CWESTIYNAU CYFFREDIN AM YR ASESIADAU YM MIS IONAWR
Sut byddaf yn gwybod fy mod i wedi cyflwyno fy ngwaith yn llwyddiannus?
Cyflwyno drwy Turnitin: Ar ôl i chi gwblhau'r broses gyflwyno, bydd derbynneb ddigidol yn ymddangos yn ffenestr eich porwr. Anfonir copi atoch drwy e-bost hefyd. Mae'n bwysig defnyddio cyfeiriad e-bost dilys i dderbyn copi o'r dderbynneb ddigidol hon. Cadwch y dderbynneb a'r cyfeirnod cyflwyno ynddo fel prawf eich bod wedi cyflwyno eich gwaith. Os nad yw'r dderbynneb ddigidol i'w gweld ar y sgrîn ar ôl i chi gwblhau'r broses gyflwyno, ewch yn ôl i dudalen portffolio'r dosbarth ac edrych ar yr aseiniad i sicrhau bod y papur wedi'i gyflwyno'n gywir.
Cyflwyno Gwaith drwy ei lanlwytho i Canvas: I wirio eich bod wedi cyflwyno eich gwaith yn llwyddiannus, ewch i mewn i'r adran 'Assignments' a chlicio ar deitl yr aseiniad. Yn y gornel dde uchaf, dylech weld y gair 'Submitted' a chadarnhad o'r amser cyflwyno.
I sicrhau eich bod wedi cyflwyno'r gwaith cywir ar gyfer y modiwl cywir, rydym ym argymell bod gan bob ffeil rydych yn ei lanlwytho deitl sy'n cynnwys eich rhif myfyriwr, côd y modiwl a theitl byr yn y fformat: côd modiwl_rhif myfyriwr_enw asesiad (e.e. EG-128_123456_arholiad-ar-lein). Peidiwch â chynnwys eich enw mewn unrhyw ffeil rydych yn ei chyflwyno.
Sut dylwn i gyflwyno gwaith ysgrifenedig ar Canvas?
I gyflwyno ffotograff o atebion a ysgrifennwyd â llaw, rydym yn argymell yn gryf eich bod yn defnyddio ap sganio megis Microsoft Office Lens neu ap Adobe Scanner. Os oes modd, a wnewch chi gynnwys eich tudalennau atebion mewn un ffeil pdf. Yn olaf, cyn cyflwyno'r PDF, edrychwch ar y ddogfen eto i sicrhau ei bod yn ddarllenadwy:
- Ydy'r holl ddelweddau'n glir ac wedi'u ffocysu?
- Oes afluniad yn y delweddau a fydd yn golygu ei bod hi’n anodd eu darllen?
- Ydy gogwydd y delweddau'n gywir?
- Ydy eich ap neu eich camera wedi ychwanegu arteffactau, megis dyfrnodau, sydd wedi cuddio rhan o'ch ateb?
- A fyddaf yn gallu darllen a marcio eich gwaith yn rhwydd?
Gall cymryd yr ychydig funudau ychwanegol hyn osgoi problemau difrifol nes ymlaen.
Rwyf wedi colli terfyn amser; beth dylwn i ei wneud?
Os ydych chi wedi colli terfyn amser oherwydd amgylchiadau anodd, darllenwch yr wybodaeth ar y dudalen Amgylchiadau Esgusodol ar gyfer Asesiadau Terfynol a chysylltwch â'r Tîm Gwybodaeth Myfyrwyr yn engoffice@abertawe.ac. i drafod eich opsiynau.
Mae fy modiwl ar goll o amserlenni asesiadau mis Mai/Mehefin
Os ydych chi'n sylwi nad yw modiwl rydych chi'n disgwyl ei gwblhau yn ystod cyfnod asesu mis Mai/Mehefin yn ymddangos ar yr amserlen, e-bostiwch engoffice@abertawe.ac.uk cyn gynted â phosib.
Pa borwr dylwn i ei ddefnyddio i gael mynediad at Canvas a chwblhau fy asesiadau?
Chrome yw'r porwr rydym yn ei argymell, a Firefox yw'r ail ddewis gorau. Rydym yn eich cynghori i ddefnyddio un o'r porwyr hyn, Chrome o ddewis.