mae tudalen gymorth Cymorth yn ystod argyfwng gan y Brifysgol, sy'n cyfeirio myfyrwyr at y lleoedd i fynd ar gyfer cymorth ar unwaith os ydynt mewn argyfwng.