.Sgrin yn arddangos arlunydd yn dal brwsh paent a phaled paent

Cwrs Sgiliau Microsoft  

Mae cyflogwyr yn chwilio am raddedigion sy’n gallu gweithio’n effeithiol ac yn arloesol gyda thechnoleg i wella effeithlonrwydd. Bydd y gweithdy ymarferol yn y cwrs sgiliau Microsoft yn eich addysgu am y sgiliau i fformatio dogfennau i fodloni safonau gofynnol, creu posteri a chyflwyniadau gwell, a dadansoddi a chyflwyno canfyddiadau’n effeithiol o symiau mawr o ddata. 

Meddalwedd ar gyfer Myfyrwyr Prifysgol Abertawe 

Fel myfyriwr ym Mhrifysgol Abertawe, bydd gennych fynediad at amrywiaeth eang o feddalwedd y gallwch ei defnyddio i greu gwaith yn ddigidol.  Bydd yn fanteisiol i chi ymgyfarwyddo â’r feddalwedd hon oherwydd y byddwch yn dod ar ei thraws ac yn ei defnyddio yn y gweithle ar ôl y brifysgol. Am restr lawn o’r feddalwedd sydd ar gael, ewch i dudalen meddalwedd y gwasanaethau TG.