MAI/MEHEFIN 2023 ASESIADAU

Cynhelir holl arholiadau terfynol Semester 2 ym mis Mai/Mehefin rhwng 15 Mai a 9 Mehefin 2023.

Cynhelir pob arholiad ar y safle naill ai ar Gampws y Bae neu mewn lleoliadau allanol (Y Neuadd Chwaraeon/Neuadd Brangwyn). Mae hyn yn cynnwys yr holl fodiwlau ar gyfrifiaduron.

Sicrhewch eich bod yn gwirio'ch amserlen arholiadau yn ofalus, ac yn ogystal â gwirio'r dyddiadau asesu, amseroedd rhyddhau a dyddiadau cau, byddwch yn siŵr o wirio'r lleoliad ac a gaiff yr asesiad ei gynnal ar-lein neu ar y safle/wyneb yn wyneb.

Os oes gennych gwestiynau ynghylch amserlen yr arholiadau neu os oes angen cymorth arnoch yn ystod yr arholiadau, cysylltwch â Thîm Profiad a Gwybodaeth Myfyrwyr y Gyfadran er mwyn inni helpu.

Pob lwc gyda'ch asesiadau!

CWESTIYNAU CYFFREDIN