5.1 TYSTYSGRIFAU Ôl-RADDEDIG

5.1.1

50% fydd y marc llwyddo ar gyfer pob modiwl.

5.1.2

Bydd methu â sefyll arholiad/gwneud iawn am fodiwl/asesiad y methwyd ynddo neu gyflwyno gwaith erbyn y dyddiad penodedig yn arwain at gofnodi marc o 0% ar gyfer y modiwl.

5.1.3

Bydd yn ofynnol i ymgeisydd sy’n absennol o fodiwl ail-wneud y modiwl ar y cyfle nesaf sydd ar gael, o fewn yr uchafswm cyfnod ymgeisyddiaeth. 

5.1.4

Dan amgylchiadau eithriadol ac yn unol â Pholisi’r Brifysgol ar Amgylchiadau Esgusodol sy’n Effeithio ar Asesiad, gall ymgeiswyr sy’n methu â gwneud iawn am fethiant yn eu modiwl(au) yn ystod y cyfnod ailsefyll oherwydd amgylchiadau esgusodol neu sy’n methu yn y modiwl ar y cyfle cyntaf yn ystod y cyfnod ailsefyll (h.y. fel gohiriad) gyflwyno tystiolaeth o amgylchiadau o’r fath i’w Cyfadran/Hysgol er mwyn iddo’u hystyried. Yn ôl disgresiwn Bwrdd Dilyniant a Dyfarnu’r Brifysgol, gellir caniatáu un cyfle pellach i’r ymgeiswyr hynny ailsefyll. Cynhelir yr ail-asesiad(au) fel arfer ar yr adeg asesu nesaf ar gyfer y modiwlau dan sylw ar y cyfle nesaf ond o fewn yr uchafswm cyfnod ymgeisyddiaeth.

5.1.5

Bydd ymgeiswyr sy’n methu â chyrraedd y safon briodol yn cael un cyfle i wneud iawn am y methiant a rhaid iddynt ailsefyll yr holl elfennau asesu fel a nodir gan y Gyfadran/Ysgol.

5.1.6

Bydd marciau’r holl fodiwlau ailsefyll yn cael eu capio ar 50% ni waeth beth fo’r marc gwirioneddol.

5.1.7

Bydd methu mewn modiwl ar yr ail ymgais yn arwain at roi gwybod i’r ymgeisydd ei bod yn ofynnol tynnu’n ôl o’r Brifysgol.

5.1.8

Ni all ymgeiswyr ailsefyll unrhyw fodiwl neu uned asesu y cafwyd marc llwyddo ynddo’n flaenorol.

5.1.9

Gyda chaniatâd y Gyfadran/Ysgol, gellir caniatáu i ymgeiswyr sy’n aflwyddiannus mewn unrhyw fodiwlau (ar yr ymgais cyntaf) gyfnewid modiwl y methwyd ynddo am fodiwl gwahanol ar yr amod y gellir cwblhau’r modiwl cyfnewid hwn o fewn yr uchafswm cyfnod ymgeisyddiaeth.  

5.1.10

Codir ffi safonol ar ymgeiswyr sy’n dilyn modiwlau cyfnewid, a bydd y Swyddfa Gyllid yn hysbysu faint yw’r swm.

5.1.11

Ni fydd ymgeiswyr yn gymwys ar gyfer ymgais i wneud iawn am fetiant mewn modiwl cyfnewid.

5.1.12

Mae gan yr holl ymgeiswyr y mae’n ofynnol iddynt dynnu’n ôl o’r Brifysgol yr hawl i apelio yn unol â Gweithdrefn Cywirdeb Marciau Cyhoeddedig a/neu Weithdrefn Apeliadau’r Brifysgol.

5.1.13

Bydd ymgeiswyr sy’n cwblhau Tystysgrif Ôl-raddedig yn llwyddiannus yn gymwys ar gyfer dyfarnu Teilyngdod lle maent wedi llwyddo ym mhob modiwl ac wedi ennill marc cyfartalog ar y cyfan nad yw’n llai na 60% ac nad yw’n fwy na 69.95 ar gyfer y dyfarniad dan sylw. 

5.1.14

Bydd ymgeiswyr sy’n cwblhau Tystysgrif Ôl-raddedig yn llwyddiannus yn gymwys ar gyfer dyfarnu Rhagoriaeth lle maent wedi llwyddo ym mhob modiwl ac wedi ennill marc ar y cyfan o 70% ar gyfer y dyfarniad dan sylw. 

5.2   DIPLOMÂU Ôl-RADDEDIG

5.2.1

Bydd yn ofynnol i ymgeiswyr gwblhau’r rhaglen astudio Diplomâu Ôl-raddedig yn unol â’r rheoliadau ar gyfer dyfarnu credyd am raglenni Meistr a Addysgir Ôl-raddedig Safonol Rhan Un. 

5.2.2

50% fydd y marc llwyddo ar gyfer modiwl.  

5.2.3

Bydd ymgeisydd sy’n cwblhau Diploma Ôl-raddedig yn llwyddiannus yn gymwys ar gyfer dyfarnu Teilyngdod/Rhagoriaeth os bodlonir yr amodau canlynol:

Amodau Dyfarnu

Diploma Ôl-raddedig gyda Theilyngdod
  • Wedi dilyn 120 o gredydau, gyda llwyddiant/goddefiad mewn isafswm o 80 o gredydau yn Abertawe (caniateir 30 o gredydau o fethiannau a oddefir*).
  • Wedi ennill marc cyfartalog ar y cyfan nad yw’n llai na 60% ac nad yw’n fwy na 69.99%.
Diploma Ôl-raddedig gyda Rhagoriaeth
  • Wedi dilyn 120 o gredydau, gyda llwyddiant/goddefiad mewn isafswm o 80 o gredydau yn Abertawe (caniateir 30 o gredydau o fethiannau a oddefir*).
  • Wedi ennill marc ar y cyfan o 70% neu fwy.

*Gall rhaglenni fabwysiadu rheoliadau goddefiad mwy caeth oherwydd gofynion Cyrff Proffesiynol/Cyrff Noddi.