Gan gynnwys Nyrsio (MSc) a Gwaith Cymdeithasol (MSc)

Bydd y rheoliadau dilyniant canlynol yn gymwys i fyfyrwyr sy’n dechrau eu rhaglenni gradd. Mae’r rheolau hyn yn gymwys ar draws pob campws.

Mae’r Brifysgol wedi awdurdodi Cyfadrannau/Ysgolion sydd â meysydd pwnc sy’n arwain at achrediad proffesiynol i gymhwyso rheolau asesu mwy caeth ar yr amod bod y myfyrwyr wedi cael eu hysbysu’n briodol rhag blaen a bod hynny’n un o ofynion Corff Proffesiynol.

3.1 EGWYDDORION CYFFREDINOL

3.1.1 Cyflwyno Marciau (gan gynnwys myfyrwyr rhan-amser)

Dylai marciau’r holl asesiadau a gwblhawyd yn ystod y flwyddyn academaidd gael eu cyflwyno i Fyrddau Arholi’r Brifysgol. 

3.1.2 Penderfyniadau ynghylch Dilyniant

Bydd y penderfyniad a yw myfyriwr yn cael camu ymlaen o Semester Un i Semester Dau yn cael ei wneud mewn Bwrdd Cyfadrannau/Ysgolion Diwedd Semester. Fel arfer bydd myfyrwyr sy’n methu â chymhwyso i gamu ymlaen ar yr ymgais cyntaf yn cael gwneud iawn am fethiannau trwy sefyll arholiadau atodol neu drwy gyflwyno gwaith cwrs atodol. Gall Cyfadrannau/Ysgolion ddyfarnu arholiadau ailsefyll yn ystod y semester ailsefyll neu o fewn amserlen a bennir gan y Gyfadran/Ysgol. Bydd Cyfadrannau/Ysgolion hefyd yn pennu amlder y Byrddau Semester.

Lle mae rhaglenni’n ddarostyngedig i ofynion Corff Proffesiynol (e.e. MSc Gwaith Cymdeithasol, MSc Nyrsio), gall Cyfadrannau/Ysgolion gynnal Bwrdd i ystyried canlyniadau/dilyniant ran o’r ffordd drwy sesiwn.

3.1.3 Marcio Dienw

Cyfeirier at Bolisi’r Brifysgol ar Farcio Dienw.

3.1.4 Datgelu Pwy yw’r Ymgeisydd

Cyfeirier at Bolisi’r Brifysgol ar Farcio Dienw.

3.1.5 Datgelu Canlyniadau

Dylid gwahaniaethu rhwng marciau dros dro a marciau wedi’u cadarnhau.

Cyfeirier at Bolisi’r Brifysgol ar Gyhoeddi Marciau

3.1.6 Apeliadau yn erbyn Penderfyniadau

Gall myfyrwyr sy’n methu â chymhwyso i gamu ymlaen ofyn am adolygu penderfyniad y Bwrdd yn unol â Gweithdrefn Apeliadau a/neu Gywirdeb Marciau Cyhoeddedig y Brifysgol, a gyhoeddir yn y Rheolau Academaidd.

3.2 RHEOLAU ASESU CYFFREDINOL: GRADDAU MEISTR A ADDYSGIR ESTYNEDIG

G1

50% fydd y marc Llwyddo ar gyfer modiwlau oni bai y nodir fel arall gan y corff proffesiynol neu reoleiddio, y bydd ei fanylion wedi’u cynnwys yn llawlyfr y rhaglen. Bydd credydau’n cael eu dyfarnu i ymgeiswyr sy’n llwyddo mewn modiwl (mae rheoliadau goddefiad yn berthnasol).

G2

Gall ymgeiswyr sy'n cronni cyfanswm o 240 o gredydau gymhwyso ar gyfer dyfarniad gradd. Caiff y marc cyfartalog cyffredinol ar gyfer y rhaglen ei bennu fel a ganlyn:

Cronni CredydauGwerth Perthynol 
Y 60 credyd gorau 4
Y 60 credyd gorau nesaf 3
Y 60 credyd gorau nesaf 2
Y 60 credyd sy'n weddill  1

 

I fyfyrwyr sy'n dechrau ar raglenni o fis Medi 2023 neu fis Ionawr 2024, mae'r pwynt G2 canlynol yn berthnasol:

Gall ymgeiswyr sy'n cronni cyfanswm o 240 o gredydau gymhwyso ar gyfer dyfarniad gradd. Caiff dosbarthiad cyffredinol y radd ei gyfrifo ar sail cyfartaledd cymedrig marciau'r modiwlau, a gaiff eu pwysoli yn unol â'u gwerth o ran credydau, ar draws y rhaglen gyfan.

G3

Bydd penderfyniadau ynghylch dilyniant ar gyfer ymgeiswyr llawn-amser yn cael eu gwneud ar ddiwedd y semester astudio, sy’n cynnwys cyfnod cyfle atodol. Bydd penderfyniadau ynghylch dyfarnu’n cael eu gwneud ar ddiwedd y trydydd semester ac yn cael eu cadarnhau gan Fwrdd Dilyniant a Dyfarnu’r Brifysgol. Ar gyfer myfyrwyr rhan-amser bydd dilyniant yn cael ei gadarnhau ar ddiwedd y flwyddyn.

G4

Gall Cyfadrannau/Ysgolion nodi modiwlau ‘craidd’ fel y bo’n briodol ar gyfer rhaglenni unigol, y mae’n rhaid llwyddo ynddynt gyda marc o 50% o leiaf cyn y gall ymgeisydd gamu ymlaen. Rhaid bod y modiwlau ‘craidd’ ar gyfer pob rhaglen wedi’u nodi’n glir yn llawlyfrau’r Cyfadrannau/Ysgolion neu lenyddiaeth arall gan y Cyfadrannau/Ysgolion ac ar feddalwedd asesu’r Brifysgol. Cyfadrannau/Ysgolion Colegau nodi na ellir dyfarnu meddiannau a oddefir ar gyfer modiwlau ‘craidd’. Rhaid i berfformiad ymgeiswyr mewn modiwlau ‘craidd’ gael ei fonitro gan Gyfadrannau/Ysgolion. Bydd modiwl sy’n cynnwys y darn/darnau o ddysgu annibynnol cyfeiriedig, yn ôl ei natur, yn cael ei ystyried yn ‘fodiwl craidd’, a bydd marc llwyddo o 50% yn cael ei gymhwyso’n unffurf.

G5

Yn ôl disgresiwn y Bwrdd Arholiadau, gellir caniatáu i ymgeiswyr llawn-amser sydd wedi bod yn aflwyddiannus mewn unrhyw fodiwl gael un ymgais pellach i wneud iawn am eu methiant ym mhob modiwl o’r fath, ar yr amod y gellir cyflawni hyn o fewn y terfyn amser ar gyfer y radd.

G6

Bydd ymgeisydd llawn-amser a gafodd gwblhau modiwl(au) yn lle’r un y gwnaeth fethu ynddo/rhai y gwnaeth fethu ynddynt yn gymwys ar gyfer y marc wedi’i gapio yn unig a dim ond un ymgais fydd yn ei gael i lwyddo yn y modiwl (codir ffi).

G7

Ni fydd ymgeiswyr sy’n bodloni’r arholwyr mewn ymgais i wneud iawn am fethiant ond yn gymwys i gael marc hyd at y trothwy wedi’i gapio o 50%, ym mhob modiwl o’r fath, ni waeth beth fo lefel eu perfformiad mewn gwirionedd. Bydd Bwrdd Dilyniant a Dyfarnu’r Brifysgol yn cyfeirio at y marc wedi’i gapio/marc gorau i bennu’r cyfartaledd ar gyfer y lefel astudio.

G8

Gall ymgeiswyr sy’n cronni 90 o gredydau neu fwy ond llai na 120 o gredydau ar eu hail ymgais, yn ôl disgresiwn y Bwrdd Arholi, gymhwyso i gamu ymlaen os yw’r holl amodau canlynol yn cael eu bodloni (nid yw’r rhaglenni MSc Nyrsio ac MSc Gwaith Cymdeithasol yn cymhwyso goddefiad felly rhaid llwyddo ym mhob modiwl i alluogi’r myfyriwr i gamu ymlaen):

  • Bod y modiwlau y maent wedi methu ynddynt heb gael eu nodi’n flaenorol fel ‘modiwlau craidd’ ar gyfer y rhaglenni penodol (gweler rheol ddilyniant gyffredinol G4).
  • Bod y marciau mewn UNRHYW fodiwl heb fod yn llai na 40%.* Cyfeirir at y credydau ar gyfer y modiwlau hynny fel methiannau a oddefir (bydd y rhain yn ymddangos fel graddau F ar gofnod y myfyriwr).
  • Nad yw’r modiwl yn cyfrannu at y 60 o gredydau o ddysgu annibynnol cyfeiriedig.
  • Mai ail ymgeisiau yw’r modiwlau.

* Mae marc is na 40% mewn unrhyw fodiwl yn golygu na chaniateir goddefiad.

Gall rhaglenni (e.e. MSc mewn Gwaith Cymdeithasol ac MSc mewn Nyrsio) fabwysiadu rheoliadau goddefiad mwy caeth o ganlyniad i ofynion Cyrff Proffesiynol/Cyrff Rheoleiddio/Cyrff Noddi.

Gall ymgeiswyr sy’n gymwys ar gyfer goddefiad ar yr ymgais cyntaf ac sy’n dymuno ildio eu hawl i ailsefyll y modiwlau y gwnaethant fethu ynddynt, gyda chefnogaeth eu Cyfadran/Hysgol, gyflwyno cais am oddefiad o fewn 10 diwrnod i gael eu hysbysu’n swyddogol o’u canlyniad. Rhaid i geisiadau gael eu llofnodi gan y Gyfadran/Yysgol a’u cyflwyno i’r Gwasanaethau Addysg i gael eu cymeradwyo.

G9

Bydd ymgeiswyr sy’n methu â gwneud iawn am fethiant mewn modiwl a gwblhawyd ar yr ail ymgais (mae goddefiad yn gymwys) yn cael gwybod ei bod yn ofynnol tynnu’n ôl o’r Brifysgol. Ni fydd yr ymgeiswyr hynny’n cael unrhyw gyfle pellach i gwblhau eu rhaglen astudio a byddant yn gymwys i gael eu hystyried ar gyfer cymhwyster ymadael yn unig. Ni fydd ymgeiswyr sydd wedi cael penderfyniad ei bod “Yn Ofynnol Tynnu’n Ôl o’r Brifysgol” yn cael unrhyw ymgeisiau pellach i wneud iawn am fethiannau yn eu modiwlau ac ni fyddant yn gymwys i drosglwyddo credydau i raglen astudio arall ym Mhrifysgol Abertawe a bydd eu hastudiaethau’n cael eu terfynu. Fel arfer, ni fydd ymgeiswyr sydd wedi cael penderfyniad ei bod “Yn Ofynnol Tynnu’n Ôl o’r Brifysgol” yn cael eu derbyn yn ôl i’r un rhaglen astudio, nac i raglen gytras, heb gymeradwyaeth y Pwyllgor Recriwtio a Derbyn.

G10

Fel arfer bydd Ymgeiswyr nad ydynt yn ceisio gwneud iawn am fodiwlau y methwyd ynddynt yn ystod y cyfnod ailsefyll yn cael marc o 0% yn y modiwlau hynny, ac ni fyddant yn cael cyfle pellach i wneud iawn am y methiant. Fodd bynnag, bydd egwyddor y marc gorau’n gymwys lle geir marc uwch. Dim ond o fewn sesiwn academaidd y bydd egwyddor y marc gorau’n gymwys.

G11

Dan amgylchiadau eithriadol ac yn unol â Pholisi’r Brifysgol ar Amgylchiadau Esgusodol sy’n Effeithio ar Asesiad, gall ymgeiswyr sy’n methu â gwneud iawn am fethiant yn eu modiwl(au) yn ystod y cyfnod ailsefyll oherwydd amgylchiadau esgusodol neu sy’n methu yn y modiwl ar y cyfle cyntaf yn ystod y cyfnod ailsefyll (h.y. fel gohiriad) gyflwyno tystiolaeth o amgylchiadau o’r fath i’w Cyfadran/Hysgol er mwyn iddo’u hystyried. Yn ôl disgresiwn Bwrdd Dilyniant a Dyfarnu’r Brifysgol, gellir caniatáu un cyfle pellach i’r ymgeiswyr hynny ailsefyll. Cynhelir yr ail-asesiad(au) fel arfer ar yr adeg asesu nesaf ar gyfer y modiwlau dan sylw yn y flwyddyn academaidd nesaf.

G12

Ni fydd ymgeiswyr sy’n mynd i gael eu hail-arholi mewn prosiectau gosod neu fathau eraill o waith cwrs yn cael ailgyflwyno fersiynau wedi’u haddasu o’u gwaith gwreiddiol, ond bydd yn ofynnol iddynt gyflwyno gwaith newydd i’w asesu ar destunau gwahanol i’r rhai a fethodd â bodloni’r arholwyr yn wreiddiol.

G13

Ni fydd ymgeiswyr yn cael dewis ailadrodd unrhyw fodiwl y maent wedi llwyddo ynddo, na gwneud iawn am fethiant a oddefwyd, er mwyn gwella’u perfformiad.

G14

Ystyrir bod ymgeisydd sy’n absennol am y cyfan neu ran o arholiad ysgrifenedig (neu sy’n methu â chyflwyno prosiectau neu waith cwrs gosod erbyn y dyddiad(au) gofynnol) wedi methu yn y modiwl(au) dan sylw. Yn achos ymgeiswyr sy’n methu â bod yn bresennol mewn arholiadau oherwydd amgylchiadau esgusodol, rhaid cyflwyno hawliad am ohiriad i’r Gyfadran/Ysgol Cartref naill ai cyn dyddiad yr arholiad neu o fewn pum niwrnod gwaith i’r dyddiad y digwyddodd yr arholiad. Rhaid i geisiadau am ohiriadau gael eu llofnodi gan y Gyfadran/Ysgol perthnasol a’u cyflwyno i’r Gwasanaethau Addysg i gael eu cymeradwyo. Bydd yn ofynnol bod Ymgeiswyr y caniatawyd gohiriadau iddynt yn sefyll yr arholiadau ar yr adeg arholi nesaf sydd wedi’i hamserlennu ar gyfer y modiwl(au) dan sylw. 

G15

Bydd ymgeiswyr sy’n ennill marc cyfartalog ar y cyfan nad yw’n llai na 60% ac nad yw’n fwy na 69.99% ar gyfer y rhaglen gyfan yn gymwys ar gyfer dyfarnu gradd Meistr gyda theilyngdod.

G16

Bydd ymgeiswyr sy’n ennill marc cyfartalog ar y cyfan nad yw’n llai na 70% ar gyfer y rhaglen gyfan yn gymwys ar gyfer dyfarnu gradd Meistr gyda rhagoriaeth.   

G17

Bydd craffu manwl ar ymgeiswyr sy’n gwneud iawn am fethiannau trwy wneud modiwlau eraill yn lle modiwlau y methwyd ynddynt.

G18

Bydd penderfyniadau diwedd blwyddyn ar gyfer ymgeiswyr rhan-amser yn cael eu gwneud yn flynyddol a’u cadarnhau gan Fwrdd Dilyniant a Dyfarnu’r Brifysgol, cyn bod canlyniadau portffolio llawn o fodiwlau’n hysbys. Fel arfer, yn achos myfyriwr rhan-amser, bydd y marciau’n cael eu cadarnhau, a bydd y myfyriwr yn cael parhau os ystyrir bod cynnydd yn foddhaol. Bydd rheoliadau asesu diwedd blwyddyn penodol yn rheoli achosion myfyrwyr rhan-amser.

G19

Fel arfer, bydd y rheolau a nodir yn y Rheolau Dilyniant Penodol yn dylanwadu ar benderfyniad y Byrddau Semester ynghylch dilyniant ar gyfer ymgeiswyr. Fodd bynnag, ni ddylai ymgeiswyr ddisgwyl y byddant, fel mater o hawl, yn cael sefyll arholiadau atodol neu’n cael parhau. Gall y Bwrdd ystyried amgylchiadau eraill sy’n gysylltiedig ag achos yr ymgeisydd cyn gwneud unrhyw benderfyniad ynghylch dilyniant. 

G20

Gall colegau sydd wedi’u hachredu’n broffesiynol gymhwyso rheolau dilyniant mwy caeth ar yr amod bod y Corff Achredu Proffesiynol yn ei gwneud yn ofynnol cymhwyso’r rheolau hynny fel un o amodau achredu’r rhaglen. Bydd y rheol fwy caeth yn cael ei chymhwyso at ddibenion achredu yn unig. Dylai myfyrwyr gael eu hysbysu yn llawlyfrau’r Cyfadrannau/Ysgolion ynghylch unrhyw ofynion ychwanegol.

G21

Gan ddibynnu ar nifer y credydau a gronnwyd, gall ymgeiswyr sy’n methu â chwblhau’r rhaglen a/neu sy’n tynnu’n ôl o’r Brifysgol fod â hawl i gymhwyster ymadael. 

G22

Bydd yn ofynnol i ymgeiswyr sy’n methu yn y 60 o gredydau o fodiwlau a addysgir/modiwlau interniaeth/modiwlau lleoliadau dynnu’n ôl o’r Brifysgol. Mewn rhai achosion, gyda chymeradwyaeth y Gyfadran/Ysgol, gall fod yn bosibl trosglwyddo i’r rhaglen lawn-amser un flwyddyn (Safonol). Dim ond dan amgylchiadau eithriadol y byddir yn caniatáu i ymgeiswyr wneud iawn am y methiant hwn.

G23

Bydd cymwysterau ymadael a ddyfernir i fyfyrwyr â methiannau a oddefir yn cael eu henwi. Nid yw’r rhaglen MSc Nyrsio yn cymhwyso goddefiad felly rhaid llwyddo ym mhob modiwl ar y lefel briodol i fod yn gymwys ar gyfer cymhwyster ymadael, sef Astudiaethau Gofal (ni fydd y myfyrwyr hyn yn gymwys i ymgeisio am gofrestriad gyda’r Cyngor Nyrsio a Bydwreigiaeth).

G24

Bydd ymgeiswyr sy’n ymadael â Thystysgrif/Diploma Ôl-raddedig yn gymwys ar gyfer y dyfarniad priodol “gyda Theilyngdod” lle maent wedi llwyddo yn y nifer gofynnol o gredydau ac wedi ennill marc cyfartalog ar y cyfan nad yw’n llai na 60% ac nad yw’n fwy na 69.99% ar gyfer y dyfarniad dan sylw.

G25

Bydd ymgeiswyr sy’n ymadael â Thystysgrif/Diploma Ôl-raddedig yn gymwys ar gyfer y dyfarniad priodol “gyda Rhagoriaeth” lle maent wedi dilyn y nifer gofynnol o gredydau ac wedi ennill marc ar y cyfan nad yw’n llai na 70% ar gyfer y dyfarniad dan sylw.

G26

Nid yw rheolau dilyniant yn gymwys i fyfyrwyr Cyfnewid ac Ymweliadol. Fodd bynnag, bydd y myfyrwyr hynny’n cael cyfle i wneud iawn am fethiannau, fel arfer trwy arholiadau ailsefyll, ond dan rai amgylchiadau trwy ddulliau asesu eraill y cytunir arnynt gan y Gyfadran/Ysgol.

G27

Bydd ymgeiswyr sy’n methu â chyflwyno eu darn neu ddarnau o waith dysgu annibynnol cyfeiriedig neu waith cyfatebol a gymeradwywyd erbyn y terfyn amser yn cael gwybod ei bod yn ofynnol iddynt dynnu’n ôl o’r Brifysgol a dyfernir Diploma Ôl-raddedig iddynt fel dyfarniad ymadael. Ni roddir cyfle i ailgyflwyno’r gwaith.

G28

Gellir caniatáu i ymgeiswyr sy’n cyflwyno’u darn o waith dysgu annibynnol cyfeiriedig neu waith cyfatebol a gymeradwywyd erbyn y terfyn amser ac sy’n methu ag ennill marc llwyddo ailgyflwyno’r gwaith yn unol â’r terfyn amser priodol. Bydd y gwaith a ailgyflwynir wedi’i gapio ar 50%.

Dull AstudioCofrestru ar ôl 09/10
LLAWN-AMSER  3 mis (ar ôl i’r Brifysgol gyhoeddi’r canlyniadau’n swyddogol)
RHAN-AMSER  6 mis (ar ôl i’r Brifysgol gyhoeddi’r canlyniadau’n swyddogol)

G29

Gall ymgeiswyr sy’n methu â chyflwyno’u gwaith erbyn y terfyn amser ymgeisio am estyniad ar eu terfyn amser ar gyfer cyflwyno yn unol â rheoliadau’r Brifysgol.

G30

Ceidw’r Brifysgol yr hawl i godi ffi ail-arholi mewn perthynas ag ailgyflwyno’r darn o waith.

3.3  RHEOLAU PENODOL I’W CYMHWYSO AR GYFER YMGEISWYR BLWYDDYN UN YM MWRDD SEMESTER UN

S1

Bydd ymgeiswyr sy’n llwyddo yn yr holl gydrannau o fodiwlau/yr holl fodiwlau yn cael parhau â’u hastudiaethau.  

S2

Gellir dyfarnu arholiad ailsefyll neu asesiad atodol i ymgeiswyr sy’n methu mewn modiwl. Dyfernir marc o 0% i ymgeiswyr sy’n dewis peidio ag ailsefyll.

S3

Bydd marciau ymgeiswyr sydd wedi gwneud iawn am unrhyw fethiant mewn modiwl(au) yn cael eu capio ar 50%.

S4

Bydd ymgeiswyr sydd eisoes wedi cael cyfle i ailsefyll oherwydd gofynion Corff Proffesiynol ac sy’n methu mewn cydran o fodiwl ar yr ail ymgais yn cael gwybod ei bod yn ofynnol iddynt dynnu’n ôl o’r Brifysgol ac ni fyddant yn cael unrhyw ymgeisiau pellach i wneud iawn am y methiannau.

S5

Mae gan yr holl ymgeiswyr y mae’n ofynnol iddynt dynnu’n ôl o’r Brifysgol yr hawl i apelio yn unol â Gweithdrefn Cywirdeb Marciau Cyhoeddedig a/neu Weithdrefn Apeliadau’r Brifysgol.

 

3.4  RHEOLAU DILYNIANT PENODOL – BWRDD (DIWEDD SESIWN) BLWYDDYN UN

S1

Mae ymgeiswyr sy’n cronni o leiaf 120 o gredydau, gyda marc o 50% neu uwch, yn cymhwyso’n awtomatig i gamu ymlaen i Flwyddyn Dau.

Dylid caniatáu i ymgeiswyr rhan-amser, ran o’r ffordd drwy eu hastudiaethau, sy’n llwyddo yn yr holl fodiwlau a ddilynwyd yn ystod y sesiwn academaidd barhau â’u hastudiaethau.

S2

Bydd ymgeiswyr nad ydynt yn ateb gofynion S1 yn methu â chymhwyso i gamu ymlaen i Flwyddyn Dau. Yn ôl disgresiwn y Bwrdd Arholi, fel arfer bydd yn ofynnol i’r ymgeisydd sefyll arholiadau neu asesiadau atodol ym mhob modiwl y methwyd ynddo ar yr ymgais cyntaf ar gyfer marc wedi’i gapio o 50%. Dyfernir marc o 0% i fyfyrwyr sy’n dewis peidio ag ailsefyll modiwl y methwyd ynddo.

Yn achos methiant mewn cydran ymarfer ar y rhaglenni MSc Gwaith Cymdeithasol ac MSc Nyrsio, byddir yn caniatáu un ymgais yn unig i ymgeiswyr wneud iawn am y methiant a hynny ar y cyfle nesaf sydd wedi’i amserlennu yn ystod y sesiwn academaidd nesaf. Ni fydd cyfle i wneud iawn am fethiant yn y gydran ymarfer ar gael yn ystod cyfnod yr arholiadau atodol.

S3

Bydd ymgeiswyr sy’n ceisio gwneud iawn am fethiant ac sy’n methu â chymhwyso ar yr ail ymgais yn cael gwybod ei bod yn ofynnol iddynt dynnu’n ôl o’r Brifysgol a byddant yn cael eu hystyried ar gyfer dyfarniad ymadael, lle y bo’n briodol.

S4

Bydd ymgeiswyr ar y rhaglenni MSc Gwaith Cymdeithasol ac MSc Nyrsio sydd wedi’u cofrestru i ailadrodd modiwlau y methwyd ynddynt ac nad ydynt yn ateb gofynion S1 yn cael gwybod ei bod yn ofynnol iddynt dynnu’n ôl o’r Brifysgol a byddant yn cael eu hystyried ar gyfer dyfarniad ymadael, lle y bo’n briodol.

S5

Mae gan yr holl ymgeiswyr sy’n methu â chwblhau Blwyddyn Un neu gamu ymlaen i Flwyddyn Dau yr hawl i apelio yn unol â Gweithdrefn Cywirdeb Marciau Cyhoeddedig a/neu Weithdrefn Apeliadau’r Brifysgol.

S6

Gall ymgeiswyr ymadael ar yr adeg hon â Thystysgrif neu Ddiploma Ôl-raddedig ar yr amod eu bod wedi cronni digon o gredydau (cyfeirier at S5 o  Rheolau Dilyniant Penodol – Bwrdd Ailsefyll Dilyniant Blwyddyn Un).

3.5  RHEOLAU DILYNIANT PENODOL – BWRDD AILSEFYLL DILYNIANT BLWYDDYN UN

S1

Mae ymgeiswyr sy’n cronni o leiaf 120 o gredydau, gyda marc o 50% neu uwch, yn cymhwyso’n awtomatig i gamu ymlaen i Flwyddyn Dau.         

Dylid caniatáu i ymgeiswyr rhan-amser, ran o’r ffordd drwy eu hastudiaethau, sy’n llwyddo yn yr holl fodiwlau a ddilynwyd yn ystod y sesiwn academaidd barhau â’u hastudiaethau.

S2

Gall ymgeiswyr llawn-amser a rhan-amser ar ddiwedd y 120 o gredydau a addysgir (sy’n cyfateb i Flwyddyn Un) sy’n cronni 90 o gredydau neu fwy ond llai na 120 o gredydau ar eu hail ymgais, yn ôl disgresiwn y Bwrdd Arholi, gymhwyso i gamu ymlaen os yw’r holl amodau canlynol yn cael eu bodloni (nid yw’r rhaglen MSc Nyrsio yn cymhwyso goddefiad felly rhaid llwyddo ym mhob modiwl i alluogi’r myfyriwr i gamu ymlaen):

  • Bod y modiwlau y maent wedi methu ynddynt heb gael eu nodi’n flaenorol fel ‘modiwlau craidd’ ar gyfer y rhaglenni penodol (gweler rheol ddilyniant gyffredinol G4).
  • Bod y marciau mewn UNRHYW fodiwl heb fod yn llai na 40%.* Cyfeirir at y credydau ar gyfer y modiwlau hynny fel methiannau a oddefir (bydd y rhain yn ymddangos fel graddau F ar gofnod y myfyriwr).
  • Nad yw’r modiwl yn cyfrannu at y 60 o gredydau o ddysgu annibynnol cyfeiriedig.
  • Mai ail ymgeisiau yw’r modiwlau.

* Mae marc is na 40% mewn unrhyw fodiwl yn golygu na chaniateir goddefiad.

Gall rhaglenni fabwysiadu rheoliadau goddefiad mwy caeth o ganlyniad i ofynion Cyrff Proffesiynol neu Gyrff Rheoleiddio/Cyrff Noddi.

Ar gyfer Myfyrwyr MSc Nyrsio – fel arfer caniateir hyd at ddau ymgais i ymgeiswyr wneud iawn am fethiannau mewn unrhyw gydran asesu mewn modiwl ar yr amod y gellir cyflawni hyn o fewn dwy sesiwn academaidd ac o fewn terfyn amser y radd. Fel arfer bydd yr ymgais cyntaf i wneud iawn am y methiant yn cael ei gynnig mor agos at ddyddiad yr asesiad gwreiddiol â phosibl (fel arfer o fewn 8 i 10 wythnos). Gellir cynnig ail ymgais i wneud iawn am fethiant mewn unrhyw gydran asesu ar argymhelliad Bwrdd Dilyniant a Dyfarnu’r Brifysgol. Bydd ymgeiswyr sy’n gwneud iawn am fethiannau ar yr ail ymgais yn cael eu hystyried yn “ymgeiswyr allanol” a bydd y fwrsariaeth a ddyfarnwyd iddynt yn cael ei hatal dros dro. Unwaith y penderfynwyd fod ymgeisydd wedi llwyddo i wneud iawn am fethiant ac wedi cwblhau’r lefel astudio, bydd yn cael caniatâd i ailgydio yn ei astudiaethau ar bwynt sy’n briodol ym marn y Gyfadran/Ysgol. Bydd yn ofynnol i “ymgeiswyr allanol” gofrestru gyda’r Brifysgol a thalu ffioedd ymgeiswyr allanol, fel y bo’n briodol. Ni fydd yr ymgeiswyr hynny’n cael mynychu darlithoedd, cael gwersi na chael mynediad at gyfleusterau’r Brifysgol. Bydd disgwyl i ymgeiswyr allanol fynychu’r Brifysgol (neu ba bynnag leoliadau dynodedig eraill sy’n ofynnol) dim ond i sefyll arholiadau neu gyflwyno asesiadau fel y bo’n ofynnol.

S3 

Bydd ymgeiswyr rhan-amser, sydd ran o’r ffordd drwy eu 120 o gredydau a addysgir (sy’n cyfateb i Flwyddyn Un) sy’n methu â gwneud iawn am fethiant yn yr holl fodiwlau y methwyd ynddynt ar yr ail ymgais (mae goddefiad yn gymwys) yn cael gwybod ei bod yn ofynnol tynnu’n ôl o’r Brifysgol.

S4

Bydd ymgeiswyr sy’n ceisio gwneud iawn am fethiant ac sy’n methu ag ateb gofynion S2 uchod i gymhwyso i gamu ymlaen i Flwyddyn Dau ar yr ail ymgais yn cael gwybod ei bod yn ofynnol iddynt dynnu’n ôl o’r Brifysgol a byddant yn cael eu hystyried ar gyfer dyfarniad ymadael lle y bo’n briodol.

S5

Dan amgylchiadau eithriadol ac yn unol â Pholisi’r Brifysgol ar Amgylchiadau Esgusodol sy’n Effeithio ar Asesiad, gall ymgeiswyr sy’n methu â gwneud iawn am fethiant yn eu modiwl(au) yn ystod y cyfnod ailsefyll oherwydd amgylchiadau esgusodol neu sy’n methu yn y modiwl ar y cyfle cyntaf yn ystod y cyfnod ailsefyll (h.y. fel gohiriad) gyflwyno tystiolaeth o amgylchiadau o’r fath i’w Gyfadran/Ysgol er mwyn iddo’u hystyried. Yn ôl disgresiwn Bwrdd Dilyniant a Dyfarnu’r Brifysgol, gellir caniatáu un cyfle pellach i’r ymgeiswyr hynny ailsefyll. Cynhelir yr ail-asesiad(au) fel arfer ar yr adeg asesu nesaf ar gyfer y modiwlau dan sylw yn y flwyddyn academaidd nesaf.

S6

Mae gan yr holl ymgeiswyr sy’n methu â chwblhau Blwyddyn Un neu gamu ymlaen i Flwyddyn Dau yr hawl i apelio yn unol â Gweithdrefn Cywirdeb Marciau Cyhoeddedig a/neu Weithdrefn Apeliadau’r Brifysgol.

S7

Gall ymgeiswyr ymadael ar yr adeg hon â Thystysgrif neu Ddiploma Ôl-raddedig ar yr amod eu bod wedi cronni’r nifer cywir o gredydau, h.y:

Tystysgrif Ôl-raddedig Wedi llwyddo mewn 60 o gredydau (gyda 50% neu fwy), gydag isafswm o 40 o gredydau wedi cael eu dilyn yn Abertawe.
Diploma Ôl-raddedig  120 o gredydau, gydag isafswm o 80 o gredydau wedi cael eu dilyn yn Abertawe.

 

Tystysgrif Ôl-raddedig gyda Theilyngdod 
  • Wedi llwyddo mewn 60 o gredydau ym Mlwyddyn Un (gyda 50% neu fwy) gydag isafswm o 40 o gredydau wedi cael eu dilyn yn Abertawe.
  • Wedi ennill marc cyfartalog ar y cyfan nad yw’n llai na 60% ac nad yw’n fwy na 69.99%.
Tystysgrif Ôl-raddedig gyda Rhagoriaeth  
  • Wedi llwyddo mewn 60 o gredydau ym Mlwyddyn Un (gyda 50% neu fwy) gydag isafswm o 40 o gredydau wedi cael eu dilyn yn Abertawe (gyda 50% neu fwy).
  • Wedi ennill marc cyfartalog ar y cyfan o 70% neu fwy.
   
Diploma Ôl-raddedig gyda Theilyngdod 
  • Wedi dilyn 120 o gredydau (caniateir 30 o gredydau o fethiannau a oddefir*), gydag isafswm o 80 o gredydau wedi cael eu dilyn yn Abertawe ac wedi cymhwyso i gamu ymlaen i Flwyddyn Dau.
  • Wedi ennill marc cyfartalog ar y cyfan nad yw’n llai na 60% ac nad yw’n fwy na 69.99%.
Diploma Ôl-raddedig gyda Rhagoriaeth
  • Wedi dilyn 120 o gredydau (caniateir 30 o gredydau o fethiannau a oddefir*), gydag isafswm o 80 o gredydau wedi cael eu dilyn yn Abertawe ac wedi cymhwyso i gamu ymlaen i Flwyddyn Dau.
  • Wedi ennill marc cyfartalog ar y cyfan o 70% neu fwy

*Gall rhaglenni fabwysiadu rheoliadau goddefiad mwy caeth oherwydd gofynion Cyrff Proffesiynol neu Gyrff Rheoleiddio/Noddi.

*Nid yw’r rhaglen MSc Gwaith Cymdeithasol ac MSc Nyrsio yn cymhwyso goddefiad felly rhaid llwyddo yn yr holl fodiwlau i gymhwyso ar gyfer dyfarniad ymadael.

3.6  RHEOLIADAU AR GYFER DYFARNU GRADDAU MEISTR A ADDYSGIR ESTYNEDIG

S1

50% fydd y marc Llwyddo ar gyfer modiwlau oni bai y nodir fel arall gan y corff proffesiynol neu reoleiddio, y bydd ei fanylion wedi’u cynnwys yn llawlyfr y rhaglen.

S2

Gall ymgeiswyr sy'n cronni 60 o gredydau yn eu dysgu annibynnol dan gyfarwyddyd neu'r gwaith cyfwerth cymeradwy a 60 o gredydau yn y modiwlau a addysgir/Interniaeth/lleoliad gwaith (Blwyddyn Dau) gymhwyso ar gyfer dyfarniad gradd. Caiff y marc cyfartalog cyffredinol ar gyfer y rhaglen ei bennu fel a ganlyn:

Cronni CredydauGwerth Perthynol 
Y 60 credyd gorau 4
Y 60 credyd gorau nesaf 3
Y 60 credyd gorau nesaf 2
Y 60 credyd sy'n weddill  1

 

I fyfyrwyr sy'n dechrau ar raglenni o fis Medi 2023 neu fis Ionawr 2024, mae'r pwynt S2 canlynol yn berthnasol:

Gall ymgeiswyr sy'n cronni 60 o gredydau yn eu dysgu annibynnol dan gyfarwyddyd neu'r gwaith cyfwerth cymeradwy a 60 o gredydau yn y modiwlau a addysgir/Interniaeth/lleoliad gwaith (Blwyddyn Dau) gymhwyso ar gyfer dyfarniad gradd. Caiff dosbarthiad cyffredinol y radd ei gyfrifo ar sail cyfartaledd cymedrig marciau'r modiwlau, a gaiff eu pwysoli yn unol â'u gwerth o ran credydau, ar draws y rhaglen gyfan.

S3

Bydd yn ofynnol i ymgeiswyr sy’n methu yn y 60 o gredydau o fodiwlau a addysgir/modiwlau interniaeth/modiwlau lleoliadau dynnu’n ôl o’r Brifysgol. Mewn rhai achosion, gyda chymeradwyaeth y Gyfadran/Ysgol, gall fod yn bosibl trosglwyddo i’r rhaglen lawn-amser un flwyddyn (Safonol). Dim ond dan amgylchiadau eithriadol y byddir yn caniatáu i ymgeiswyr wneud iawn am y methiant hwn.

Bydd ymgeiswyr sy’n dilyn y radd MSc mewn Gwaith Cymdeithasol ac sy’n methu mewn modiwl(au) a addysgir/lleoliadau ymarfer ym Mlwyddyn Dau yn cael cynnig un ymgais pellach i wneud iawn am y methiant/methiannau).

Fel arfer bydd yn ofynnol i ymgeiswyr sy’n cael cynnig y cyfle i ailsefyll modiwlau a addysgir wneud hynny yn ystod yr adeg asesu nesaf sydd wedi’i hamserlennu ar gyfer y modiwlau dan sylw.

Bydd yn ofynnol i ymgeiswyr sy’n cael cynnig y cyfle i ailsefyll modiwlau lleoliadau ymarfer wneud hynny fel ymgeisydd allanol ar y cyfle nesaf sydd wedi’i amserlennu yn ystod y sesiwn academaidd nesaf. Bydd marciau’r modiwlau hynny wedi’u capio ar 50%.

S4

Bydd yn ofynnol i ymgeiswyr ar yr MSc mewn Gwaith Cymdeithasol sy’n methu mewn modiwlau a addysgir/lleoliadau ymarfer ym Mlwyddyn Dau ar yr ail ymgais dynnu’n ôl o’r Brifysgol. Gall yr ymgeiswyr hynny gael eu hystyried ar gyfer Diploma Ôl-raddedig (Lles Cymdeithasol).

S5

Bydd ymgeiswyr sy’n ennill marc cyfartalog ar y cyfan nad yw’n llai na 60 ac nad yw’n fwy na 69.99% ar gyfer y rhaglen gyfan yn gymwys ar gyfer dyfarnu gradd Meistr gyda theilyngdod.

S6

Bydd ymgeiswyr sy’n ennill marc cyfartalog ar y cyfan o 70% neu fwy ar gyfer y rhaglen gyfan yn gymwys ar gyfer dyfarnu gradd Meistr gyda rhagoriaeth.

S7

Bydd ymgeiswyr sy’n methu â chyflwyno eu darn o waith dysgu annibynnol cyfeiriedig neu waith cyfatebol a gymeradwywyd erbyn y terfyn amser yn cael gwybod ei bod yn ofynnol iddynt dynnu’n ôl o’r Brifysgol a dyfernir Diploma Ôl-raddedig iddynt fel dyfarniad ymadael. Ni roddir cyfle i ailgyflwyno’r gwaith.

S8

Bydd ymgeiswyr sy’n methu yn y gwaith dysgu annibynnol cyfeiriedig neu waith cyfatebol a gymeradwywyd ac y caniateir iddynt ailgyflwyno’n cael y cyfnodau canlynol i ailgyflwyno’r gwaith. Bydd y marc am y gwaith a ailgyflwynir wedi’i gapio ar 50%.

Dull AstudioAilgyflwyno
LLAWN-AMSER  3 mis (ar ôl i’r cyhoeddi’r canlyniadau’n swyddogol)
RHAN-AMSER  6 mis (ar ôl cyhoeddi’r canlyniadau’n swyddogol)

S9

Bydd ymgeiswyr sy’n methu yn eu dysgu annibynnol cyfeiriedig neu waith cyfatebol a gymeradwywyd ar yr ail ymgais yn cael gwybod ei bod yn ofynnol iddynt dynnu’n ôl o’r Brifysgol. Bydd yr ymgeiswyr hynny’n cael eu hystyried ar gyfer Diploma Ôl-raddedig.

S10

Gall ymgeiswyr nad ydynt yn gallu neu na chaniateir iddynt gwblhau Blwyddyn Dau fod yn gymwys i gael eu hystyried ar gyfer dyfarnu Diploma Ôl-raddedig.

S11

Cydnabyddir y gall rhai ymgeiswyr fethu yn y modiwlau dysgu annibynnol cyfeiriedig a modiwlau a addysgir/lleoliadau ymarfer ar yr ymgais cyntaf. Fel arfer bydd yn ofynnol i’r ymgeiswyr hynny dynnu’n ôl o’r Brifysgol neu mewn rhai achosion, gyda chymeradwyaeth y Gyfadran/Ysgol, gall fod yn bosibl iddynt drosglwyddo i’r rhaglen safonol ac ailgyflwyno’r darn/darnau o waith dysgu annibynnol cyfeiriedig. 

Gall ymgeiswyr sy’n dilyn yr MSc mewn Gwaith Cymdeithasol gael cynnig un cyfle i ailgyflwyno’r darn/darnau o waith dysgu annibynnol cyfeiriedig (yn unol ag S8) ac un cyfle i ailsefyll modiwlau a addysgir/lleoliadau ymarfer ym Mlwyddyn Dau y methwyd ynddynt (yn unol ag S3). Bydd canlyniadau’r gwaith dysgu annibynnol cyfeiriedig a ailgyflwynwyd a’r ailasesiad o’r modiwl a addysgir/lleoliadau ymarfer, ar gyfer yr ymgeiswyr hynny, yn cael eu hystyried gan Fwrdd Arholi Blwyddyn Dau unwaith y bydd proffil llawn marciau Blwyddyn Dau ar gael.

Gall ymgeiswyr sy’n dilyn yr MSc mewn Nyrsio gael cynnig un cyfle i ailgyflwyno gwaith fel ymgeisydd mewnol (yn ystod y flwyddyn) ac un cyfle pellach i adfer gwaith damcaniaethol fel Ymgeisydd Allanol.

S12

Hefyd, gellir dyfarnu Diploma Ôl-raddedig gyda Theilyngdod/Rhagoriaeth i ymgeisydd lle bodlonir yr amodau canlynol (nid yw’r rhaglen MSc Nyrsio ac yn cymhwyso goddefiad felly rhaid llwyddo ym mhob modiwl i alluogi’r myfyriwr i gymhwyso ar gyfer dyfarniad ymadael):

Diploma Ôl-raddedig gyda Theilyngdod 
  • Wedi dilyn 120 o gredydau, gydag isafswm o 80 o gredydau wedi cael eu dilyn yn Abertawe (caniateir 30 o gredydau o fethiannau a oddefir*).
  • Wedi ennill marc cyfartalog ar y cyfan nad yw’n llai na 60% ac nad yw’n fwy na 69.99%.
Diploma Ôl-raddedig gyda Rhagoriaeth  
  • Wedi dilyn 120 o gredydau, gydag isafswm o 80 o gredydau wedi cael eu dilyn yn Abertawe (caniateir 30 o gredydau o fethiannau a oddefir*).
  • Wedi ennill marc ar y cyfan o 70%.

* Gall rhaglenni fabwysiadu rheoliadau goddefiad mwy caeth oherwydd gofynion Cyrff Proffesiynol/Cyrff Noddi.