CYFLWYNO'R COPI TERFYNOL

Cewch eich hysbysu pan fyddwch yn gallu cyflwyno eich copi terfynol.

Gofynnir i chi gyflwyno'r fersiwn electronig o'ch traethawd ymchwil terfynol yn unig. Gwnewch yn siŵr bod eich tudalen Datganiadau'n cynnwys y datganiadau priodol a'i bod wedi'i llofnodi a'i dyddio - mae llofnodion electronig yn dderbyniol.

Bydd rhaid i chi gyflwyno eich fersiwn electronig i pgr-scienceengineering@abertawe.ac.uk.

Os yw eich ffeiliau'n rhy fawr, dylech chi lanlwytho eich traethawd ymchwil i'ch cyfrif OneDrive a rhannu'r ddolen â pgr-scienceengineering@abertawe.ac.uk.

Ers 1 Hydref 2021, nid yw Prifysgol Abertawe'n gofyn i fyfyrwyr gyflwyno copi o'u traethawd ymchwil wedi'i rwymo â chlawr caled. Yn lle hyn, caiff eich traethawd ymchwil ei lanlwytho i Storfa Cronfa. Rhaid i chi gwblhau ac anfon Cytundeb E-draethawd Ymchwil gyda'r copi terfynol o'ch traethawd ymchwil.

CYFLWYNIAD CYNTAF

Gofynnir i chi gyflwyno un copi electronig yn unig o'ch traethawd ymchwil.  Nid yw'r Brifysgol yn gofyn i fyfyrwyr gyflwyno copïau o'u traethawd ymchwil wedi'i rwymo'n feddal.

Tri mis cyn i chi fod yn barod i gyflwyno'r copi drafft o'ch traethawd ymchwil, bydd angen i chi gwblhau ffurflen Hysbysiad o Fwriad i Gyflwyno (NITs) sydd wedi'i llofnodi gan eich goruchwyliwr. Rhaid dychwelyd y ffurflen i'r Tîm Ymchwil Ôl-raddedig  (PGR-scienceengineering@abertawe.ac.uk). Rydym yn gofyn i chi wneud hyn er mwyn i ni allu dechrau Enwebu Bwrdd Arholi ar gyfer eich Arholiad Llafar.

Pan fyddwch yn barod i gyflwyno, gofynnir i chi anfon fersiwn electronig o'ch traethawd ymchwil. Gwnewch yn siŵr eich bod wedi llofnodi eich tudalen Datganiadau - mae llofnod electronig yn dderbyniol.Os hoffech chi rwystro mynediad at eich traethawd ymchwil, gwnewch yn siŵr eich bod yn cynnwys y datganiadau cywir - os nad ydych yn siŵr am hyn, cysylltwch â'r tîm Ymchwil Ôl-raddedig.

Bydd angen i chi gyflwyno eich fersiwn electronig i pgr-scienceengineering@abertawe.ac.uk.

Os yw eich ffeiliau'n rhy fawr, dylech chi lanlwytho eich traethawd ymchwil i'ch cyfrif OneDrive a rhannu'r ddolen â pgr-scienceengineering@abertawe.ac.uk.

Bydd angen i chi gwblhau ac anfon y canlynol gyda'ch traethawd ymchwil hefyd: Rhestr Wirio Cyflwyno.

Canllawiau ar gyfer Myfyrwyr Ymchwil ar Gyflwyno Traethawd Ymchwil
Bay campus
Submission