delwedd o goron ar sgrin

Rheoli Cyfeirnodau

Mae’n hollbwysig eich bod chi’n cadw cofnod o’ch ffynonellau a’u cyfeirnodi’n gywir pan fyddwch yn creu gwaith a asesir. Gall hyn fod yn anodd pan fyddwch chi’n gweithio gyda nifer mawr o ffynonellau. Mae llawer o offer digidol sy’n gallu’ch helpu chi i reoli eich cyfeirnodau, a gallwch gael rhagor o wybodaeth am rai ohonynt drwy fynd i’r dudalen grynodeb hon  

Cwrs Sgiliau Microsoft

Rydym yn cynnig hyfforddiant ymarferol ar ddefnyddio Microsoft Word, Excel a PowerPoint er mwyn cefnogi a gwella'ch effeithiolrwydd academaidd, gan ddarparu sgiliau digidol i'w defnyddio trwy gydol eich astudiaethau ac yn eich cyflogaeth yn y dyfodol. Bydd gennych gyfle i weithio gyda thempledi arddull academaidd i berffeithio eich sgiliau mewn fformatio dogfennau, dewisiadau dylunio a didoli data. Cewch ragor o wybodaeth am y cwrs a chadw eich lle yma.  

Meddalwedd Arbenigol ar gyfer Eich Cwrs

Os oes angen meddalwedd arbenigol arnoch a ddarperir gan y brifysgol ar gyfer eich cwrs, gallwch gyrchu’r feddalwedd honno drwy fynediad cyfrifiadur personol o bell er mwyn defnyddio meddalwedd sydd ar gael ar gyfrifiaduron y brifysgol yn unig, neu i gyrchu meddalwedd benodol os na fydd system weithredu eich peiriant yn caniatáu ichi ei gosod. Edrychwch ar dudalen we’r Gwasanaeth Mynediad Cyfrifiadur Personol o Bell er mwyn canfod mwy a chysylltu â chyfrifiadur ar y campws. 

Sgiliau Technoleg Gwybodaeth Sylfaenol Ar iView Hub

Fel myfyriwr ym Mhrifysgol Abertawe, byddwch yn gymwys i danysgrifio am ddim i iView Hub. Y cyfan mae angen i chi ei wneud yw cofrestru gan ddefnyddio'ch e-bost Prifysgol Abertawe i greu eich cyfrif. Ar ôl i chi gofrestru, mae'r platfform hwn yn cynnig canllawiau i amrywiaeth gynhwysfawr o offer technoleg gynorthwyol a meddalwedd cynhyrchiant. Mae gan yr adnodd hwn lyfrgell o gynnwys sy'n ehangu, ac mae'n cynnig cyfres o fideo-diwtorialau byr a chanllawiau ar gyfer fersiynau o’r feddalwedd ar blatfformau Windows a Mac. Cofrestrwch a darllen mwy am yr hyn a gynigir ar iView hub.

Offer ar gyfer cynhyrchiant a gweithio'n gallach   

Mae ystod gyflawn o offer cynhyrchiant digidol ar gael i chi eu defnyddio am ddim er mwyn eich helpu i drefnu'ch gwaith. Gallwch gael syniadau o feddalwedd newydd i roi cynnig arni megis cymryd nodiadau, cynllunio neu brawf-ddarllen, gyda dolenni mynediad a chyfleoedd i roi cynnig ar y feddalwedd eich hun, drwy fynd i'r dudalen Offer ar gyfer Cynhyrchiant a Gweithio'n Gallach yn ein Canllaw Dysgu o Bell.