Sgrin yn dangos athro yn pwyntio at fwrdd gyda ffon

Cael Mynediad At Gyrif MyUni Ac Apiau

Mewngofnodwch i’ch cyfrif MyUni gan ddefnyddio eich enw defnyddiwr a’ch cyfrinair ym Mhrifysgol Abertawe i gymryd rhan yn ddigidol yn eich addysg, gweld marciau ac adborth ar gyfer eich astudiaethau a derbyn cymorth drwy amrywiaeth o gyfryngau ar-lein megis:

  • E-bost y Brifysgol
  • Y Fewnrwyd – cofrestru, cofnod myfyriwr, amserlen
  • Canvas – cynnwys modiwlau a chyrsiau ar-lein
  • Apiau eraill

Canllaw Dysgu O Bell

Mae'r canllaw i ddysgu o bell yn rhoi dolenni i feddalwedd i chi eu defnyddio yn eich astudiaethau, a chanllawiau i'ch helpu i ddechrau arni. Hefyd, ceir awgrymiadau ar gyfer dysgu ar-lein, ac argymhellion ar gyfer dulliau i'ch helpu o ran cynhyrchiant, gweithio'n gallach a llawer mwy. Archwiliwch y canllaw a gwneud y gorau o'ch dysgu ar-lein ym Mhrifysgol Abertawe.

Osgoi Llên-Ladrata

Mewn byd lle mae ffynonellau’n fwyfwy digidol, mae’n bwysicach nag erioed deall sut i gadw cofnod o leoliad eich ffynonellau a sut i gyfeirnodi cynnwys ar-lein yn gywir sy’n gallu cynnwys syniadau, ffigurau, meddalwedd, diagramau neu ddeunyddiau eraill o’r rhyngrwyd. Gall fod yn hawdd copïo a gludo deunyddiau o’r rhyngrwyd ac esgeuluso nodi’r ffynhonnell a chydnabod yr awdur, a gall fod yn demtasiwn cael ychydig o gymorth gydag aralleirio gan feddalwedd sy’n ymddangos fel ei bod yn gwneud hyn yn awtomatig. Gellir ystyried y ddau weithgaredd hyn yn gamymddygiad academaidd bwriadol, sy’n arwain at ganlyniadau difrifol o ran eich canlyniadau a’ch astudiaethau yn y dyfodol. Edrychwch ar ein canllaw ar Uniondeb Academaidd a Chamymddygiad Academaidd ar-lein i gael rhagor o wybodaeth.

Olrhain Eich Cynnydd A'ch Cyflawniadau

Yr Adroddiad Cyflawniad Addysg Uwch (HEAR) yw eich unig gofnod cynhwysfawr o ddysgu a chyflawniadau ym Mhrifysgol Abertawe. Mae eich HEAR yn cynnwys llawer o wybodaeth werthfawr amdanoch chi y bydd cyflogwyr am ei gwybod, felly mae’n bwysig gwybod sut i’w gyrchu a’i rannu. Mae llawer o gyrsiau a dyfarniadau sydd wedi’u hachredu ar gyfer HEAR ar gael i chi eu hastudio ochr yn ochr â’ch astudiaethau ym Mhrifysgol Abertawe a fydd yn cyfrannu’n awtomatig at y cofnod hwn a grëir yn electronig. Ewch i’n tudalen HEAR i gael rhagor o wybodaeth.

Cwrs Datblygu Gyrfa Aacademi Cyflogadwyedd Abertawe

Mae gradd yn bwysig iawn i gael swydd wych, ond mae cyflogwyr yn chwilio'n fwyfwy am sgiliau digidol wrth ddewis pa raddedigion maent am gynnig swyddi iddynt.Bydd Cwrs Datblygu Gyrfa Academi Cyflogadwyedd Abertawe yn dy helpu i ddarparu tystiolaeth o dy sgiliau a dy brofiad, a chaiff ei gydnabod yn ffurfiol yn dy Adroddiad Cyrhaeddiad Addysg Uwch (HEAR).Gelli di gael y sgiliau angenrheidiol er mwyn i ti feithrin dy rwydwaith yn ddigidol a chael dy hyrwyddo drwy ddulliau fel LinkedIn, darganfod y dulliau i dy helpu i gynllunio dy yrfa, o chwilio am interniaeth am y tro cyntaf i symud i fyny yn dy yrfa wedi graddio, gyda'r cwrs hwn ar Canvas dan arweiniad arbenigwyr. Cofrestra ar Canvas drwy'r ddolen hon a dechreua heddiw!