Gallwch weld eich canlyniadau drwy fewngofnodi i'ch cyfrif MyUni a mynd i fewnrwyd y Brifysgol. Yna cliciwch ar yr adran ‘Manylion y Cwrs’ ar ochr chwith y ddewislen a dewiswch ‘Modiwlau 2023’ ar gyfer blwyddyn academaidd 2023-24.
Byddwch yn gweld y marciau ar gyfer pob modiwl drwy gydol y flwyddyn academaidd. Gallwch ehangu pob modiwl er mwyn gweld marciau'r cydrannau asesu.
Ar gyfer myfyrwyr a ddechreuodd ym mis Medi, y canlyniadau a ryddheir ym mis Gorffennaf fydd eich canlyniadau terfynol, wedi'u cadarnhau ar gyfer blwyddyn academaidd 23-24. Pan ryddheir y canlyniadau terfynol ym mis Gorffennaf, byddwch yn gweld:
- Eich penderfyniad diwedd y lefel, h.y. canlyniad terfynol eich blwyddyn academaidd.
- Dogfen canlyniadau atodedig ar ffurf PDF, a fydd yn agor mewn ffenestr arall. Bydd y ddogfen hon yn rhoi esboniad manylach o'ch canlyniadau a'ch opsiynau.
Ar gyfer myfyrwyr a ddechreuodd ym mis Ionawr, bydd y canlyniadau a ryddheir ym mis Gorffennaf yn farciau dros dro ar gyfer Semester y Gwanwyn. Bydd y marciau hyn yn rhai dros dro hyd nes y cânt eu cadarnhau, a bydd eich marciau terfynol wedi'u cadarnhau yn cael eu rhyddhau ar ôl i chi gwblhau pob un o'ch modiwlau a addysgir.