Ar gyfer blwyddyn academaidd 2020/21 bydd y rheoliadau canlynol yn gymwys i fyfyrwyr sy’n dechrau eu rhaglenni gradd. Mae’r rheolau hyn yn gymwys ar draws pob campws.

Mae'r Brifysgol wedi awdurdodi Cyfadrannau/Ysgolion, sydd â meysydd pwnc sy'n destun achrediad proffesiynol, i gymhwyso rheolau asesu llymach cyhyd â bod y myfyrwyr wedi'u rhybuddio ymlaen llaw a bod hyn yn ofynnol gan y Corff Proffesiynol.

4.1  EGWYDDORION CYFFREDINOL

4.1.1 Cyflwyno Marciau

 Dylid cyflwyno holl farciau asesu modiwlau a gymerwyd hyd yn hyn i Fyrddau Arholi'r Gyfadran/Ysgol

4.1.2 Cyflwyno Marciau ar gyfer Dyfarniad

 Caiff y set gyfan o ganlyniadau ar gyfer pob ymgeisydd a ystyriwyd ym Mwrdd Dilyniant a Dyfarnu'r Brifysgol ei chyflwyno i'r arholwyr. Bydd proffil canlyniadau'r myfyrwyr perthnasol yn cynnwys:

  • Canlyniadau'r modiwlau a addysgir.
  • Canlyniadau'r darn(au) o ddysgu annibynnol dan gyfarwyddyd.

4.1.3 Penderfyniadau ynghylch Dilyniant

 Bydd y penderfyniad a ddylid caniatáu i fyfyriwr symud ymlaen o Semester Un a Dau (ar gyfer rhaglenni amser llawn) a Semester Dau a   myfyrwyr diwedd y flwyddyn, yng nghanol eu hastudiaethau (ar gyfer rhaglenni rhan- amser) yn cael ei wneud yng nghyfarfod diwedd semester Bwrdd y Gyfadran/Ysgol, a'i gadarnhau gan Fwrdd Dilyniant a Dyfarnu'r Brifysgol. Fel arfer caiff myfyrwyr sy'n methu cymhwyso i symud ymlaen ar yr ymgais gyntaf ganiatâd i wneud iawn am fethu drwy sefyll arholiadau atodol. Gall Cyfadrannau/Ysgolion ddyfarnu arholiadau ailsefyll yn ystod y cyfnod ailsefyll neu o fewn amserlen i'w phennu gan y Gyfadran/Ysgol.

4.1.4 Marcio Dienw

 Gweler Polisi'r Brifysgol ar Farcio Anhysbys.

4.1.5 Datgelu Enwau

 Gweler Polisi'r Brifysgol ar Farcio Anhysbys.

4.1.6 Datgelu Canlyniadau

 Dylid gwahanu rhwng marciau dros dro a marciau a gadarnhawyd.

 Gweler Polisi’r Brifysgol ar Gyhoeddi Marciau

4.1.7 Apeliadau yn erbyn penderfyniadau

 Gall myfyrwyr sy’n methu â chymhwyso i gamu ymlaen ofyn am adolygu penderfyniad y Bwrdd yn unol â Gweithdrefn Apelio a/neu Cywirdeb y Marciau a Gyhoeddwyd y Brifysgol, a gyhoeddir yn y Canllaw Academaidd hwn.

4.2 RHEOLAU ASESU CYFFREDINOL:  GRADDAU MEISTR HYBLYG A ADDYSGIR

G1

Y marc pasio ar gyfer modiwlau fydd 50%. Dyfernir credydau i ymgeiswyr sy'n pasio modiwl (mae'r rheoliadau goddef yn berthnasol).

G2

Gall ymgeiswyr sy'n cronni cyfanswm o 180 o gredydau gymhwyso ar gyfer dyfarniad gradd. Caiff y marc cyfartalog cyffredinol ar gyfer y rhaglen ei bennu fel a ganlyn:

Cronni CredydauGwerth Perthynol
Y 60 credyd gorau 3
Y 60 credyd gorau nesaf 2
Y 60 credyd sy'n weddill 1

I fyfyrwyr sy'n dechrau ar raglenni o fis Medi 2023 neu fis Ionawr 2024, mae'r pwynt G2 canlynol yn berthnasol:

Gall ymgeiswyr sy'n cronni 180 o gredydau gymhwyso ar gyfer dyfarniad gradd. Caiff dosbarthiad cyffredinol y radd ei gyfrifo ar sail cyfartaledd cymedrig marciau'r modiwl, sy'n cael eu pwysoli'n unol â'u gwerth o ran credydau, ar draws y rhaglen gyfan.

 

G3

Fel arfer, gwneir penderfyniadau ynghylch dilyniant ymgeiswyr amser llawn ar ddiwedd pob semester astudio, sy'n cynnwys cyfnod cyfle atodol. Gwneir penderfyniadau ynghylch dyfarniadau ar ddiwedd y trydedd semester a chânt eu cadarnhau gan Fwrdd Dilyniant a Dyfarnu'r Brifysgol. 

Caiff dilyniant myfyrwyr rhan amser ei gadarnhau ar ddiwedd pob semester astudio. Gwneir penderfyniadau ynghylch dyfarniadau ar ddiwedd y trydydd semester yn yr ail flwyddyn (rhaglen dwy flynedd) a'r drydedd flwyddyn (rhaglen tair blynedd) a chânt eu cadarnhau gan Fwrdd Dilyniant a Dyfarnu'r Brifysgol.

G4

Gall Cyfadrannau/Ysgolion nodi modiwlau 'craidd' ar gyfer rhaglenni unigol fel y bo'n briodol. Mae'n rhaid pasio'r modiwlau hyn â marc o 50% o leiaf cyn y gall ymgeisydd symud ymlaen. Mae’n rhaid i’r modiwlau ‘craidd’ ar gyfer pob rhaglen gael eu nodi’n glir yn llawlyfrau’r Gyfadran/Ysgol, mewn dogfen arall yn y Gyfadran/Ysgol ac ar feddalwedd asesu'r Brifysgol. Dylai Cyfadrannau/Ysgolion nodi na ellir dyfarnu methiannau a esgusodir ar gyfer modiwlau 'craidd.' Rhaid i'r Cyfadrannau/Ysgolion fonitro perfformiad ymgeiswyr yn y modiwlau 'craidd.' Dylid ystyried modiwl sy'n cynnwys darn(au) o ddysgu annibynnol dan gyfarwyddyd, yn ôl ei natur, yn fodiwl 'craidd,' a chymhwysir marc llwyddo o 50% yn gyson.

G5

Yn ôl disgresiwn y Bwrdd Arholi, gellir caniatáu i ymgeiswyr sy'n methu unrhyw fodiwl roi un cynnig arall arno i wneud  iawn am ei fethu ym mhob modiwl o'r fath, cyhyd â bod hyn yn cael ei gyflawni o fewn y terfyn amser ar gyfer y radd.

G6

Bydd ymgeiswyr sydd wedi cael caniatâd i gyflwyno modiwl(au) atodol yn lle'r un a fethwyd ganddo yn gymwys ar gyfer y marc wedi'i gapio yn unig. Un ymgais yn unig y caiff i lwyddo yn y modiwl (codir ffi).

G7

Os yw ymgeiswyr yn bodloni'r arholwyr mewn ymgais i wneud iawn am fethiant, ni fyddant yn gymwys am farc uwch na'r trothwy wedi'i gapio o 50% ym mhob modiwl, waeth beth yw lefel eu perfformiad. Bydd Bwrdd Dilyniant a Dyfarnu'r Brifysgol yn cyfeirio at y marc wedi'i gapio/marc gorau wrth bennu'r marc cyfartalog ar gyfer y dyfarniad.

G8

Gall ymgeiswyr, ar eu hail ymgais, esgusodi hyd at 30 o gredydau yn ôl disgresiwn y Bwrdd Arholi cyhyd â bod yr amodau canlynol yn cael eu bodloni:

  • Bod marc cyfartalog cyffredinol y modiwlau a addysgir yn 50% o leiaf.
  • Nid yw’r modiwlau maent wedi'u methu wedi’u dynodi cyn hynny yn 'fodiwlau craidd' ar gyfer y rhaglen benodol (gweler rheol asesiad cyffredinol G4).
  • Nid yw’r marciau mewn UNRHYW fodiwl yn llai na 40%.* Dylid cyfeirio at gredydau modiwlau o'r fath fel methiannau a esgusodir (bydd y rhain yn ymddangos fel graddau F ar gofnod y myfyriwr).
  • Nid yw'r modiwl yn cyfrannu at y 60 credyd o ddysgu annibynnol dan gyfarwyddyd.
  • Mae'r modiwlau yn ail ymgais.

    * Mae marc islaw 40% yn golygu na chaniateir goddefiant mewn UNRHYW fodiwl.

    Gall myfyrwyr sy'n gymwys am oddefiant ar yr ymgais gyntaf, sy'n dymuno hepgor eu hawl i ailsefyll yr arholiadau a fethwyd, gyda chymorth gan eu Cyfadran/Hysgo, gyflwyno cais am oddefiant o fewn 10 diwrnod o gael hysbysiad swyddogol o'u canlyniad. Rhaid i'r Gyfadran/Ysgol lofnodi ceisiadau a'u cyflwyno i'r Gwasanaethau Academaidd i'w cymeradwyo.

G9

Ni fydd ymgeiswyr sydd yng nghanol eu rhaglen, sy'n methu gwneud iawn am fodiwl a fethwyd ar yr ail ymgais (goddefiad yn berthnasol) a/neu sy'n methu â chyflwyno eu dysgu annibynnol dan gyfarwyddyd erbyn y dyddiad cau, yn gymwys am ddyfarniad Meistr, ond caniateir iddynt barhau er mwyn cael eu hystyried am ddyfarniad ymadael.

G10

Bydd angen i ymgeiswyr sydd ar ddiwedd eu rhaglen sy'n methu â gwneud iawn am fodiwl a fethwyd ar yr ail ymgais (goddefiad yn berthnasol) dynnu'n ôl o'r Brifysgol. Ni fydd y fath ymgeiswyr yn cael cyfle arall i gwblhau eu rhaglen astudio ac ni chânt eu hystyried am unrhyw ddyfarniad ond cymhwyster ymadael. Ni chaiff ymgeiswyr y gofynnir iddynt adael y Brifysgol gyfle arall i wneud iawn am fodiwlau a fethwyd ac ni chaniateir iddynt drosglwyddo credydau i raglen astudio arall ym Mhrifysgol Abertawe. Bydd rhaid iddynt derfynu eu hastudiaethau. Fel arfer, ni chaiff ymgeiswyr o'r fath eu hail-dderbyn i'r un rhaglen o astudio neu i raglen berthynol, heb gymeradwyaeth gan y Pwyllgor Recriwtio a Derbyn.

G11

Mewn amgylchiadau eithriadol ac yn unol â Pholisi’r Brifysgol ar Amgylchiadau Esgusodol sy'n Effeithio ar Asesu, gall ymgeiswyr sy'n methu â gwneud iawn am eu modiwl(au) yn ystod y cyfnod ailsefyll oherwydd amgylchiadau esgusodol, neu sy'n methu'r modiwl ar y cynnig cyntaf yn ystod y cyfnod asesu ailsefyll (h.y. gohiriad), gyflwyno tystiolaeth o amgylchiadau o'r fath i'r Gyfadran/Ysgol i'w hystyried. Yn ôl disgresiwn Bwrdd Dilyniant a Dyfarnu'r Brifysgol, gellir caniatáu ymgeiswyr o'r fath un cyfle arall i ailsefyll. Fel arfer, cynhelir yr ailasesiad(au) yn ystod y cyfnod asesu nesaf ar gyfer y modiwlau dan sylw yn y flwyddyn academaidd nesaf.

G12

Ni chaniateir i ymgeisydd sydd i'w ailarholi mewn prosiectau gosod neu fath arall o asesiad gwaith cwrs ailgyflwyno fersiwn ddiwygiedig o'i waith gwreiddiol. Yn hytrach, bydd yn rhaid iddo gyflwyno gwaith newydd i'w asesu, ar bynciau gwahanol i'r rhai lle nad oedd yr arholwyr yn fodlon ar ei waith gwreiddiol.

G13

Ni fydd ymgeiswyr yn cael ail-wneud unrhyw fodiwl a basiwyd, nac ychwaith wneud iawn am fethiant a oddefir, er mwyn gwella eu perfformiad. 

G14

Tybir bod ymgeisydd sy'n absennol yn ystod rhan neu'r cyfan ar gyfer arholiad ysgrifenedig (neu sy'n methu â chyflwyno prosiectau neu waith cwrs erbyn dyddiad a bennwyd) wedi methu'r modiwl dan sylw. Yn achos ymgeiswyr na allant fynychu arholiad oherwydd amgylchiadau esgusodol, rhaid cyflwyno cais am ohiriad i'r Gyfadran/Ysgol Cartref naill ai cyn dyddiad yr arholiad neu o fewn pum niwrnod gwaith ar ôl yr arholiad. Rhaid i geisiadau am ohiriadau gael eu llofnodi gan y Gyfadran/Ysgol  perthnasol a'u cyflwyno i’r Gwasanaethau Addysg i'w cymeradwyo. Bydd rhaid i ymgeiswyr y caniateir iddynt ohirio sefyll yr arholiadau yn y cyfnod arholiadau nesaf sydd wedi'i amserlennu ar gyfer y modiwl(au) dan sylw.  

G15

Bydd ymgeiswyr, sy'n cyflawni marc cyfartalog cyffredinol o 60% o leiaf, a llai na 69.99% ar gyfer y rhaglen gyfan, yn gymwys i ennill dyfarniad gradd Meistr â Theilyngdod.

G16

Bydd ymgeiswyr sy'n ennill marc cyfartalog cyffredinol o 70% neu fwy ar gyfer y rhaglen gyfan yn gymwys i ennill dyfarniad gradd Meistr â Rhagoriaeth.      

G17

Bydd ymgeiswyr sy'n gwneud iawn am fethiannau drwy amnewid modiwlau yn cael eu goruchwylio'n fanwl gan eu Cyfadran(nau)/Ysgol(ion). 

G18

Fel arfer, bydd y Rheolau Dilyniant yn dylanwadu ar y Byrddau Semester wrth iddynt benderfynu ar gynnydd myfyrwyr. Fodd bynnag, ni ddylai ymgeiswyr ddisgwyl, drwy hawl, y cânt sefyll arholiadau atodol, neu barhau. Gall y Bwrdd ystyried amgylchiadau eraill yn gysylltiedig ag achos yr ymgeisydd cyn dod i unrhyw benderfyniad ynghylch dilyniant.

G19

Gall Cyfadrannau/Ysgolion sy'n amodol i achrediad proffesiynol wneud cais i ddefnyddio rheolau dilyniant llymach cyn belled â bod cymhwyso rheolau o'r fath yn ofynnol gan y Corff Achredu Proffesiynol fel amod ar gyfer achredu’r rhaglen. Bydd y rheol fwy llym yn gymwys at ddiben achredu yn unig. Dylid hysbysu myfyrwyr o unrhyw ofynion ychwanegol yn llawlyfrau'r Cyfadrannau/Ysgolion.

G20

Os yw ymgeiswyr yn methu â chwblhau'r rhaglen a/neu'n tynnu'n ôl o'r Brifysgol, gan ddibynnu ar nifer y credydau a gronnwyd ganddynt, efallai y bydd ganddynt hawl i gymhwyster ymadael. 

G21

Dylai unrhyw gymhwyster ymadael a roddir i fyfyrwyr gyda methiannau a esgusodir fod yn gymhwyster sy'n enwi'r pwnc.

G22

Bydd ymgeiswyr sy'n gadael â Thystysgrif/Diploma Ôl-raddedig yn gymwys i dderbyn y dyfarniad priodol "â theilyngdod" os ydynt wedi pasio'r nifer gofynnol o gredydau ac wedi ennill marc cyfartalog cyffredinol nad yw'n llai na 60% ac nad yw'n uwch na 69.99% ar gyfer y dyfarniad dan sylw.

G23

Bydd ymgeiswyr sy'n gadael â Thystysgrif/Diploma Ôl-raddedig yn gymwys am y dyfarniad priodol "â Rhagoriaeth" os ydynt wedi astudio'r nifer gofynnol o gredydau a addysgir, gan ennill marc cyffredinol o 70% ar gyfer y dyfarniad dan sylw.

G24

Nid yw'r rheolau dilyniant yn berthnasol i fyfyrwyr ymweld a myfyrwyr cyfnewid. Fodd bynnag, dylid rhoi cyfle i fyfyrwyr o'r fath wneud  iawn am fethiannau, fel arfer drwy ailsefyll arholiadau, ond mewn rhai amgylchiadau penodol, drwy ddulliau asesu eraill y mae'r Gyfadran/Ysgol wedi cytuno arnynt.

G25

Ni fydd ymgeiswyr sy'n methu â chyflwyno eu darn/darnau o ddysgu annibynnol dan gyfarwyddyd erbyn y dyddiad cau yn gymwys am ddyfarniad Meistr, ond cânt gyfle i gael eu hystyried am ddyfarniad ymadael o hyd. Ni chânt gyfle i ailgyflwyno.

G26

Os yw ymgeiswyr yn cyflwyno eu darn/darnau o ddysgu annibynnol dan gyfarwyddyd erbyn y dyddiad cau ond yn methu ag ennill marc pasio, gellir rhoi cyfle arall iddynt ailgyflwyno yn unol â'r terfyn amser priodol. Bydd marciau am ailgyflwyno’n cael eu capio ar 50%.

Dyddiad cau ailgyflwyno

Dull Astudio

ailgyflwyno

LLAWN-AMSER  fel arfer* 3 mis (ar ôl i'r canlyniadau gael eu cyhoeddi'n swyddogol gan y Brifysgol)
RHAN-AMSER  6 mis (ar ôl i'r canlyniadau gael eu cyhoeddi'n swyddogol gan y Brifysgol)

*gall Cyfadrannau/Ysgolion bennu cyfnodau ailgyflwyno byrrach os yw'r dysgu annibynnol dan gyfarwyddyd wedi'i rannu'n fodiwlau gwerth llai na 60 o gredydau. Dylai llawlyfr y Gyfadran/Ysgol nodi hyn yn glir i fyfyrwyr.

G27

Os nad yw ymgeiswyr yn gallu cyflwyno erbyn y dyddiad cau, gallant ofyn am estyniad i'r dyddiad cau yn unol â rheoliadau'r Brifysgol.

G28

Mae'r Brifysgol yn cadw'r hawl i godi ffi am ailarholi'r gwaith sy'n cael ei ailgyflwyno. 

4.3  RHEOLAU PENODOL I'W DEFNYDDIO YNG NGHYFARFOD BWRDD SEMESTER UN AC AR GYFER YMGEISWYR RHAN-AMSER GAN FWRDD DIWEDD Y FLWYDDYN, YNG NGHANOL EU HASTUDIAETHAU

S1

Caniateir i ymgeiswyr sy'n pasio'r holl gydrannau modiwl/modiwlau a bennir barhau â'u hastudiaethau.

S2

Gellir dyfarnu arholiad ailsefyll neu asesiad ategol i ymgeiswyr sy'n methu modiwl. Rhoddir marc o 0% i ymgeiswyr sy'n dewis peidio ag ailsefyll.

S3

Bydd marciau ymgeiswyr sydd wedi ailsefyll cydran neu gydrannau a fethwyd yn cael eu capio ar 50%. 

4.4 RHEOLAU PENODOL I'W DEFNYDDIO GYDAG YMGEISWYR RHAN-AMSER GAN FWRDD AILSEFYLL DIWEDD Y FLWYDDYN, YNG NGHANOL EU HASTUDIAETHAU

S1

Caniateir i ymgeiswyr sy'n pasio'r holl gydrannau modiwl/modiwlau a bennir barhau â'u hastudiaethau.  

S2

Ni fydd ymgeiswyr sy'n methu unrhyw fodiwl ar yr ail ymgais (goddefiad yn berthnasol) yn gymwys am ddyfarniad Meistr, ond cânt gyfle i gael eu hystyried am ddyfarniad ymadael o hyd.

4.5 RHEOLAU PENODOL I’W CYMHWYSO AR GYFER YMGEISWYR LLAWN-AMSER YM MWRDD SEMSTER DAU

S1

50% fydd y marc llwyddo.

S2

Gall ymgeiswyr, ar eu hail ymgais, esgusodi hyd at 30 o gredydau yn ôl disgresiwn y Bwrdd Arholi cyhyd â bod yr amodau canlynol yn cael eu bodloni:

  • Bod marc cyfartalog cyffredinol y modiwlau a addysgir yn 50% o leiaf.
  • Nad yw’r modiwlau maent wedi'u methu wedi’u dynodi cyn hynny yn “fodiwlau craidd” ar gyfer y rhaglen benodol (gweler rheol asesiad cyffredinol G4).
  • Nid yw’r marciau mewn UNRHYW fodiwl yn llai na 40%.* Dylid cyfeirio at gredydau modiwlau o'r fath fel methiannau a esgusodir (bydd y rhain yn ymddangos fel graddau F ar gofnod y myfyriwr).  
  • Nid yw'r modiwl yn cyfrannu at y 60 credyd o ddysgu annibynnol dan gyfarwyddyd.
  • Mae'r modiwlau yn ail ymgais.

* Mae marc islaw 40% yn golygu na chaniateir goddefiant mewn UNRHYW fodiwl.

S3

Bydd ymgeiswyr sy'n methu modiwl ar yr ymgais gyntaf yn cael ailsefyll neu'n derbyn asesiad atodol. Rhoddir marc o 0% i ymgeiswyr sy'n dewis peidio ag ailsefyll.

S4

Bydd marciau ymgeiswyr sydd wedi ailsefyll unrhyw gydran neu gydrannau a fethwyd yn cael eu capio ar 50%.

S5

Ni fydd ymgeiswyr sy'n methu unrhyw fodiwl ar yr ail ymgais (goddefiad yn berthnasol) yn gymwys am ddyfarniad Meistr, ond cânt gyfle i gael eu hystyried am ddyfarniad ymadael o hyd.

S6

Llywodraethir ymgeiswyr sy'n cyflwyno eu dysgu annibynnol dan gyfarwyddwyd gan reoliadau asesu S7-S10 o dan yr adran isod "Rheolau ar gyfer dyfarnu credyd ar ddiwedd y rhaglen."

4.6 RHEOLIADAU AR GYFER DYFARNU GRADDAU MEISTR HYBLYG A ADDYSGIR

4.6.1 Rheolau Penodol ar gyfer dyfarnu credyd ar ddiwedd y rhaglen

S1

50% fydd y marc pasio.

S2

Gall ymgeiswyr sy'n cronni 180 o gredydau gymhwyso ar gyfer dyfarniad gradd. Caiff y marc cyfartalog cyffredinol ar gyfer y rhaglen ei bennu fel a ganlyn: 

Cronni CredydauGwerth Perthynol
Y 60 credyd gorau 3
Y 60 credyd gorau nesaf 2
Y 60 credyd sy'n weddill 1

 

I fyfyrwyr sy'n dechrau ar raglenni o fis Medi 2023 neu fis Ionawr 2024, mae'r pwynt S2 canlynol yn berthnasol:

Gall ymgeiswyr sy'n cronni 180 o gredydau gymhwyso ar gyfer dyfarniad gradd. Caiff dosbarthiad cyffredinol y radd ei gyfrifo ar sail cyfartaledd cymedrig marciau'r modiwl, sy'n cael eu pwysoli'n unol â'u gwerth o ran credydau, ar draws y rhaglen gyfan.

S3

Bydd ymgeiswyr sy'n ennill marc cyfartalog cyffredinol rhwng 60-69.99% ar gyfer y rhaglen gyfan yn gymwys i ennill dyfarniad gradd Meistr â Theilyngdod.

S4

Bydd ymgeiswyr sy'n ennill marc cyfartalog cyffredinol o 70% neu fwy ar gyfer y rhaglen gyfan yn gymwys i ennill dyfarniad gradd Meistr â Rhagoriaeth.

S5

Gall ymgeiswyr, ar eu hail ymgais, esgusodi hyd at 30 o gredydau yn ôl disgresiwn y Bwrdd Arholi cyhyd â bod yr amodau canlynol yn cael eu bodloni:

  • Bod marc cyfartalog cyffredinol y modiwlau a addysgir yn 50% o leiaf.
  • Nid yw’r modiwlau maent wedi'u methu wedi’u dynodi cyn hynny yn 'fodiwlau craidd' ar gyfer y rhaglen benodol (gweler rheol asesiad cyffredinol G4).
  • Nid yw’r marciau mewn UNRHYW fodiwl yn llai na 40%.* Dylid cyfeirio at gredydau modiwlau o'r fath fel methiannau a esgusodir (bydd y rhain yn ymddangos fel graddau F ar gofnod y myfyriwr).
  • Nid yw'r modiwl yn cyfrannu at y 60 credyd o ddysgu annibynnol dan gyfarwyddyd.
  • Mae'r modiwlau yn ail ymgais.

* Mae marc islaw 40% yn golygu na chaniateir goddefiant mewn UNRHYW fodiwl.

S6

Bydd ymgeiswyr nad ydynt yn bodloni gofynion S2 yn methu â chymhwyso am y dyfarniad. Yn ôl disgresiwn y Bwrdd Arholi, fel arfer bydd yn ofynnol i'r ymgeisydd sefyll arholiadau neu asesiadau atodol ym mhob modiwl lle mae wedi methu ar yr ymgais gyntaf am farc wedi'i gapio o 50%. Bydd myfyrwyr sy'n dewis peidio ag ailsefyll modiwl a fethwyd yn cael marc o 0%.

S7

Ni fydd ymgeiswyr sy'n methu â chyflwyno eu gwaith dysgu annibynnol dan gyfarwyddyd neu elfen gyfatebol gymeradwy erbyn y dyddiad cau yn gymwys am ddyfarniad Meistr, ond cânt gyfle i gael eu hystyried am ddyfarniad ymadael o hyd. Ni chânt gyfle i ailgyflwyno.

S8

Os yw ymgeiswyr yn methu'r dysgu annibynnol dan gyfarwyddyd neu elfen gyfatebol gymeradwy a chaniateir iddynt ailgyflwyno, bydd y cyfnodau amser canlynol i ailgyflwyno yn berthnasol. Caiff marciau ailgyflwyno eu capio ar 50%.

Dyddiadau cau ailgyflwyno

Dull AstudioAilgyflwyno
LLAWN-AMSER  3 mis* fel arfer (ar ôl i'r canlyniadau gael eu cyhoeddi'n swyddogol gan y Brifysgol)
RHAN-AMSER  6 mis (ar ôl i'r canlyniadau gael eu cyhoeddi'n swyddogol)

*gall Cyfadrannau/Ysgolion bennu cyfnodau ailgyflwyno byrrach os yw'r dysgu annibynnol dan gyfarwyddyd wedi'i rannu'n fodiwlau gwerth llai na 60 o gredydau. Dylai llawlyfr y Gyfadran/Ysgol nodi hyn yn glir i fyfyrwyr.

S9

Cydnabyddir y gallai rhai ymgeiswyr fethu'r modiwlau dysgu annibynnol dan gyfarwyddyd a'r modiwlau a addysgir ar yr ymgais gyntaf. Caiff ymgeiswyr o'r fath un cyfle i ailgyflwyno'r dysgu annibynnol dan gyfarwyddyd (yn unol â'r rheoliadau uchod) ac un cyfle i ailsefyll modiwlau a addysgir/lleoliad gwaith.

S10

Bydd yn ofynnol i fyfyrwyr sy'n methu unrhyw fodiwl ar yr ail ymgais dynnu'n ôl o'r Brifysgol. Gellir ystyried ymgeiswyr o'r fath ar gyfer dyfarniad ymadael priodol, yn amodol ar ofynion y Corff Proffesiynol.

  • Gall rhaglenni fabwysiadu rheoliadau goddefiad mwy caeth oherwydd gofynion Cyrff Proffesiynol/Cyrff Noddi.

Gwobrau ymadael

Tystysgrif Ôl-raddedig
  • Pasiwyd 60 credyd (â marc o 50% neu fwy), rhaid bod isafswm o 40 credyd wedi'u hennill yn Abertawe.
Tystysgrif Ôl-raddedig â Theilyngdod
  • Pasiwyd 60 credyd (â marc o 50% neu fwy), rhaid bod isafswm o 40 credyd wedi'u hennill yn Abertawe.
  • Wedi ennill marc cyfartalog cyffredinol rhwng 60% a 69.99%.
Tystysgrif Ôl-raddedig â Rhagoriaeth
  • Pasiwyd 60 credyd (â marc o 50% neu fwy), rhaid bod isafswm o 40 credyd wedi'u hennill yn Abertawe.
  • Wedi ennill marc cyfartalog cyffredinol o 70% neu’n uwch.
Diploma Ôl-raddedig
  • Wedi astudio 120 o gredydau (caniateir 30 o gredydau o fethiannau a esgusodir*), o leiaf 80 ohonynt wedi'u pasio neu'n fethiannau a esgusodir yn Abertawe.
Diploma Ôl-raddedig â Theilyngdod
  • Wedi astudio 120 o gredydau (caniateir 30 o gredydau o fethiannau a esgusodir), o leiaf 80 ohonynt wedi'u pasio neu'n fethiannau a esgusodir yn Abertawe.

  • Wedi ennill marc cyfartalog cyffredinol rhwng 60% a 69.99%.

Diploma Ôl-raddedig â Rhagoriaeth 
  • Wedi astudio 120 o gredydau (caniateir 30 o gredydau o fethiannau a esgusodir*), o leiaf 80 ohonynt wedi'u pasio neu'n fethiannau a esgusodir yn Abertawe.

  • Wedi ennill marc cyfartalog cyffredinol o 70% neu uwch.

 *Gall rhaglenni fabwysiadu rheoliadau llymach o ganlyniad i ofynion y Corff Proffesiynol/Corff Nawdd.

S11

Mae gan bob ymgeisydd a orfodir i dynnu'n ôl o'r Brifysgol yr hawl i apelio yn unol â Rheoliadau Cywirdeb y Marciau Gyhoeddedig a/neu Weithdrefn Apelio’r Brifysgol. 

4.6.2 Rheolau Dyfarnu Penodol – Bwrdd Ailsefyll

S1

50% fydd y marc pasio.

S2

Gall ymgeiswyr sy'n cronni 180 o gredydau gymhwyso ar gyfer dyfarniad gradd. Caiff y marc cyfartalog cyffredinol ar gyfer y rhaglen ei bennu fel a ganlyn:

Cronni CredydauGwerth Perthynol
Y 60 credyd gorau 3
Y 60 credyd gorau nesaf 2
Y 60 credyd sy'n weddill 1

 

I fyfyrwyr sy'n dechrau ar raglenni o fis Medi 2023 neu fis Ionawr 2024, mae'r pwynt S2 canlynol yn berthnasol:

Gall ymgeiswyr sy'n cronni 180 o gredydau gymhwyso ar gyfer dyfarniad gradd. Caiff dosbarthiad cyffredinol y radd ei gyfrifo ar sail cyfartaledd cymedrig marciau'r modiwl, sy'n cael eu pwysoli'n unol â'u gwerth o ran credydau, ar draws y rhaglen gyfan.

S3

Bydd ymgeiswyr sy'n ennill marc cyfartalog cyffredinol rhwng 60-69.99% ar gyfer y rhaglen gyfan yn gymwys i ennill dyfarniad gradd Meistr â Theilyngdod.

S4

Bydd ymgeiswyr sy'n ennill marc cyfartalog cyffredinol o 70% neu fwy ar gyfer y rhaglen gyfan yn gymwys i ennill dyfarniad gradd Meistr â Rhagoriaeth.

S5

Gall ymgeiswyr, ar eu hail ymgais, esgusodi hyd at 30 o gredydau yn ôl disgresiwn y Bwrdd Arholi cyhyd â bod yr amodau canlynol yn cael eu bodloni:

  • Bod marc cyfartalog cyffredinol y modiwlau a addysgir yn 50% o leiaf.
  • Nid yw’r modiwlau maent wedi'u methu wedi’u dynodi cyn hynny yn 'fodiwlau craidd' ar gyfer y rhaglen benodol (gweler rheol asesiad cyffredinol G4).
  • Nid yw’r marciau mewn UNRHYW fodiwl yn llai na 40%.* Dylid cyfeirio at gredydau modiwlau o'r fath fel methiannau a esgusodir (bydd y rhain yn ymddangos fel graddau F ar gofnod y myfyriwr).
  • Nid yw'r modiwl yn cyfrannu at y 60 credyd o ddysgu annibynnol dan gyfarwyddyd.
  • Mae'r modiwlau yn ail ymgais.

*  Mae marc islaw 40% yn golygu na chaniateir goddefiant mewn UNRHYW fodiwl.

S6

Bydd yn ofynnol i fyfyrwyr sy'n methu unrhyw fodiwl ar yr ail ymgais (goddefiant yn berthnasol) dynnu'n ôl o'r Brifysgol. Gellir ystyried ymgeiswyr o'r fath ar gyfer dyfarniad ymadael priodol, yn amodol ar ofynion y Corff Proffesiynol.

Gwobrau ymadael

Tystysgrif Ôl-raddedig
  • Pasiwyd 60 credyd (â marc o 50% neu fwy), rhaid bod isafswm o 40 credyd wedi'u hennill yn Abertawe.
Tystysgrif Ôl-raddedig â Theilyngdod
  • Pasiwyd 60 credyd (â marc o 50% neu fwy), rhaid bod isafswm o 40 credyd wedi'u hennill yn Abertawe.
  • Wedi ennill marc cyfartalog cyffredinol rhwng 60% a 69.99%.
Tystysgrif Ôl-raddedig â Rhagoriaeth
  • Pasiwyd 60 credyd (â marc o 50% neu fwy), rhaid bod isafswm o 40 credyd wedi'u hennill yn Abertawe.
  • Wedi ennill marc cyfartalog cyffredinol o 70% neu ragor.
Diploma Ôl-raddedig
  • Wedi astudio 120 o gredydau (caniateir 30 o gredydau o fethiannau a esgusodir), o leiaf 80 ohonynt wedi'u pasio neu'n fethiannau a esgusodir yn Abertawe.
Diploma Ôl-raddedig â Theilyngdod
  • Wedi astudio 120 o gredydau (caniateir 30 o gredydau o fethiannau a esgusodir), o leiaf 80 ohonynt wedi'u pasio neu'n fethiannau a esgusodir yn Abertawe.
  • Wedi ennill marc cyfartalog cyffredinol rhwng 60% a 69.99%.

Diploma Ôl-raddedig â Rhagoriaeth

 

  • Wedi astudio 120 o gredydau (caniateir 30 o gredydau o fethiannau a esgusodir), o leiaf 80 ohonynt wedi'u pasio neu'n fethiannau a esgusodir yn Abertawe.
  • Wedi ennill marc cyfartalog cyffredinol o 70% neu ragor.

*Gall rhaglenni fabwysiadu rheoliadau goddef llymach o ganlyniad i ofynion y Corff Proffesiynol/Corff Nawdd.

S7

Mewn amgylchiadau eithriadol ac yn unol â Pholisi’r Brifysgol ar Amgylchiadau Esgusodol sy'n Effeithio ar Asesu, gall ymgeiswyr sy'n methu â gwneud iawn am eu modiwl(au) yn ystod y cyfnod ailsefyll oherwydd amgylchiadau esgusodol, neu sy'n methu'r modiwl ar y cynnig cyntaf yn ystod y cyfnod ailsefyll (h.y. gohiriad), gyflwyno tystiolaeth o amgylchiadau o'r fath i'r Gyfadran/Ysgol  i'w hystyried. Yn ôl disgresiwn Bwrdd Dilyniant a Dyfarnu'r Brifysgol, gellir caniatáu ymgeiswyr o'r fath un cyfle arall i ailsefyll. Fel arfer, cynhelir yr ailasesiad(au) yn ystod y cyfnod asesu nesaf ar gyfer y modiwlau dan sylw yn y flwyddyn academaidd nesaf.

S8

Mae gan bob ymgeisydd a orfodir i dynnu'n ôl o'r Brifysgol yr hawl i apelio yn unol â Rheoliadau Cywirdeb y Marciau Gyhoeddedig a/neu Weithdrefn Apelio’r Brifysgol.