Sgrin yn dangos silwetau 3 o bobl

Offer Cydweithredu Ar-lein

Fel rhan o’ch astudiaethau neu’ch asesiadau, efallai gofynnir i chi weithio mewn grwpiau.  Pan fydd cyfyngiadau ynghylch cyswllt wyneb yn wyneb ar waith, bydd angen i chi ymgymryd â gwaith cydweithredol ar-lein lle bynnag y bo moddMae’r dudalen hon o offer cydweithredu yn cynnwys popeth bydd ei angen arnoch chi i ddechrau cydweithio ar-lein, ynghyd â’r feddalwedd i wneud hynny. Hyd yn oed os nad oes gwaith grŵp gennych, bydd y canllaw hwn yn eich helpu i gadw mewn cysylltiad â’ch cyd-fyfyrwyr.

Dysgu o Weminarau

Gyda llawer o addysgu’n defnyddio gweminarau ar-lein bellach, nod y canllaw hwn ar ddysgu o weminarau yw eich helpu i wneud yn fawr o’r math hwn o addysgu a chydweithredu.

Defnyddio Zoom ar gyfer Cyfarfodydd ar-lein 

Addysgir Darlithoedd Ar-lein ym Mhrifysgol Abertawe trwy Zoom yn bennaf, a ddefnyddir yn helaeth hefyd ar gyfer gwe-gynadledda ym myd gwaith. Felly, bydd angen ichi ymgyfarwyddo â'r ap a'i nodweddion er mwyn llwyddo i gael mynediad a chymryd rhan yn eich darlithoedd, a bod yn rhan o'r gweithle ar ôl y Brifysgol. Os hoffech ddysgu mwy am Zoom neu os oes angen cymorth arnoch, gallwch edrych ar ganllaw cynhwysfawr y Brifysgol i ddefnyddio Zoom.  

Microsoft Teams

Mae Microsoft Teams yn sianel ardderchog ar gyfer gweithio gyda'ch cymheiriaid a chyfathrebu â nhw. Efallai bydd rhai staff yn y Brifysgol am ddefnyddio Microsoft Teams i gynnal apwyntiadau neu diwtorialau. Os hoffech chi ddysgu rhagor, gallwch ddarllen y canllaw hwn gan Microsoft ynghylch gwella eich sgiliau digidol yn Teams. 

Meddalwedd Arbenigol ar gyfer Eich Cwrs 

Os oes angen meddalwedd arbenigol arnoch a ddarperir gan y brifysgol ar gyfer eich cwrs, gallwch gyrchu’r feddalwedd honno drwy fynediad cyfrifiadur personol o bell er mwyn defnyddio meddalwedd sydd ar gael ar gyfrifiaduron y brifysgol yn unig, neu i gyrchu meddalwedd benodol os na fydd system weithredu eich peiriant yn caniatáu ichi ei gosod. Edrychwch ar dudalen we’r Gwasanaeth Mynediad Cyfrifiadur Personol o Bell er mwyn canfod mwy a chysylltu â chyfrifiadur ar y campws.