Os yw eich amgylchiadau'n effeithio ar eich gallu i gwblhau neu gyflwyno aseiniad, bydd angen i chi gyflwyno cais am Amgylchiadau Esgusodol.
System Newydd ar gyfer Amgylchiadau Esgusodol:
Mewn ymateb i adborth myfyrwyr am y system bresennol ar gyfer Amgylchiadau Esgusodol, mae'r Brifysgol wedi bod yn gweithio i ddatblygu un ateb digidol ar gyfer Amgylchiadau Esgusodol sydd â'r nod o ddarparu profiad cyson i'n holl fyfyrwyr. Mae'r Brifysgol wedi mabwysiadu ymagwedd fesul cam at roi’r system newydd ar waith.
Bydd yr holl fyfyrwyr yn y Gyfadran Gwyddoniaeth a Pheirianneg yn defnyddio'r system newydd o ddechrau Semester 2 yn ystod blwyddyn academaidd 2023/24.
Cewch arweiniad ynghylch sut i gyrchu'r system newydd a sut i gyflwyno cais amgylchiadau esgusodol yma.
Os caiff eich cais ei dderbyn, mae’n bosib y byddwch yn cael dyddiad cau estynedig neu eithriad, fel y bo’n briodol. Cynhelir y broses gyfan ar-lein a byddwch yn cael gwybod am y canlyniad drwy e-bost.
Os ydych chi'n Ymchwilydd Ôl-raddedig, cysylltwch â'r tîm ymchwil ôl-raddedig drwy e-bostio pgr-scienceengineering@abertawe.ac.uk i drafod amgylchiadau esgusodol.
Dyddiadau Cau Allweddol:
- Rhaid cyflwyno ceisiadau am Amgylchiadau Esgusodol o fewn 5 niwrnod gwaith i ddyddiad cau'r asesiad perthnasol.
- Rhaid cyflwyno ceisiadau cyn dyddiad cau'r asesiad perthnasol. Gall ceisiadau gael eu gwrthod os byddant yn cael eu cyflwyno ar ôl y dyddiad cau heb reswm dilys dros yr oedi.
- Dylid lanlwytho tystiolaeth ategol i'r system ar-lein ar gyfer Amgylchiadau Esgusodol ar adeg y cais os yw'n bosib, ond gallwch gyflwyno eich Ffurflen Amgylchiadau Esgusodol ac yna atodi unrhyw ddogfennau/dystiolaeth ategol yn nes ymlaen. Rhaid i chi ddarparu tystiolaeth ategol o fewn 10 niwrnod gwaith i'r dyddiad pan fyddwch yn cyflwyno eich cais am Amgylchiadau Esgusodol.
- Os ydych yn poeni na fyddwch yn gallu darparu dogfennau/tystiolaeth i ategu eich cais o fewn y terfyn amser o 10 niwrnod gwaith, cysylltwch â'n tîm ar frys am arweiniad.
Gohirio Gwaith Cwrs:
Os bydd gennych amgylchiadau esgusodol sylweddol a allai olygu na allwch gyflwyno aseiniad, hyd yn oed gyda chymorth y system Amgylchiadau Esgusodol, yna mae'n bosibl y byddwch yn gallu cyflwyno cais am Ohirio Gwaith Cwrs. Sylwer y caiff ceisiadau eu hystyried fesul achos ac mae'n rhaid cyflwyno dogfennaeth ategol briodol.
Sylwer os oes gennych chi ffurflen gan y Brifysgol, byddai angen tystiolaeth ategol arnom o ran sut y mae eich cyflwr hirdymor wedi bod yn effeithio'n sylweddol arnoch a pham y mae angen ichi Ohirio Gwaith Cwrs.
Os ydych yn ystyried cyflwyno cais, cysylltwch â'n Tîm i drafod hyn ymhellach.