AMSERLENNI ARHOLIADAU SEMESTER 1 MIS IONAWR 2023

Cynhelir holl arholiadau terfynol Semester 1 ym mis Ionawr rhwng 9 a 27 Ionawr 2023.

Sylwer isod ar amserlenni'r arholiadau yn ystod cyfnod asesu terfynol mis Ionawr 2023. Sylwer y rhestrir pob amser yn unol ag Amser Cymedrig Greenwich (GMT).

Os bydd gennych gwestiynau, a wnewch chi gael cip ar ein tudalen Cwestiynau Cyffredin am Arholiadau (gan gynnwys nodiadau ynghylch addasiadau cynhwysol am arholiadau, awgrymiadau am lanlwytho a chyflwyno gwaith a ysgrifennwyd â llaw ar-lein, a mwy). Gweler hefyd ein tudalen Amgylchiadau Esgusodol ar gyfer Asesiadau Terfynol i gael gwybodaeth am eich opsiynau os bydd eich amgylchiadau'n effeithio arnoch yn ystod cyfnod yr arholiadau.

A wnewch chi edrych ar yr amserlenni'n ofalus, a chysylltwch â'r Tîm Gwybodaeth Myfyrwyr cyn gynted ag y bo modd er mwyn trafod opsiynau os ydych yn rhagweld problemau posib o ran yr amserau rhyddhau neu'r amserlenni ar gyfer eich asesiadau. 

AMSERLENNI ASESIADAU

Amserlenni arholiadau mis Ionawr 2023 bellach ar gael i'w gweld ar eich Proffil Myfyriwr. Mewngofnodwch i https://myuni.abertawe.ac.uk/ ac ewch i'r fewnrwyd, a gwelwch Amserlenni Arholiadau fel opsiwn ar ochr chwith y dudalen.

Sylwer na fydd dyddiadau cau gwaith cwrs a phrofion dosbarth yn cael eu cynnwys yn yr amserlenni arholiad, ac efallai bydd ganddynt ddyddiadau cau y tu allan i'r ffenestr arholiadau (9 i 27 Ionawr 2023). Gwiriwch yn uniongyrchol gyda'ch Cydlynwyr Modiwl am ddyddiadau cau gwaith cwrs.