Rydym yn deall y gall ffactorau gwahanol, gan gynnwys amgylchiadau esgusodol, effeithio ar eich astudiaethau a'ch paratoadau ar gyfer asesiadau. Os bydd unrhyw amgylchiadau'n effeithio ar eich gallu i gwblhau neu gyflwyno asesiad, yna mae gennych yr opsiwn i gyflwyno cais am amgylchiadau esgusodol. Gall hyn ymwneud ag asesiadau parhaus a/neu arholiadau terfynol. Darllenwch y prosesau amgylchiadau esgusodol isod.
- Os oes gennych unrhyw anawsterau, mae croeso i chi gysylltu â'r Tîm Profiad a Gwybodaeth Myfyrwyr fel y gallwn sicrhau eich bod yn cael y cymorth priodol. Rydym yma i helpu.
- Os oes gennych amgylchiadau parhaus sy'n ymwneud â'ch iechyd, eich iechyd meddwl neu eich lles, gallwch lenwi'r Ffurflen Cymorth Myfyrwyr er mwyn cyflwyno cais am ddarpariaethau addysgu ac asesu parhaol, os ydych yn gymwys i wneud hynny.
- Am ragor o fanylion, gweler hefyd arweiniad Amgylchiadau Esgusodol y Brifysgol a hefyd yr arweiniad ynghylch Amgylchiadau Esgusodol a Goblygiadau Ariannol sydd ar gael gan Arian@BywydCampws.