Mae achos o ddau ddigwyddiad neu fwy sy'n dramgwydd neu'n 'dramgwydd difrifol' yn debygol o gael ei gyfeirio at y Gwasanaethau Academaidd yn unol â Gweithdrefnau Disgyblu Myfyrwyr.
Mae enghreifftiau o dramgwyddau o'r fath yn cynnwys:
• Gwahodd gwesteion neu ganiatáu mynediad iddynt i'ch llety preswyl sy'n destun hunanynysu.
• Mynd i lety preswyl myfyriwr arall sy'n destun hunanynysu.
• Gwahodd gwesteion neu ganiatáu mynediad iddynt i'ch llety preswyl yn groes i ofynion Llywodraeth Cymru (e.e. gofynion cyfyngiadau symud).
• Mynd i lety preswyl myfyrwyr eraill yn groes i ofynion Llywodraeth Cymru (e.e. gofynion cyfyngiadau symud).
• Presenoldeb mewn digwyddiad/ymgynulliad cymdeithasol pan fydd digwyddiadau/ymgynulliadau cymdeithasol o'r fath wedi'u gwahardd gan gyfyngiadau Llywodraeth Cymru.
• Digwyddiad unigol (untro) a restrwyd uchod sy'n achosi, neu sy'n debygol o achosi, niwed i enw da'r Brifysgol.
• Rhoi gwybodaeth ffug neu gamarweiniol i'r Brifysgol yn dilyn cais rhesymol mewn perthynas â digwyddiad Covid-19.
• Digwyddiadau sydd wedi arwain at yr Heddlu yn rhoi Hysbysiad o Gosb Benodol neu Ddirwy neu Rybudd mewn perthynas â thorri cyfreithiau neu gyfyngiadau Covid-19.
Mae achosion o'r fath yn debygol o gael eu hatgyfeirio at Swyddog Disgyblu Myfyrwyr ac mae'r mathau o gosbau a allai fod yn berthnasol wedi'u cynnwys yn Atodiad 3 Gweithdrefn Disgyblu'r Brifysgol, ac maent yn cynnwys y canlynol:
• Rhybudd ysgrifenedig ffurfiol
• Gofyniad i lofnodi Cytundeb Ymddygiad
• Gofyniad bod y myfyriwr yn ymgymryd â gwasanaethau heb dâl hyd at uchafswm o 28 awr ar gyfer y Brifysgol, Undeb y Myfyrwyr, neu’r gymuned
Yn ogystal, gan ddibynnu ar natur y digwyddiad, efallai y cynhelir asesiad risg yn unol ag Atodiad 2 Gweithdrefn Disgyblu'r Brifysgol a gallai hyn arwain at wahardd y myfyriwr yn rhannol neu'n llawn rhag astudio a'i wahardd rhag safleoedd y Brifysgol wrth aros am ganlyniad y weithdrefn ddisgyblu. Mae gan waharddiadau interim fel hyn oblygiadau difrifol ar gyfer astudiaethau myfyriwr.