CYNORTHWYWYR ADDYSGU AR GYFER MODIWLAU ISRADDEDIG

Mae gweithio fel Cynorthwy-ydd Addysgu yn gyfle i chi gael profiad gwerthfawr wrth ennill arian ychwanegol.Yn ogystal â hynny, mae’n edrych yn wych ar eich CV!

Mae'r Brifysgol wedi cyflogi myfyrwyr ôl-raddedig i gynorthwyo wrth addysgu modiwlau israddedig ers amser maith. Mae'n gyfle heriol a gwobrwyol i ôl-raddedigion gael profiad mewn meysydd heblaw am eu gweithgareddau ymchwil, ac mae'r rôl yn ddelfrydol at ddibenion datblygiad proffesiynol parhaus. Mae'r Cynghorau Ymchwil, a chyrff eraill sy'n dyfarnu ysgoloriaethau ymchwil, yn cydnabod yr angen i fyfyrwyr gymryd rhan mewn gweithgareddau o'r fath.

Prif ddiben y rôl yw cynorthwyo'r staff academaidd/arweinydd y modiwl i gyflwyno maes penodol i fyfyrwyr israddedig, neu ehangu eu dealltwriaeth ohono. Mae Cynorthwywyr Addysgu hefyd yn cynorthwyo staff academaidd yn eu dyletswyddau addysgu cyffredinol.

Darperir arweiniad, mentora a monitro llawn gan aelod priodol o'r staff academaidd, fel arfer, arweinydd y modiwl.

Os ydych chi wedi cael eich cyflogi fel Cynorthwy-ydd Addysgu yn ystod Semester 1, byddwch yn parhau i fod ar y rhestr o Gynorthwywyr Addysgu ar gyfer Semester 2. Os na fyddwch ar gael ar gyfer Semester 2 mwyach, gwnewch yn siŵr eich bod yn rhoi gwybod i PGR-scienceengineering@abertawe.ac.uk cyn gynted â phosib pan fyddwch yn gwybod am hyn – fel arall, cewch eich clustnodi i fodiwlau yn Semester 2.

Mewnrwyd y CGP

CYNORTHWYWYR ADDYSGU PRESENNOL - Defnyddiwch fewnrwyd y Gyfadran Gwyddoniaeth a Pheirianneg i gofnodi oriau a weithiwyd. I fewngofnodi i'r Fewnrwyd, defnyddiwch eich rhif myfyriwr wedi'i ddilyn gan @abertawe.ac.uk

Sylwer, bydd pob taflen amser yn cau ddydd Gwener olaf pob mis. Os byddwch yn colli'r dyddiad cau hwn, cysylltwch â'r tîm cyn gynted ag y bo modd er mwyn sicrhau y caiff yr oriau eu cofnodi ar eich rhan chi.

YSGOLORIAETHAU YMCHWIL - Os ydych yn fyfyriwr sy'n dilyn ysgoloriaeth ymchwil ar hyn o bryd ac rydych chi'n gweithio fel cynorthwy-ydd addysgu, bydd eich contract cynorthwy-ydd addysgu'n dod i ben yn awtomatig pan ddaw eich ysgoloriaeth ymchwil i ben.

Ar gyfer ymholiadau pellach mewn perthynas â chynorthwywyr addysgu, cysylltwch yn uniongyrchol â

Theresa Carlsen or Tom Gooch