Mae'r Coleg, Prifysgol Abertawe, yn cynnig nifer o raglenni cyn-feistr sy'n caniatáu i fyfyrwyr sy'n eu cwblhau'n llwyddiannus drosglwyddo i gynlluniau gradd ôl-raddedig a addysgir ym Mhrifysgol Abertawe.

Rhaid i'r holl fyfyrwyr ar raglenni cyn-feistr gofrestru'n fyfyrwyr ym Mhrifysgol Abertawe a thalu’r ffioedd priodol a bennir gan Y Coleg, Prifysgol Abertawe.

Fel myfyrwyr cofrestredig, mae'n rhaid i fyfyrwyr cyn-feistr gydymffurfio â Rheoliadau Academaidd a Chyffredinol y Brifysgol ar gyfer Cynlluniau Gradd Israddedig, fel y'u nodir yn y Rheolau Academaidd, ac eithrio lle maent yn ymwneud â dyfarnu cymhwyster.

Pan fydd myfyriwr wedi trosglwyddo i ymgeisyddiaeth am radd ôl-raddedig a addysgir, bydd Rheoliadau Graddau Ôl-raddedig a Addysgir y Brifysgol yn berthnasol.

Lle bo'n berthnasol, nodir eithriadau ar gyfer Y Coleg, Prifysgol Abertawe, yn y Rheoliadau Academaidd ac yn Llawlyfr Y Coleg.