Mae'r flwyddyn MEng yn cyfoethogi ac yn estyn y gwaith rydych yn ei wneud ar y cynllun BEng, gan ehangu a dyfnhau'ch gwybodaeth a'ch sgiliau yn y pwnc. Mae hefyd yn bodloni'r holl ofynion academaidd gorfodol ar gyfer y rhai sydd am astudio am statws Peiriannydd Siartredig (CEng) a'i ennill.

Os yw'ch marc cyfartalog am y flwyddyn yn 55% neu'n uwch ar ddiwedd Blwyddyn 2, byddwch yn gymwys i drosglwyddo, o safbwynt academaidd. Darllenwch yr adrannau isod sy'n berthnasol i chi os oes gennych ddiddordeb mewn trosglwyddo.