Bydd y rheoliadau dilyniant canlynol yn gymwys i’r holl fyfyrwyr sy’n dechrau eu rhaglenni gradd. 

Mae’r Brifysgol wedi awdurdodi Cyfadrannau/Ysgolion sydd â meysydd pwnc sy’n arwain at achrediad proffesiynol i gymhwyso rheolau asesu mwy caeth ar yr amod bod y myfyrwyr wedi cael eu hysbysu’n briodol rhag blaen a bod hynny’n un o ofynion Corff Proffesiynol, Statudol neu Reoleiddio.

2.1 EGWYDDORION CYFFREDINOL

2.1.1 Cyflwyno Marciau (gan gynnwys myfyrwyr rhan-amser nad ydynt wedi cwblhau Rhan Un eto)

Dylai marciau’r holl asesiadau a gwblhawyd yn ystod y flwyddyn academaidd (neu yn achos myfyrwyr rhan-amser, neu fyfyrwyr sy’n dilyn rhaglen ddwy flynedd, marciau ar gyfer modiwlau a gwblhawyd hyd yma) gael eu cyflwyno i Fyrddau Arholi’r Cyfadrannau/Ysgolion.

2.1.2 Penderfyniadau ynghylch Dilyniant

Ar gyfer rhaglenni Safonol, bydd y penderfyniad a yw myfyriwr yn cael camu ymlaen o Ran Un i Ran Dau yn cael ei wneud mewn Bwrdd Arholi Rhan Un fel arfer 9 mis ar ôl dechrau’r rhaglen. Ar gyfer myfyrwyr sy’n dilyn Gradd Meistr mewn Llawfeddygaeth Trawma gall hyn fod 15 mis ar ôl dechrau’r rhaglen (h.y. ar gyfer mynediad ym mis Medi bydd hyn yn digwydd ym mis Rhagfyr fel arfer). Fel arfer bydd myfyrwyr sy’n methu â chymhwyso ar yr ymgais cyntaf yn cael gwneud iawn am fethiannau trwy sefyll arholiadau atodol neu drwy gyflwyno gwaith cwrs atodol. Dim ond Bwrdd Dilyniant a Dyfarnu’r Brifysgol all ddyfarnu arholiadau ailsefyll. Caiff yr holl benderfyniadau ynghylch dilyniant eu gwneud gan Fwrdd Dilyniant a Dyfarnu’r Brifysgol gan gyfeirio at set o Reoliadau Asesu’r Brifysgol. Yn unol â’r canllawiau hyn a’r rheolau dilyniant, ar gyfer myfyrwyr sy’n dechrau eu rhaglen ym mis Medi, bydd arholiadau atodol ac ailgyflwyno gwaith a asesir ar gyfer modiwlau y methwyd ynddynt yn digwydd fel arfer yn y mis Awst/Medi canlynol (neu, dan amgylchiadau eithriadol a chyda chaniatâd penodol Cadeirydd y Bwrdd Dilyniant a Dyfarnu, ym mis Mai-Mehefin – ar gyfer modiwlau a addysgir ym Mloc Addysgu 1). Fel arfer bydd disgwyl i Fwrdd Dilyniant a Dyfarnu’r Brifysgol ailystyried achosion myfyrwyr sy’n sefyll arholiadau atodol neu’n ailgyflwyno gwaith a asesir fel y bo’n briodol.

2.1.3 Marcio Dienw

 Cyfeirier at Polisi Ar Farcio Anhysbys.

2.1.4 Datgelu Pwy yw’r Ymgeisydd

 Cyfeirier at Polisi Ar Farcio Anhysbys.

2.1.5 Datgelu Canlyniadau

 Dylid gwahaniaethu rhwng marciau dros dro a marciau wedi’u cadarnhau.

 Cyfeirier at Bolisi’r Brifysgol ar Gyhoeddi Marciau.

2.1.6 Apeliadau yn erbyn penderfyniadau

Gall myfyrwyr nad ydynt yn cymhwyso i gamu ymlaen i Ran Dau ofyn am adolygiad o benderfyniad Bwrdd Dilyniant a Dyfarniadau’r Brifysgol yn unol â Gweithdrefn Apeliadau a/neu Weithdrefn Cywirdeb Marciau Cyhoeddedig y Brifysgol, a gyhoeddir yn y Rheolau Academaidd.

2.2 Rheolau Asesu Cyffreddinol: Graddau Meistr A Addysgir Safonol

G1

50% fydd y marc Llwyddo ar gyfer modiwlau. Bydd credydau’n cael eu dyfarnu i ymgeiswyr sy’n llwyddo mewn modiwl (mae rheoliadau goddefiad yn berthnasol).

G2

Er mwyn camu ymlaen o Ran Un i Ran Dau rhaid i ymgeisydd amcanu at gronni credydau fel a nodir isod: 

  • Gradd Meistr a Addysgir (MSc/MA/LLM) 120 o gredydau (= 60 o gredydau ECTS)

G3

Gall Cyfadrannau/Ysgolion nodi modiwlau “craidd” fel y bo’n briodol ar gyfer rhaglenni unigol, y mae’n rhaid llwyddo ynddynt gyda marc o 50% o leiaf cyn y gall ymgeisydd gamu ymlaen. Rhaid bod y modiwlau “craidd” ar gyfer pob rhaglen wedi’u nodi’n glir yn llawlyfrau’r Cyfadrannau/Ysgolion neu lenyddiaeth arall gan y Cyfadrannau/Ysgolion ac ar feddalwedd asesu’r Brifysgol. Dylai Cyfadrannau/Ysgolion nodi na ellir dyfarnu meddiannau a oddefir ar gyfer modiwlau craidd. Bydd modiwl sy’n cynnwys y darn/darnau o ddysgu annibynnol cyfeiriedig, yn ôl ei natur, yn cael ei ystyried yn ‘fodiwl craidd’, a bydd marc llwyddo o 50% yn cael ei gymhwyso’n unffurf.

G4

Yn ôl disgresiwn Bwrdd Dilyniant a Dyfarnu’r Brifysgol, gellir caniatáu i ymgeiswyr llawn-amser sydd wedi bod yn aflwyddiannus mewn unrhyw fodiwl yn Rhan Un gael un ymgais pellach i wneud iawn am eu methiant ym mhob modiwl o’r fath, ar yr amod y gellir cyflawni hyn o fewn y terfyn amser ar gyfer y radd.

G5 

Bydd ymgeisydd llawn-amser a gafodd gwblhau modiwl(au) yn lle’r un y gwnaeth fethu ynddo/rhai y gwnaeth fethu ynddynt yn gymwys ar gyfer y marc wedi’i gapio yn unig a dim ond un ymgais fydd yn ei gael i lwyddo yn y modiwl (codir ffi).

G6

Ni fydd ymgeiswyr sy’n bodloni’r arholwyr mewn ymgais i wneud iawn am fethiant ond yn gymwys i gael marc hyd at y trothwy wedi’i gapio o 50%, ym mhob modiwl o’r fath, ni waeth beth fo lefel eu perfformiad mewn gwirionedd. Bydd Bwrdd Dilyniant a Dyfarnu’r Brifysgol yn cyfeirio at y marc wedi’i gapio/marc gorau i bennu’r cyfartaledd ar gyfer y lefel astudio.

G7

Bydd ymgeiswyr sy’n methu â gwneud iawn am fethiant mewn modiwl a gwblhawyd yn Rhan Un, ac felly’n methu â chamu ymlaen i Ran Dau, yn cael gwybod ei bod yn ofynnol tynnu’n ôl o’r Brifysgol. Ni fydd yr ymgeiswyr hynny’n cael unrhyw ymgeisiau pellach i gwblhau eu rhaglen astudio a byddant yn gymwys i gael eu hystyried ar gyfer cymhwyster ymadael yn unig. Ni fydd ymgeiswyr sydd wedi cael penderfyniad ei bod yn ofynnol tynnu’n ôl o’r Brifysgol yn cael unrhyw ymgeisiau pellach i wneud iawn am fethiannau yn eu modiwlau ac ni fyddant yn gymwys i drosglwyddo credydau i raglen astudio arall ym Mhrifysgol Abertawe a bydd eu hastudiaethau’n cael eu terfynu. Fel arfer, ni fydd ymgeiswyr sydd wedi cael penderfyniad ei bod “Yn Ofynnol Tynnu’n Ôl o’r Brifysgol” yn cael eu derbyn yn ôl i’r un rhaglen astudio, nac i raglen gytras, heb gymeradwyaeth y Pwyllgor Recriwtio a Derbyn.

G8

Fel arfer bydd Ymgeiswyr llawn-amser nad ydynt yn ceisio gwneud iawn am fodiwlau y methwyd ynddynt yn ystod y cyfnod ailsefyll yn cael marc o 0% yn y modiwlau hynny, ac ni fyddant yn cael cyfle pellach i wneud iawn am y methiant. Fodd bynnag, bydd egwyddor y marc gorau’n gymwys ym Mwrdd (ailsefyll) mis Medi; bydd y Bwrdd yn cyfeirio at y marc uchaf a gafwyd ym mis Ionawr/Mehefin. Dim ond o fewn sesiwn academaidd y bydd egwyddor y marc gorau’n gymwys.

G9 

Gall ymgeiswyr sy’n cronni 90 o gredydau neu fwy yn Rhan Un, ond llai na 120 o gredydau ar eu hail ymgais, yn ôl disgresiwn y Bwrdd Arholi, gymhwyso i gamu ymlaen i Ran Dau, os yw’r holl amodau canlynol yn cael eu bodloni:

  • Bod y marc cyfartalog ar y cyfan ar gyfer Rhan Un yn 50% o leiaf.
  • Bod y modiwlau y maent wedi methu ynddynt heb gael eu nodi’n flaenorol fel ‘modiwlau craidd’ ar gyfer y rhaglenni penodol (gweler rheol ddilyniant gyffredinol G4).
  • Bod y marciau mewn UNRHYW fodiwl heb fod yn llai na 40%.* Cyfeirir at y credydau ar gyfer y modiwlau hynny fel methiannau a oddefir (bydd y rhain yn ymddangos fel graddau F ar gofnod y myfyriwr).

*   Mae marc is na 40% mewn unrhyw fodiwl yn golygu na chaniateir goddefiad.

Gall rhaglenni fabwysiadu rheoliadau mwy caeth o ganlyniad i ofynion Cyrff Proffesiynol/Cyrff Noddi.

Gall ymgeiswyr sy’n gymwys ar gyfer goddefiad ar yr ymgais cyntaf ac sy’n dymuno ildio eu hawl i ailsefyll y modiwlau y gwnaethant fethu ynddynt, gyda chefnogaeth eu Cyfadran/Ysgol, gyflwyno cais am oddefiad o fewn 10 diwrnod i gael eu hysbysu’n swyddogol o’u canlyniad. Rhaid i geisiadau gael eu llofnodi gan y Cyfadran/Ysgol a’u cyflwyno i’r Gwasanaethau Academaidd i gael eu cymeradwyo.

G10

Dan amgylchiadau eithriadol ac yn unol â Pholisi’r Brifysgol ar Amgylchiadau Esgusodol sy’n Effeithio ar Asesiad, gall ymgeiswyr sy’n methu â gwneud iawn am fethiant yn eu modiwl(au) yn ystod y cyfnod ailsefyll oherwydd amgylchiadau esgusodol neu sy’n methu yn y modiwl ar y cyfle cyntaf yn ystod y cyfnod ailsefyll (h.y. fel gohiriad) gyflwyno tystiolaeth o amgylchiadau o’r fath i’w Cyfadran/Ysgol er mwyn iddo’u hystyried. Yn ôl disgresiwn Bwrdd Dilyniant a Dyfarnu’r Brifysgol, gellir caniatáu un cyfle pellach i’r ymgeiswyr hynny ailsefyll. Cynhelir yr ail-asesiad(au) fel arfer ar yr adeg asesu nesaf ar gyfer y modiwlau dan sylw yn y flwyddyn academaidd nesaf.

G11

Ni fydd ymgeiswyr sy’n mynd i gael eu hail-arholi mewn prosiectau gosod neu fathau eraill o waith cwrs yn cael ailgyflwyno fersiynau wedi’u haddasu o’u gwaith, ond bydd yn ofynnol iddynt gyflwyno gwaith newydd i’w asesu ar destunau gwahanol i’r rhai a fethodd â bodloni’r arholwyr.

G12

Ni fydd ymgeiswyr sydd wedi cymhwyso i gamu ymlaen i Ran Dau yn cael dewis ailadrodd unrhyw fodiwl y maent wedi llwyddo ynddo, na gwneud iawn am fethiant a oddefwyd, er mwyn gwella’u perfformiad.

G13

Ystyrir bod ymgeisydd sy’n absennol am y cyfan neu ran o arholiad ysgrifenedig (neu sy’n methu â chyflwyno prosiectau neu waith cwrs gosod erbyn y dyddiad(au) gofynnol wedi methu yn y modiwl(au) dan sylw. Yn achos ymgeiswyr rhan un sy’n methu â bod yn bresennol mewn arholiadau oherwydd amgylchiadau esgusodol, rhaid cyflwyno hawliad am ohiriad i’r Gyfadran/Ysgol Cartref naill ai cyn dyddiad yr arholiad neu o fewn pum niwrnod gwaith i’r dyddiad y digwyddodd yr arholiad. Rhaid i geisiadau am ohiriadau gael eu hystyried a’u cefnogi gan y Gyfadran/Ysgol perthnasol a’u cyflwyno i’r Gwasanaethau Academaidd i gael eu cymeradwyo. Bydd yn ofynnol bod Ymgeiswyr y caniatawyd gohiriadau iddynt yn sefyll yr arholiadau yn y cyfnod arholiadau nesaf sydd wedi’i amserlennu ar gyfer y modiwl(au) dan sylw. 

G14 

Bydd angen marc cyfartalog cyffredinol o 60% ar gyfer yr holl raglen er mwyn ennill Teilyngdod. Caiff y marc cyfartalog cyffredinol ar gyfer y rhaglen ei bennu fel a ganlyn:

Cronni CredydauGwerth Perthynol
Y 60 credyd gorau 3
Y 60 credyd gorau nesaf 2
Y 60 credyd sy'n weddill 1

I fyfyrwyr sy'n dechrau ar raglenni o fis Medi 2023 neu fis Ionawr 2024, mae'r pwynt G14 canlynol yn berthnasol:

Mae angen marc cyffredinol o 60% neu fwy ar gyfer y rhaglen gyfan i gymhwyso ar gyfer teilyngdod. Bydd dosbarthiad cyffredinol y radd yn cael ei gyfrifo ar sail cyfartaledd cymedrig marciau'r modiwl, sy'n cael eu pwysoli yn unol â'u gwerth o ran credydau, ar draws y rhaglen gyfan.

G15

Bydd angen marc cyfartalog cyffredinol o 70% neu fwy ar gyfer yr holl raglen er mwyn ennill rhagoriaeth.  Caiff marc cyfartalog cyffredinol y rhaglen ei bennu fel a ganlyn:

Cronni CredydauGwerth Perthynol
Y 60 credyd gorau 3
Y 60 credyd gorau nesaf 2
Y 60 credyd sy'n weddill 1

I fyfyrwyr sy'n dechrau ar raglenni o fis Medi 2023 neu fis Ionawr 2024, mae'r pwynt G15 canlynol yn berthnasol:

Mae angen marc cyffredinol o 70% neu fwy ar gyfer y rhaglen gyfan i gymhwyso ar gyfer rhagoriaeth. Caiff dosbarthiad cyffredinol y radd ei gyfrifo ar sail cyfartaledd cymedrig marciau'r modiwl, sy'n cael eu pwysoli yn unol â'u gwerth o ran credydau, ar draws y rhaglen gyfan.

G16

Bydd craffu manwl ar ymgeiswyr Rhan Un sy’n gwneud iawn am fethiannau trwy wneud modiwlau eraill yn lle modiwlau y methwyd ynddynt.

G17

Bydd penderfyniadau diwedd blwyddyn ar gyfer ymgeiswyr rhan-amser yn cael eu gwneud yn flynyddol a’u cadarnhau gan Fwrdd Dilyniant a Dyfarnu’r Brifysgol, cyn bod canlyniadau portffolio llawn o fodiwlau’n hysbys. Fel arfer, yn achos myfyriwr rhan-amser, bydd y marciau’n cael eu cadarnhau, a bydd y myfyriwr yn cael parhau os ystyrir bod cynnydd yn foddhaol. Bydd rheoliadau asesu diwedd blwyddyn penodol yn rheoli achosion myfyrwyr rhan-amser.

G18

Fel arfer bydd y rheolau a nodir yn y Rheolau Dilyniant Penodol yn dylanwadu ar benderfyniad y Byrddau Arholi Rhan Un ynghylch dilyniant ar gyfer ymgeiswyr. Fodd bynnag, ni ddylai ymgeiswyr ddisgwyl y byddant, fel mater o hawl, yn cael sefyll arholiadau atodol neu’n cael parhau. Gall Bwrdd Dilyniant a Dyfarnu’r Brifysgol ystyried amgylchiadau eraill sy’n gysylltiedig ag achos yr ymgeisydd cyn cadarnhau unrhyw benderfyniad ynghylch dilyniant. Ni fyddai disgwyl i Fwrdd Dilyniant a Dyfarnu’r Brifysgol ganiatáu i ymgeisydd gamu ymlaen i Ran Dau oni bai ei fod wedi bodloni’r meini prawf gofynnol ac wedi dangos cymhwysedd i wneud y gwaith sy’n ofynnol yn Rhan Dau.

G19

Gall Cyfadrannau/Ysgolion sydd wedi’u hachredu’n broffesiynol gymhwyso rheolau dilyniant mwy caeth ar yr amod bod y Corff Achredu Proffesiynol yn ei gwneud yn ofynnol cymhwyso’r rheolau hynny fel un o amodau achredu’r rhaglen. Bydd y rheol fwy caeth yn cael ei chymhwyso at ddibenion achredu yn unig. Dylai myfyrwyr gael eu hysbysu yn llawlyfrau’r Cyfadrannau/Ysgolion ynghylch unrhyw ofynion ychwanegol.

G20

Gan ddibynnu ar nifer y credydau a gronnwyd, gall ymgeiswyr sy’n methu â chwblhau Rhan Un a/neu sy’n tynnu’n ôl o’r Brifysgol fod â hawl i gymhwyster ymadael. 

G21

Bydd cymwysterau ymadael a ddyfernir i fyfyrwyr â methiannau a oddefir yn cael eu henwi.

G22

Bydd ymgeiswyr sy’n ymadael â Thystysgrif/Diploma Ôl-raddedig yn gymwys ar gyfer y dyfarniad priodol “gyda Theilyngdod” lle maent wedi llwyddo yn y nifer gofynnol o gredydau ac wedi ennill marc cyfartalog ar y cyfan nad yw’n llai na 60% ac nad yw’n fwy na 69.99% ar gyfer y dyfarniad dan sylw.

G23

Bydd ymgeiswyr sy’n ymadael â Thystysgrif/Diploma Ôl-raddedig yn gymwys ar gyfer y dyfarniad priodol “gyda Rhagoriaeth” lle maent wedi llwyddo/cael goddefiad yn y nifer gofynnol o gredydau (120 o gredydau gyda hyd at 30 o gredydau o fethiannau a oddefir yn cael eu caniatáu) ac wedi ennill marc cyfartalog ar y cyfan o 70% ar gyfer y dyfarniad dan sylw.

G24

Nid yw rheolau dilyniant yn gymwys i fyfyrwyr Cyfnewid ac Ymweliadol. Fodd bynnag, bydd y myfyrwyr hynny’n cael cyfle i wneud iawn am fethiannau, fel arfer trwy arholiadau ailsefyll, ond dan rai amgylchiadau, trwy ddulliau asesu eraill y cytunir arnynt gan y Gyfadran/Ysgol.

G25

Bydd ymgeiswyr sy’n methu â chyflwyno eu darn o waith dysgu annibynnol cyfeiriedig erbyn y terfyn amser yn methu yn Rhan Dau o’r rhaglen a dyfernir Diploma Ôl-raddedig iddynt fel dyfarniad ymadael. Ni roddir cyfle i ailgyflwyno’r gwaith.

G26

Fel arfer, bydd ymgeiswyr sy’n cyflwyno eu darn o waith dysgu annibynnol cyfeiriedig erbyn y terfyn amser ac sy’n methu â chael marc llwyddo’n cael ailgyflwyno’r gwaith yn unol â’r terfyn amser priodol.

G27

Bydd ymgeiswyr sy’n methu yn Rhan Dau o’r rhaglen ac y caniateir iddynt ailgyflwyno gwaith yn cael y cyfnodau canlynol i ailgyflwyno’r gwaith. Bydd y marc ar gyfer y gwaith a ailgyflwynir wedi’i gapio ar 50%

Dyddiadau cau ailgyflwyno
Dull AstudioRhoi i mewn ar ôl 09/10Rhoi i mewn cyn 09/10
LLAWN-AMSER  3 mis (ar ôl cyhoeddi’r canlyniadau’n swyddogol) 6 mis
RHAN-AMSER  6 mis (ar ôl cyhoeddi’r canlyniadau’n swyddogol) 12 mis

Gall ymgeiswyr sy’n methu â chyflwyno gwaith erbyn eu dyddiad terfyn wneud cais am estyniad i’w dyddiad terfyn ar gyfer cyflwyno gwaith yn unol â rheoliadau’r Brifysgol.

G29

Ceidw’r Brifysgol yr hawl i godi ffi ail-arholi mewn perthynas ag ailgyflwyno’r darn o waith dysgu annibynnol cyfeiriedig.

2.3 RHEOLAU DILYNIANT PENODOL – CWBLHAU RHAGLENNI SAFONOL LLAWN-AMSER RHAN UN

S1

Mae ymgeiswyr sy’n cronni o leiaf 120 o gredydau, gyda marc o 50% neu uwch, mewn modiwlau ar y Lefel briodol yn cymhwyso’n awtomatig i gamu ymlaen i Ran Dau.

S2

Bydd ymgeiswyr sy’n cronni llai na 120 o gredydau gyda marc o 50% neu uwch yn methu â chymhwyso i gamu ymlaen i Ran Dau. Yn ôl disgresiwn Bwrdd Dilyniant a Dyfarnu’r Brifysgol ac ar yr amod nad yw’r myfyriwr wedi cael cyfle i wneud iawn am fethiant blaenorol yn unrhyw un o’r modiwlau y methwyd ynddynt, fel arfer bydd yn ofynnol i’r ymgeiswyr hynny sefyll arholiadau neu asesiad atodol ym mhob modiwl y methwyd ynddo. Bydd myfyrwyr sy’n dewis peidio ag ailsefyll modiwl, neu gydran asesu, y methwyd ynddo/ynddi yn cael marc o 0%. Fodd bynnag, bydd egwyddor y marc gorau’n gymwys. Ym Mwrdd mis Medi bydd y Bwrdd yn cyfeirio at farc mis Ionawr/Mehefin lle cafwyd marc uwch yn flaenorol (cyfeirier at G9).

S3

Mae gan yr holl ymgeiswyr nad ydynt yn cwblhau Rhan Un a/neu’n camu ymlaen i Ran Dau yr hawl i apelio yn unol â Gweithdrefn Cywirdeb Marciau Cyhoeddedig a/neu Weithdrefn Apeliadau’r Brifysgol.

S4

Gall ymgeiswyr ymadael ar y pwynt hwn gyda Thystysgrif Ôl-raddedig neu Ddiploma Ôl-raddedig, ar yr amod eu bod wedi cronni’r nifer gofynnol o gredydau, h.y.

Tystysgrif Ôl-raddedig Wedi llwyddo mewn 60 o gredydau (gyda 50% neu fwy), isafswm o 40 o gredydau wedi’u dilyn yn Abertawe.
Diploma Ôl-raddedig 120 o gredydau, wedi llwyddo/cael goddefiad mewn isafswm o 80 o gredydau yn Abertawe (caniateir 30 o gredydau o fethiannau a oddefir*).

*Gall rhaglenni fabwysiadu rheoliadau goddefiad mwy caeth o ganlyniad i ofynion Cyrff Proffesiynol/Cyrff Noddi.

S5

Hefyd, gellir dyfarnu Tystysgrif/Diploma Ôl-raddedig gyda theilyngdod/rhagoriaeth i ymgeisydd lle bodlonir yr amodau canlynol:

Tystysgrif Ôl-raddedig gyda Theilyngdod
  • Wedi llwyddo mewn 60 o gredydau yn Rhan Un (gyda 50% neu fwy), isafswm o 40 o gredydau wedi’u dilyn yn Abertawe.
  • Wedi cael marc cyfartalog ar y cyfan nad yw’n llai na 60% ac nad yw’n fwy na 69.99%.
Tystysgrif Ôl-raddedig gyda Rhagoriaeth
  • Wedi llwyddo mewn 60 o gredydau yn Rhan Un (gyda 50% neu fwy), isafswm o 40 o gredydau wedi’u dilyn yn Abertawe.
  • Wedi cael marc cyfartalog ar y cyfan o 70%.
Diploma Ôl-raddedig gyda Theilyngdod
  • Wedi dilyn 120 o gredydau, wedi llwyddo/cael goddefiad mewn isafswm o 80 o gredydau yn Abertawe (caniateir 30 o gredydau o fethiannau a oddefir*) ac wedi cymhwyso i gamu ymlaen i Ran Dau.
  • Wedi cael marc cyfartalog ar y cyfan nad yw’n llai na 60% ac nad yw’n fwy na 69.99%.
Diploma Ôl-raddedig gyda Rhagoriaeth

2.4 RHEOLAU LLAWN-AMSER A RHAN-AMSER PENODOL I GAEL EU CYMHWYSO AR DDIWEDD BWRDD AILSEFYLL RHAN UN AR GYFER RHAGLENNI SAFONOL

Cwblhau Rhan Un

S1

Mae ymgeiswyr sy’n cronni o leiaf 120 o gredydau, gyda marc o 50% neu uwch, mewn modiwlau ar y Lefel briodol yn cymhwyso’n awtomatig i gamu ymlaen i Ran Dau.

S2

Yn ôl disgresiwn y Bwrdd Arholi, gall ymgeiswyr sy’n cronni 90 o gredydau neu fwy ond llai na 120 o gredydau ar eu hail ymgais gymhwyso i gamu ymlaen i Ran Dau, ar yr amod bod yr holl amodau canlynol yn cael eu bodloni:

  • Bod y marc cyfartalog ar y cyfan ar gyfer Rhan Un yn 50% o leiaf.
  • Bod y modiwlau y maent wedi methu ynddynt heb gael eu nodi’n flaenorol fel ‘modiwlau craidd’ ar gyfer y rhaglenni penodol (gweler rheol ddilyniant gyffredinol G3).
  • Bod y marciau mewn UNRHYW fodiwl heb fod yn llai na 40%.* Cyfeirir at y credydau ar gyfer y modiwlau hynny fel methiannau a oddefir (bydd y rhain yn ymddangos fel graddau F ar gofnod y myfyriwr).

*     Mae marc is na 40% mewn unrhyw fodiwl yn golygu na chaniateir goddefiad.

Gall rhaglenni fabwysiadu rheoliadau mwy caeth o ganlyniad i ofynion Cyrff Proffesiynol/Cyrff Noddi.

S3

Bydd ymgeiswyr llawn-amser sy’n ceisio gwneud iawn am fethiant ac sy’n methu â chymhwyso i gamu ymlaen i Ran Dau ar yr ail ymgais yn cael gwybod ei bod yn ofynnol iddynt dynnu’n ôl o’r Brifysgol a byddant yn cael eu hystyried ar gyfer dyfarniad ymadael lle y bo’n briodol.

S4

Bydd ymgeiswyr rhan-amser sy’n ceisio gwneud iawn am fethiant ac sy’n methu â chymhwyso i gamu ymlaen i Ran Dau ar yr ail ymgais yn cael gwybod ei bod yn ofynnol iddynt dynnu’n ôl o’r Brifysgol a byddant yn cael eu hystyried ar gyfer dyfarniad ymadael lle y bo’n briodol.

S5

Mae gan yr holl fyfyrwyr sy’n methu â chwblhau Rhan Un a/neu gamu ymlaen i Ran Dau hawl i apelio yn unol â Gweithdrefn Apeliadau Academaidd a/neu Weithdrefn Cywirdeb Marciau Cyhoeddedig y Brifysgol.

S6

Dan amgylchiadau eithriadol ac yn unol â Pholisi’r Brifysgol ar Amgylchiadau Esgusodol sy’n Effeithio ar Asesiad, gall ymgeiswyr sy’n methu â gwneud iawn am fethiant yn eu modiwl(au) yn ystod y cyfnod ailsefyll oherwydd amgylchiadau esgusodol neu sy’n methu yn y modiwl ar y cyfle cyntaf yn ystod y cyfnod ailsefyll (h.y. fel gohiriad) gyflwyno tystiolaeth o amgylchiadau o’r fath i’w Cyfadran/Ysgol  er mwyn iddo’u hystyried. Yn ôl disgresiwn Bwrdd Dilyniant a Dyfarnu’r Brifysgol, gellir caniatáu un cyfle pellach i’r ymgeiswyr hynny ailsefyll. Cynhelir yr ail-asesiad(au) fel arfer ar yr adeg asesu nesaf ar gyfer y modiwlau dan sylw yn y flwyddyn academaidd nesaf.

S7

Hefyd, gellir dyfarnu Tystysgrif/Diploma Ôl-raddedig gyda theilyngdod/rhagoriaeth i ymgeisydd lle bodlonir yr amodau canlynol:

Tystysgrif Ôl-raddedig gyda Theilyngdod
  • Wedi llwyddo mewn 60 o gredydau yn Rhan Un (gyda 50% neu fwy), isafswm o 40 o gredydau wedi’u dilyn yn Abertawe.
  • Wedi cael marc cyfartalog ar y cyfan nad yw’n llai na 60% ac nad yw’n fwy na 69.99%.
Tystysgrif Ôl-raddedig gyda Rhagoriaeth
  • Wedi llwyddo mewn 60 o gredydau yn Rhan Un (gyda 50% neu fwy), isafswm o 40 o gredydau wedi’u dilyn yn Abertawe.
  • Wedi cael marc cyfartalog ar y cyfan o 70%.
Diploma Ôl-raddedig gyda Theilyngdod
  • Wedi dilyn 120 o gredydau, wedi llwyddo/cael goddefiad mewn isafswm o 80 o gredydau yn Abertawe (caniateir 30 o gredydau o fethiannau a oddefir*) ac wedi cymhwyso i gamu ymlaen i Ran Dau.
  • Wedi cael marc cyfartalog ar y cyfan nad yw’n llai na 60% ac nad yw’n fwy na 69.99%.
Diploma Ôl-raddedig gyda Rhagoriaeth
  • Wedi dilyn 120 o gredydau, wedi llwyddo/cael goddefiad mewn isafswm o 80 o gredydau yn Abertawe (caniateir 30 o gredydau o fethiannau a oddefir*) ac wedi cymhwyso i gamu ymlaen i Ran Dau.
  • Wedi cael marc cyfartalog ar y cyfan o 70%.

*Gall rhaglenni fabwysiadu rheoliadau goddefiad mwy caeth o ganlyniad i ofynion Cyrff Proffesiynol/Cyrff Noddi.

2.5 RHEOLIADAU RHAN-AMSER (RHAGLENNI SAFONOL)

2.5.1 Rheolau Penodol ar gyfer ymdrin â chanlyniadau ymgeiswyr rhan-amser (ran o’r ffordd trwy eu gradd) ar ddiwedd y sesiwn (bwrdd mis Mehefin).

SP1

Dylai ymgeiswyr sy’n llwyddo ym mhob modiwl a ddilynir yn ystod y sesiwn academaidd gael Parhau â’u hastudiaethau.

SP2

Dylai ymgeiswyr sy’n methu mewn unrhyw fodiwl(au) gael cyfle i wneud iawn am y methiant ym mhob modiwl y methwyd ynddo

2.5.2 Rheolau penodol ar gyfer ymdrin â chanlyniadau Ymgeiswyr Rhan-amser (ran o’r ffordd trwy eu gradd) yn y Bwrdd Ailsefyll (Bwrdd mis Medi)

SP3

Dylai ymgeiswyr sy’n llwyddo ym mhob modiwl a ddilynwyd yn ystod y sesiwn academaidd gael parhau â’u hastudiaethau.

SP4

Bydd yn ofynnol i ymgeiswyr sy’n methu yn unrhyw fodiwl ar yr ail ymgais dynnu’n ôl o’r Brifysgol (goddefiad wedi’i gymhwyso).

2.5.3 Rheolau Penodol i’w cymhwyso ar gyfer ymgeiswyr rhan-amser ar ddiwedd Rhan Un

SP5

Bydd ymgeiswyr sy’n cronni o leiaf 120 o gredydau, gyda 50% neu uwch, mewn modiwlau ar y lefel briodol yn cymhwyso’n awtomatig i gamu ymlaen i Ran Dau.

SP6

Bydd ymgeiswyr sy’n cronni llai na 120 o gredydau, gyda 50% neu uwch ar eu hymgais cyntaf, yn methu â chymhwyso i gamu ymlaen i Ran Dau. Gall yr ymgeiswyr hynny gael ail ymgais i wneud iawn am fethiant trwy sefyll arholiadau neu asesiad atodol ym mhob modiwl y methwyd ynddo. Fel arfer, bydd disgwyl i fyfyrwyr wneud iawn am bob methiant. Fodd bynnag, gall Bwrdd Arholi ei gwneud yn ofynnol i’r myfyriwr wneud iawn am yr elfennau o fodiwl y methwyd ynddynt yn unig lle mae mwy nag un darn o waith yn cyfrannu at y marc terfynol ar gyfer y modiwl. Bydd myfyrwyr sy’n dewis peidio ag ailsefyll modiwl, neu elfen asesu, y methwyd ynddo/ynddi yn cael marc o 0%.

SP7

Mae gan yr holl ymgeiswyr sy’n methu â chwblhau Rhan Un a/neu gamu ymlaen i Ran Dau yr hawl i apelio yn unol â Pholisi Cywirdeb Marciau Cyhoeddedig a/neu Weithdrefn Apelio’r Brifysgol.

SP8

Gall ymgeisydd ymadael ar y pwynt hwn gyda Thystysgrif Ôl-raddedig neu Ddiploma Ôl-raddedig, ar yr amod ei fod wedi cronni’r nifer gofynnol o gredydau, h.y.

Tystysgrif Ôl-raddedig Wedi llwyddo mewn 60 o gredydau (gyda 50% neu fwy), isafswm o 40 o gredydau wedi’u dilyn yn Abertawe.
Diploma Ôl-raddedig 120 o gredydau, wedi llwyddo/cael goddefiad mewn isafswm o 80 o gredydau yn Abertawe (caniateir 30 o gredydau o fethiannau a oddefir*).

* Gall rhaglenni fabwysiadu rheoliadau goddefiad mwy caeth o ganlyniad i ofynion Cyrff Proffesiynol/Cyrff Noddi.

SP9

Hefyd, gellir dyfarnu Tystysgrif/Diploma Ôl-raddedig gyda Theilyngdod/Rhagoriaeth i ymgeisydd lle bodlonir yr amodau canlynol:

Tystysgrif Ôl-raddedig gyda Theilyngdod
  • Wedi llwyddo mewn 60 o gredydau yn Rhan Un (gyda 50% neu fwy), isafswm o 40 o gredydau wedi’u dilyn yn Abertawe.

  • Wedi cael marc cyfartalog ar y cyfan nad yw’n llai na 60% ac nad yw’n fwy na 69.99%.

Tystysgrif Ôl-raddedig gyda Rhagoriaeth
  • Wedi llwyddo mewn 60 o gredydau yn Rhan Un (gyda 50% neu fwy), isafswm o 40 o gredydau wedi’u dilyn yn Abertawe.

  • Wedi cael marc cyfartalog ar y cyfan o 70%.

Diploma Ôl-raddedig gyda Theilyngdod
  • Wedi dilyn 120 o gredydau, wedi llwyddo/cael goddefiad mewn isafswm o 80 o gredydau yn Abertawe (caniateir 30 o gredydau o fethiannau a oddefir*) ac wedi cymhwyso i gamu ymlaen i Ran Dau.

  • Wedi cael marc cyfartalog ar y cyfan nad yw’n llai na 60% ac nad yw’n fwy na 69.99%.

Diploma Ôl-raddedig gyda Rhagoriaeth
  • Wedi dilyn 120 o gredydau, wedi llwyddo/cael goddefiad mewn isafswm o 80 o gredydau yn Abertawe (caniateir 30 o gredydau o fethiannau a oddefir*) ac wedi cymhwyso i gamu ymlaen i Ran Dau.

  • Wedi cael marc cyfartalog ar y cyfan o 70%.

*Gall rhaglenni fabwysiadu rheoliadau goddefiad mwy caeth o ganlyniad i ofynion Cyrff Proffesiynol/Cyrff Noddi.

2.5.4 Rheolau Penodol i’w cymhwyso ar gyfer ymgeiswyr rhan-amser ar ddiwedd bwrdd ailsefyll Rhan Un

 Mae’r rheoliadau hyn yn ymddangos dan Reoliad 2.4.

2.6 RHEOLAU AR GYFER DYFARNU GRADDAU MEISTR A ADDYSGIR SAFONOL (RHAN DAU)

2.6.1 Rheoliadau Penodol ar gyfer Dyfarnu Credyd ar Ddiwedd Rhan Dau

S1

50% fydd y marc llwyddo.

S2

Gallai ymgeiswyr sy'n cronni 60 o gredydau yn eu darn modiwl dysgu annibynnol dan gyfarwyddyd (Rhan Dau) gymhwyso ar gyfer dyfarniad gradd. Caiff dosbarthiad cyffredinol y radd ei gyfrifo ar sail y pwysoliadau canlynol:  

Cronni CredydauGwerth Perthynol
Y 60 credyd gorau 3
Y 60 credyd gorau nesaf 2
Y 60 credyd sy'n weddill 1

I fyfyrwyr sy'n dechrau ar raglenni o fis Medi 2023 neu fis Ionawr 2024, mae'r pwynt S2 canlynol yn berthnasol:

Gallai ymgeiswyr sy'n cronni 60 o gredydau yn eu darn modiwl dysgu annibynnol dan gyfarwyddyd (Rhan Dau) gymhwyso ar gyfer dyfarniad gradd. Caiff dosbarthiad cyffredinol y radd ei gyfrifo ar sail cyfartaledd cymedrig marciau'r modiwlau, a gaiff eu pwysoli yn unol â'u gwerth o ran credydau, ar draws y rhaglen gyfan.

S3

Bydd ymgeiswyr sy’n cael marc cyfartalog ar y cyfan nad yw’n llai na 60% ar gyfer y rhaglen gyfan, a hwythau wedi cael 57% neu fwy yn Rhan Un a 60% neu fwy yn Rhan Dau, yn gymwys ar gyfer dyfarnu gradd Meistr gyda theilyngdod.

S4

Bydd ymgeiswyr sy’n cael marc cyfartalog ar y cyfan nad yw’n llai na 70% ar gyfer y rhaglen gyfan, a hwythau wedi cael 65% neu fwy yn Rhan Un a 70% neu fwy yn Rhan Dau, yn gymwys ar gyfer dyfarnu gradd Meistr gyda rhagoriaeth.        

S5

Bydd ymgeiswyr sy’n methu â chyflwyno eu darn o waith dysgu annibynnol cyfeiriedig erbyn y terfyn amser yn cael gwybod ei bod yn ofynnol iddynt dynnu’n ôl o’r Brifysgol a byddant yn cael Diploma Ôl-raddedig fel dyfarniad ymadael. Ni roddir cyfle i ailgyflwyno’r gwaith.

S6

Fel arfer, bydd ymgeiswyr y dyfernir cyfle iddynt ailgyflwyno gwaith gan Fwrdd Dilyniant a Dyfarniadau’r Brifysgol yn cael ailgyflwyno eu darn o waith dysgu annibynnol cyfeiriedig yn unol â’r terfyn amser priodol.

S7

Bydd ymgeiswyr sy’n methu yn Rhan Dau o’r rhaglen ac y caniateir iddynt ailgyflwyno gwaith yn cael y cyfnodau canlynol i ailgyflwyno’r gwaith. Bydd y marc ar gyfer y gwaith a ailgyflwynir wedi’i gapio ar 50%.

Dull AstudioRhoi i mewn ar 09/10 ac wedynRhoi i mewn cyn 09/10
LLAWN-AMSER  3 mis (ar ôl cyhoeddi’r canlyniadau’n swyddogol) 6 mis
RHAN-AMSER  6 mis (ar ôl cyhoeddi’r canlyniadau’n swyddogol) 12 mis

S8

Bydd ymgeiswyr sy’n methu yn eu darn o waith dysgu annibynnol cyfeiriedig ar yr ail ymgais yn cael gwybod ei bod yn ofynnol iddynt dynnu’n ôl o’r Brifysgol. Gellir ystyried yr ymgeiswyr hynny ar gyfer Diploma Ôl-raddedig.

S9

Gall ymgeiswyr sy’n methu â chwblhau neu na chaniateir iddynt gwblhau Rhan Dau fod yn gymwys i gael eu hystyried ar gyfer dyfarnu Diploma Ôl-raddedig.

S10