Rheoliadau a Gweithdrefnau Academaidd ar gyfer yr MSc mewn Astudiaethau Cydymaith Meddygol
1. Cyflwyniad
1.1
Caiff Graddau Meistr, Diploma Ôl-raddedig, neu Dystysgrif Ôl-raddedig eu dyfarnu i fyfyrwyr sydd wedi dangos:
- Dealltwriaeth systematig o wybodaeth, ac ymwybyddiaeth feirniadol o broblemau cyfredol a/neu fewnwelediadau newydd, sydd i raddau helaeth ar flaen y gad yn y ddisgyblaeth academaidd, maes astudio neu faes arfer proffesiynol dan sylw neu'n cael eu goleuo gan waith ar flaen y gad.
- Dealltwriaeth gynhwysfawr o'r technegau sy'n berthnasol i'w hymchwil eu hunain neu i ysgolheictod uwch.
- Gwreiddioldeb wrth gymhwyso gwybodaeth, ynghyd â dealltwriaeth ymarferol o sut y defnyddir technegau ymchwil ac ymholi i greu a dehongli gwybodaeth o fewn y ddisgyblaeth.
- Dealltwriaeth gysyniadol sy'n galluogi'r myfyriwr:
- I werthuso ymchwil cyfredol ac ysgolheictod uwch yn feirniadol o fewn y ddisgyblaeth;
- I werthuso methodolegau a datblygu beirniadaeth ohonynt, a lle bo'n briodol, gynnig damcaniaethau newydd.
Yn nodweddiadol, bydd deiliaid y cymhwyster yn gallu gwneud y pethau canlynol:
- Ymdrin â materion cymhleth yn systematig ac yn greadigol, gwneud penderfyniadau doeth yn absenoldeb data cyflawn, a mynegi casgliadau yn glir i gynulleidfaoedd arbenigol a lleyg.
- Dangos hunangyfeirio a gwreiddioldeb wrth ymdrin â phroblemau a'u datrys, a gweithio'n annibynnol i gynllunio a chynnal tasgau ar lefel broffesiynol neu gyfatebol.
- Parhau i ddatblygu eu gwybodaeth a'u sgiliau, a datblygu sgiliau newydd i lefel uchel.
A bydd gan y deiliaid:
- Y nodweddion a'r sgiliau trosglwyddadwy angenrheidiol ar gyfer cyflogaeth sy'n gofyn am:
- Arfer menter a chyfrifoldeb personol;
- Gwneud penderfyniadau mewn sefyllfaoedd cymhleth nad oes modd eu rhagweld;
- Y gallu i ddysgu’n annibynnol sy’n ofynnol er mwyn sicrhau datblygiad proffesiynol parhaus.
2. Strwythur y Rhaglen
2.1
Strwythur yr MSc Astudiaethau mewn Cydymaith Meddygol yw rhaglen amser llawn sy'n seiliedig ar 240 o gredydau ar lefel 7, 120 o gredydau ym Mlwyddyn 1 a 120 o gredydau (lefel 7) ym Mlwyddyn 2.
2.2
Cynlluniwyd y rhaglen mewn ffordd sy'n gofyn i fyfyrwyr gwblhau lleoliadau ymarfer proffesiynol. Lle bydd myfyrwyr yn destun asesiad o gymhwysedd proffesiynol yn dilyn cyfnod o leoliad ymarfer, rhaid bod y canlyniad yn seiliedig ar gredydau.
2.3
Rhaid i'r lefel astudio fod ar Lefel 7 y Fframwaith Cymwysterau Addysg Uwch.
2.4
Mae strwythur y rhaglen wedi'i gyfeirio gan Fframwaith a Chwricwlwm Cymhwysedd y Cydymaith Meddygol.
3. Amodau Derbyn
3.1
Derbynnir myfyrwyr i'r rhaglen astudio yn unol â gofynion penodol y rhaglen a rheoliadau cyffredinol y Brifysgol ynghylch matriciwleiddio. Rhaid i ymgeisydd am y dyfarniad MSc mewn Astudiaethau Cydymaith Meddygol feddu ar un o'r cymwysterau canlynol cyn dechrau astudio:
- Gradd Baglor ac o leiaf 2:2 mewn Biowyddoniaeth, Gwyddoniaeth Chwaraeon neu ddisgyblaeth sy'n gysylltiedig ag iechyd gan Brifysgol yn y DU;
- Ymgeiswyr sydd wedi ennill gradd uwch (2:1 neu ddosbarth cyntaf gydag anrhydedd) neu ddyfarniad ôl-raddedig mewn disgyblaeth nad yw'n gysylltiedig;
- Rhaid i bob ymgeisydd ddarparu tystiolaeth o brofiad gwaith neu wirfoddoli perthnasol a gwerthoedd sy'n gyson â Chyfansoddiad y GIG, waeth ym mha ddisgyblaeth mae eu gradd;
- Gradd gychwynnol gan Brifysgol Ewropeaidd gydnabyddedig;
- Bydd myfyrwyr sy'n dymuno ymgeisio am gredyd APeL mewn perthynas â chymwysterau neu brofiad blaenorol hefyd yn cael eu hystyried yn unigol yn seiliedig ar bolisi'r Brifysgol.
NI FYDD y rhaglen Astudiaethau Cydymaith Meddygol yn agored i:
- Ymgeiswyr sydd eisoes wedi cofrestru ar raglen Cydymaith Meddygol;
- Ymgeiswyr sydd wedi cofrestru ar gwrs meddygol o'r blaen.
Caiff ceisiadau i drosglwyddo o raglenni Cydymaith Meddygol tebyg eu hystyried fesul achos.
3.2
Cyn derbyn ymgeisydd i raglen astudio, rhaid i Ysgol Feddygaeth Prifysgol Abertawe sicrhau ei fod yn medru cyfathrebu’n effeithiol yn Saesneg, ar lafar ac yn ysgrifenedig. Mae profion TOEFL neu IELTS (neu gyfwerth) yn berthnasol. Rhaid i ymgeiswyr rhyngwladol ennill sgôr IELTS 7 ym mhob maes.
3.3
Bydd yn rhaid i ymgeiswyr hefyd fodloni gwiriad y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (“DBS”) a gwiriad iechyd. Gall y Gyfadran Meddygaeth, Gwyddorau Iechyd a Bywyd roi ystyriaeth bellach, fesul achos, i ymgeiswyr nad ydynt yn gallu bodloni'r gofynion isaf yn unol â gweithdrefnau a gyhoeddwyd gan yr Ysgol. Ni chaiff ymgeiswyr sydd wedi cael eu tynnu'n ôl o raglen berthynol ym maes iechyd neu ofal cymdeithasol ar sail ffitrwydd i ymarfer eu hystyried.
3.4
Bydd yn rhaid i fyfyrwyr ymgyfarwyddo â chanllawiau i ymddygiad, megis y rhai a gyhoeddwyd gan Y Cyngor Meddygol Cyffredinol a'r safonau a bennwyd gan Gyfadran y Cymdeithion Meddygol, Coleg Brenhinol y Meddygon, a pharchu'r canllawiau hynny.
4. Cofrestru gyda’r Brifysgol
4.1
Mae’r Brifysgol yn disgwyl i bob ymgeisydd gofrestru er mwyn cael ei gydnabod yn fyfyriwr yn y Brifysgol. Dylai pob ymgeisydd gofrestru yn unol â chyfarwyddiadau cofrestru'r rhaglen astudio benodol ac o fewn y cyfnod cofrestru penodedig.
4.2
Mae’n rhaid i ymgeiswyr gofrestru o fewn y cyfnod a bennwyd ar gyfer cofrestru:
- Os ydynt yn cofrestru yn y brifysgol am y tro cyntaf;
- Os ydynt yn cofrestru ar raglen astudio benodol am y tro cyntaf;
- Os ydynt yn symud ymlaen i'r flwyddyn nesaf;
- Os yw’r Brifysgol yn disgwyl i ffi gael ei thalu yn unol â rheoliadau’r Brifysgol sy'n berthnasol i gyllid a ffioedd myfyrwyr.
- Gofynion penodol y rhaglen;
- Rheoliadau’r Brifysgol o ran matriciwleiddio;
- Y ddeddfwriaeth ynghylch astudio yn y Deyrnas Unedig.
4.3
Er mwyn cofrestru yn y Brifysgol, mae’n ofynnol i ymgeiswyr, lle bynnag y bo'n briodol, ddarparu tystiolaeth o’u hawl i astudio yn y Brifysgol yn unol â:
- Gofynion penodol y rhaglen;
- Rheoliadau’r Brifysgol o ran matriciwleiddio;
- Y ddeddfwriaeth ynghylch astudio yn y Deyrnas Unedig.
4.4
Os na fydd ymgeisydd yn cofrestru o fewn y cyfnod penodedig, bydd ei ymgeisyddiaeth yn dod i ben a bydd rhaid i’r ymgeisydd dynnu'n ôl o’r Brifysgol. Caiff ceisiadau i adfer ymgeisyddiaeth a chaniatâd i gofrestru'n hwyr eu hystyried yn weinyddol ar ran y Bwrdd Achosion Myfyrwyr.
4.5
Bydd y Brifysgol yn hysbysu'r awdurdodau perthnasol, o fewn cyfnod penodedig, yn unol â deddfau’r Deyrnas Unedig parthed astudio yn y DU, am fyfyrwyr y tynnwyd eu henwau yn ôl oherwydd iddynt beidio â chofrestru ar raglen astudio o fewn y cyfnod cofrestru penodedig.
4.6
Wrth gofrestru, mae myfyrwyr yn derbyn bod disgwyl iddynt gydymffurfio â chanllawiau'r Ysgol Feddygaeth ar ymddygiad proffesiynol, yn unol â'r hyn a gyhoeddir yn llawlyfr y rhaglen.
4.7
Fel myfyrwyr cofrestredig, bydd yn ofynnol i fyfyrwyr gymryd rhan yn rhaglen imiwneiddio'r Ysgol.
5. Estyniad i'r Ymgeisyddiaeth
5.1
Bydd modiwlau yn cael eu cwblhau yn ôl yr amserlen a nodir gan yr Ysgol Feddygaeth, a bydd asesiadau’n cael eu cwblhau erbyn y dyddiadau a bennir gan yr Ysgol. Caiff y rhaglen radd gyfan ei chwblhau o fewn y terfynau amser canlynol o’r dyddiad cofrestru gwreiddiol:
Dull Astudio | Amser Llawn |
Ymgeiswyr amser llawn | Fel arfer, heb fod yn llai na 24 mis neu'n fwy na 3 blynedd. Mewn amgylchiadau eithriadol, gellir caniatáu pedwaredd flwyddyn, yn ôl disgresiwn yr Ysgol Feddygaeth/Coleg y Gwyddorau Dynol ac Iechyd. |
5.2
Fel arfer, rhaid i ymgeiswyr gwblhau eu hastudiaethau erbyn y dyddiadau cau canlynol oni bai fod y Bwrdd Academaidd perthnasol yn cymeradwyo amserlen amgen ar gyfer rhaglen benodol:
Ymgeiswyr llawn-amser: diwedd y 24ain mis (2 flynedd)
5.3
Ni chaiff ymgeisydd sy'n methu cwblhau o fewn yr amserlen a nodwyd gwblhau'r rhaglen oni awdurdodir estyniad yn ffurfiol gan y Pwyllgor perthnasol yn y Brifysgol (gyda chefnogaeth yr Ysgol). Heb estyniad a awdurdodwyd, bydd yr ymgeisydd yn gymwys i ennill y cymhwyster ymadael priodol yn unig, sef y Dystysgrif Ôl-raddedig neu'r Diploma mewn Astudiaethau Gofal Iechyd. Dylid nodi na fydd estyniad o’r fath yn estyn cyfnod astudio’r rhaglen gyfan yn awtomatig.
6. Estyn Terfynau Amser
6.1
Gellir estyn terfynau amser y rhaglen radd mewn achosion eithriadol yn unig ac yn unol â'r meini prawf canlynol:
- Fel arfer, ni chaniateir estyniadau ac eithrio am resymau tosturiol neu resymau’n ymwneud â salwch difrifol, neu anawsterau difrifol gartref y gellir dangos eu bod wedi cael effaith niweidiol ar yr ymgeisydd. Rhaid i’r Ysgol Feddygaeth wneud achos llawn a rhesymegol, gyda thystiolaeth feddygol briodol neu dystiolaeth annibynnol arall, i’r Brifysgol ei hystyried.
- Mewn achosion sy’n deillio o salwch:
- rhaid darparu tystiolaeth feddygol foddhaol, gan gynnwys tystysgrif feddygol. (Mae difrifoldeb a natur y salwch fel y'u disgrifir ar y dystysgrif yn hynod werthfawr wrth asesu’r achos.);
- rhaid rhoi datganiad clir, yn dangos bod yr Ysgol wedi gwerthuso sefyllfa’r ymgeisydd o ganlyniad i’r salwch a’i bod o'r farn bod yr estyniad y gwneir cais amdano'n briodol. Lle bynnag y bo hynny’n bosibl, dylai datganiad o’r fath gael ei wneud ar ôl cyswllt uniongyrchol rhwng yr ymgeisydd a’r Ysgol.
6.2
Rhaid anfon ceisiadau am estyniadau i'r Gwasanaethau Academaidd drwy Bwyllgor Cynnydd a Phroffesiynoldeb yr Ysgol Feddygaeth a chânt eu cymeradwyo'n weinyddol ar ran y Bwrdd Rheoliadau ac Achosion Academaidd.
7. Strwythur Addysgu
7.1
Y patrwm addysgu ar gyfer yr MSc mewn Astudiaethau Cydymaith Meddygol fydd pedwar semester.
8. Modiwlau o fewn y Rhaglen
8.1
Cydran addysgol ar wahân o fewn rhaglen yw modiwl. Bydd y rhaglen hon yn cynnwys modiwlau sy'n cynnwys 10, 20 a 40 o bwyntiau credyd.
8.2
Tybir bod pob modiwl ar y rhaglen hon yn fodiwl craidd. Rhaid dilyn a llwyddo mewn modiwlau craidd cyn i fyfyriwr allu symud ymlaen i'r flwyddyn astudio nesaf.
8.3
Gan y tybir bob pob modiwl yn fodiwl craidd, ni chaniateir trosglwyddo i fodiwl arall. Disgwylir i fyfyrwyr astudio'r rhaglen gyfan ym Mhrifysgol Abertawe fel arfer.
8.4
Ni chaniateir i fyfyrwyr astudio modiwlau nad ydynt yn ofynion y rhaglen astudio ar ben y llwyth credyd amser llawn o 120 o gredydau.
9. Lleoliadau Dewisol
9.1
Ar ben lleoliadau clinigol, disgwylir i ymgeiswyr fynd ar leoliad dewisol, fel arfer yn yr ail flwyddyn astudio.
9.2
Ymgymerir â'r lleoliad gwaith dewisol hwn yn unol ag adran Asiantaeth Sicrhau Ansawdd y DU ar weithio gydag eraill a chanllawiau'r Brifysgol a gyhoeddwyd yn y Côd Ymarfer ar gyfer Sicrhau Ansawdd.
10. Ymgysylltu
10.1
Mae'r Brifysgol yn disgwyl i fyfyrwyr fodloni'r gofynion presenoldeb a amlinellir yn Natganiad y Brifysgol ynghylch Ymgysylltu.
10.2
Mae'n ofynnol i fyfyrwyr fod yn bresennol yn unol â'r gofynion a nodir yn y Fframwaith Cymhwysedd a Chwricwlwm ar gyfer Cymdeithion Meddygol. Os nad yw myfyrwyr yn bodloni’r gofynion hyn, efallai na fyddant yn cael cofrestru gyda'r corff proffesiynol, statudol neu reoleiddiol.
10.3
Os bydd myfyrwyr sy'n derbyn arian gan Lywodraeth Cymru yn absennol oherwydd salwch am fwy na 60 o ddiwrnodau, caiff eu trefniadau bwrsariaeth eu hatal dros dro.
11. Modd a Phatrwm Mynychu
11.1
Amser llawn fydd yr unig ffordd o fynychu ar gyfer y rhaglen hon. Disgwylir i ymgeiswyr amser llawn astudio 120 o gredydau mewn blwyddyn academaidd.
11.2
Bydd y patrwm mynychu'n cynnwys cyfnodau o flociau dysgu a lleoliadau clinigol.
12. Llawlyfr
12.1
Bydd llawlyfr yr Ysgol Feddygaeth, neu ganllaw cyfatebol, ar gael i bob myfyriwr ar ddechrau ei raglen astudio neu cyn hynny.
13. Gohirio Astudiaethau
13.1
Ystyrir ceisiadau i ohirio astudiaethau yn unol â Rheoliadau Prifysgol Abertawe ynghylch Gohirio Astudiaethau.
14. Trosglwyddo rhwng Rhaglenni
14.1
Ni chaniateir i fyfyrwyr ar y rhaglen MSc mewn Astudiaethau Cydymaith Meddygol drosglwyddo i raglen arall ym Mhrifysgol Abertawe oni bai fod ganddynt ganiatâd Cyfarwyddwr y Rhaglen a'r Pwyllgor Matriciwleiddio.
14.2
Caiff ceisiadau i drosglwyddo o raglenni Cydymaith Meddygol tebyg eu hystyried fesul achos (gweler 20. Trosglwyddo Credydau).
15. Cynnydd a Phroffesiynoldeb
15.1
Disgwylir i fyfyrwyr ddangos y safonau uchaf o ymddygiad cyffredinol a phroffesiynol trwy gydol y rhaglen. Caiff myfyrwyr y mae eu perfformiad academaidd, eu presenoldeb, eu hymddygiad proffesiynol neu ansawdd eu gwaith eu hasesu i fod yn anfoddhaol eu hystyried ym Mhwyllgor Cynnydd a Phroffesiynoldeb yr Ysgol Feddygaeth. Pan fydd ymddygiad neu broffesiynoldeb myfyriwr yn peri pryderon, bydd y Pwyllgor Cynnydd a Phroffesiynoldeb yn penderfynu a oes achos prima facie ei fod yn amharu ar addasrwydd y myfyriwr i ymarfer. Os tybir mai dyma'r achos, caiff y myfyriwr ei gyfeirio at Bwyllgor Ymchwilio i Addasrwydd i Ymarfer, dan weithdrefnau Addasrwydd i Ymarfer Prifysgol Abertawe.
15.2
Disgwylir i fyfyrwyr ymddwyn yn unol â Rheoliadau Addasrwydd i Ymarfer y Brifysgol a Fframwaith Cymhwysedd a Chwricwlwm Cymdeithion Meddygol (2012).
15.3
Dylai “Proffesiynoliaeth” gael ei hasesu'n ffurfiol gan yr Ysgol Feddygaeth. Bydd gallu myfyriwr i gyflawni elfennau angenrheidiol proffesiynoldeb yn cyfrannu tuag at asesiad academaidd y myfyriwr ar leoliad – sef a fydd yn pasio neu'n methu'r lleoliad.
15.4
Mae ymddygiad annerbyniol fel arfer yn cyfeirio at fathau o ymddygiad gan fyfyriwr nad ydynt yn bodloni'r safonau a bennwyd gan y Gyfadran Meddygaeth, Gwyddorau Iechyd a Bywyd a disgwyliadau Polisi Ymddygiad Annerbyniol yr Ysgol Feddygaeth a bydd yr Ysgol yn ymdrin â hyn drwy ei Gweithdrefnau Cynnydd a Phroffesiynoldeb.
15.5
Os nad yw myfyriwr yn newid ymddygiad annerbyniol neu ddigwyddiadau difrifol o ymddygiad annerbyniol, caiff yr achos ei gyfeirio at sylw'r Brifysgol o dan y Rheoliadau Addasrwydd i Ymarfer.
16. Absenoldeb Myfyrwyr
16.1
Os bydd amgylchiadau'n tarfu ar waith myfyrwyr am fwy na phum niwrnod gwaith, bydd yn ofynnol iddynt hysbysu'r Ysgol Feddygaeth a chyflwyno tystysgrif feddygol.
16.2
Bydd yn ofynnol i fyfyriwr sydd wedi bod yn absennol o arholiad hysbysu’r Ysgol Feddygaeth yn ddi-oed. Yn achos salwch, bydd hefyddyn ofynnol i’r myfyriwr gyflwyno tystysgrif feddygol. Mae’r Ysgol yn gweithredu polisi "Ffitrwydd i Sefyll" mewn perthynas ag asesu’r rhaglen hon. Cyhoeddir manylion yn llawlyfr y rhaglen.
16.3
Rhaid i fyfyrwyr sylweddoli mai eu cyfrifoldeb nhw yw tynnu sylw'r Ysgol Feddygaeth, cyn gynted ag y bo modd, at unrhyw amgylchiadau eithriadol a allai effeithio ar eu perfformiad naill ai yn ystod y flwyddyn academaidd neu yn ystod arholiadau. Os yw apeliadau academaidd yn seiliedig ar amgylchiadau y gallai'r myfyriwr fod wedi eu dwyn i sylw'r Ysgol cyn cyfarfod y byrddau arholi, fel arfer ni chânt eu hystyried.
16.4
Caiff myfyrwyr ofyn am absenoldeb byr o astudio. Cymeradwyir absenoldebau awdurdodedig gan Bwyllgor Amgylchiadau Arbennig yr Ysgol Feddygaeth.
17. Cyflwyno Gwaith yn Hwyr
17.1
Bydd y Gyfadran Meddygaeth, Gwyddorau Iechyd a Bywyd yn pennu dyddiadau cau i gyflwyno gwaith. Os nad yw myfyrwyr yn cyflwyno gwaith erbyn y dyddiad cau, 0% fydd eu marc. Os yw amgylchiadau esgusodol yn atal ymgeiswyr rhag bodloni dyddiadau cau, gallant gyflwyno cais i'r Gyfadran Meddygaeth, Gwyddorau Iechyd a Bywyd am estyniad drwy e-bostio chhsStudentCases.
17.2
Oni fydd y Gyfadran Meddygaeth, Gwyddorau Iechyd a Bywyd yn derbyn manylion am amgylchiadau esgusodol a chais am estyniad, neu gais i beidio â rhoi cosb am gyflwyno'n hwyr, a hynny cyn y dyddiad cau, tybir nad oedd yr amgylchiadau wedi effeithio'n sylweddol ar y myfyriwr wrth baratoi am yr asesiad dan sylw.
18. Darpariaeth Arbennig
18.1
Cyfrifoldeb yr ymgeisydd fydd hysbysu’r Ysgol am unrhyw anabledd neu amgylchiadau esgusodol a allai olygu bod angen darpariaeth arbennig mewn asesiadau. Mae’n ofynnol i ymgeiswyr gyflwyno dogfennaeth briodol i ategu hyn. Dylai pob cais, boed o ganlyniad i anabledd hirdymor neu amgylchiadau tymor byr, gael ei nodi ar y ffurflen briodol a’i ategu gan dystiolaeth ysgrifenedig os oes modd.
18.2
Mae manylion pellach a chanllawiau ar drefniadau arholi arbennig ar gael yn y ddogfen Canllawiau i Golegau ar gyfer Ymdrin â Myfyrwyr ag Amgylchiadau Esgusodol a/neu Anghenion Arbennig.
18.3
Mae’r Gyfadran Meddygaeth, Gwyddorau Iechyd a Bywyd y'n gweithredu polisi "Ffitrwydd i Sefyll" o ran asesu. Os bydd ymgeisydd yn cymryd rhan mewn asesiad ac yn ei gwblhau, tybir ei fod yn ddigon iach i gymryd rhan yn yr asesiad, ac ni fydd tystiolaeth o amgylchiadau esgusodol a gyflwynwyd cyn yr asesiad yn cael ei derbyn na'i hystyried gan y Bwrdd. Cyhoeddir manylion llawn y polisi hwn yn llawlyfr y rhaglen.
18.4
Oni bai fod y Gyfadran Meddygaeth, Gwyddorau Iechyd a Bywyd y'n derbyn manylion o amgylchiadau esgusodol, bydd y Brifysgol yn tybio nad yw’r amgylchiadau wedi effeithio'n sylweddol ar y myfyriwr cyn neu yn ystod yr asesiad dan sylw.
19. Byrddau Arholi a Phenodi Arholwyr Allanol
19.1
Cynhelir pob arholiad dan awdurdod rheoliadau'r Brifysgol ynghylch arholi ac asesu.
19.2
Caiff arholwyr allanol eu henwebu a’u penodi yn unol â’r gweithdrefnau a amlygir yng Nghôd Ymarfer Prifysgol Abertawe ar gyfer Arholwyr Allanol.
20. Arholiadau
20.1
Bydd myfyrwyr yn cael eu hasesu yn y sefydliad lle maent wedi dilyn y rhaglen astudio.
20.2
Gall myfyriwr sy’n dilyn rhaglen astudio yn y Brifysgol wneud cais – p'un ai Saesneg neu Gymraeg yw prif iaith asesu’r rhaglen dan sylw – i gyflwyno sgriptiau arholiad neu waith i'w asesu yn Gymraeg neu’n Saesneg. Ymdrinnir â cheisiadau o’r fath yn unol â’r Canllawiau ar Asesu ac Arholi yn Gymraeg neu mewn Iaith Arall ar wahân i'r Iaith Addysgu.
20.3
Bydd angen i fyfyrwyr sy'n cwblhau'r rhaglen yn llwyddiannus sefyll a phasio Arholiad y Dystysgrif Genedlaethol, sy'n cael ei drefnu a'i reoli'n allanol gan yr FPA. Yna cânt gofrestru ar y Gofrestr Wirfoddol o Gymdeithion Meddygol.
20.4
Ni fydd y Brifysgol yn talu cost yr Arholiad Cenedlaethol.
21. Trosglwyddo Credydau
21.1
Caiff ceisiadau i drosglwyddo credydau eu hystyried yn unol â pholisi a gweithdrefnau Prifysgol Abertawe ar gyfer cydnabod dysgu blaenorol.
22. Cymwysterau Ymadael
22.1
Gall ymgeisydd a dderbynnir ar y rhaglen fod yn gymwys i dderbyn cymhwyster ymadael ar yr amod ei fod:
- Wedi cronni’r lleiafswm gofynnol o gredydau ar gyfer y dyfarniad;
- Wedi bodloni gofynion academaidd y rhaglen ond wedi methu cyrraedd y safon ofynnol o ymddygiad proffesiynol.
neu
Yn ôl argymhelliad y Bwrdd Arholi, bydd myfyrwyr o’r fath yn gymwys am ddyfarniad, gan ddibynnu ar nifer y credydau a gronnwyd:
- Tystysgrif Ôl-raddedig mewn Astudiaethau Gofal Iechyd (60 o gredydau)
- Diploma Ôl-raddedig mewn Astudiaethau Gofal Iechyd (120 o gredydau)
22.2
Ni fydd myfyrwyr y dyfernir cymhwyster ymadael PGDip mewn Astudiaethau Gofal Iechyd iddynt yn cael sefyll Arholiad y Dystysgrif Genedlaethol (gweler 20.3).
23. Cymhwysedd am Ddyfarniad
23.1
Er mwyn bod yn gymwys i gael ei ystyried ar gyfer dyfarniad Meistr Ôl-raddedig y Brifysgol, rhaid i fyfyriwr fynychu a chwblhau modiwlau o fewn y cyfnod cofrestru hwyaf a ganiateir.
24. Derbyn i Raddau
24.1
Er mwyn bod yn gymwys i'w ystyried am ddyfarniad MSc mewn Astudiaethau Cydymaith Meddygol, o dan y Rheoliadau hyn, rhaid i fyfyriwr fod wedi:
- Dilyn y rhaglen astudio fodiwlaidd gymeradwy am y cyfnod a nodir gan y Brifysgol;
- Ennill 240 o gredydau fel y'i nodir gan y Brifysgol;
- Bodloni'r arholwyr ym mhob maes, gan gynnwys ymddygiad proffesiynol;
- Bodloni unrhyw amod(au) pellach a bennir gan y Brifysgol.
25. Apeliadau Academaidd & 26. Camymddygiad Academaidd
25. Apeliadau Academaidd
25.1
Cynhelir apeliadau Academaidd yn unol â gweithdrefnau Cywirdeb y Marciau a Gyhoeddwyd y Brifysgol a'i Gweithdrefnau Apeliadau Academaidd.
26. Camymddygiad Academaidd
26.1
Caiff honiadau o gamymddygiad Academaidd eu hystyried yn unol â gweithdrefnau Camymddygiad Academaidd Prifysgol Abertawe.
27. Addasrwydd i Ymarfer
27.1
Ystyrir honiadau nad yw myfyriwr yn "addas i ymarfer" yn unol â Pholisïau a Gweithdrefnau Ymddygiad Annerbyniol, Iechyd ar gyfer Ymarfer, ac Addasrwydd i Ymarfer y Gyfadran Meddygaeth, Gwyddorau Iechyd a Bywyd a gellir cyfeirio hefyd at Weithdrefnau Addasrwydd i Ymarfer Prifysgol Abertawe.
28. Gradd Aegrotat & 29. Gradd ar ôl Marwolaeth
28. Gradd Aegrotat
28.1
Ni fydd myfyrwyr sy'n astudio ar y rhaglen MSc mewn Astudiaethau Cydymaith Meddygol yn gymwys am radd Aegrotat. Fodd bynnag, gall ymgeiswyr fod yn gymwys i gael eu hystyried am y dyfarniadau ymadael.
29. Gradd ar ôl Marwolaeth
29.1
Ni fydd ymgeiswyr sy'n astudio ar y rhaglen MSc mewn Astudiaethau Cydymaith Meddygol yn gymwys am ddyfarniad gradd ar ôl marwolaeth. Fodd bynnag, gall ymgeiswyr fod yn gymwys i gael eu hystyried am y dyfarniadau ymadael.
Rheoliadau Asesu MSc mewn Astudiaethau Cydymaith Meddygol
Rheolau Asesu Cyffredinol
G1
Er mwyn symud o un flwyddyn i'r un nesaf, rhaid i fyfyrwyr gronni 120 o gredydau.
G2
Gall myfyrwyr sy'n cronni cyfanswm o 240 o gredydau gymhwyso am ddyfarniad gradd.
G3
Gall pob modiwl yn y rhaglen fod â sawl cydran asesu. Gellir penderfynu ar berfformiad myfyriwr mewn cydran drwy farc canran neu lwyddo/methu syml. Bydd y marc canran am gydrannau asesu yn cael ei benderfynu drwy broses gosod safonau, ac amlinellir ei manylion yn y cynllun asesu.
Rhaid i fyfyrwyr gyflawni'r marc canran pasio neu’n uwch, neu farc "pasio" ym mhob cydran asesu er mwyn derbyn y credydau am y modiwl hwn. Ystyrir bod myfyrwyr sy’n methu unrhyw gydran asesu wedi methu’r modiwl beth bynnag yw’r cyfartaledd cyffredinol, ac ni ddyfernir credydau iddynt.
G4
Ystyrir bod yr holl fodiwlau sy’n gysylltiedig â’r rhaglen MSc mewn Astudiaethau Cydymaith Meddygol yn rhai “craidd” a rhaid i ymgeiswyr lwyddo ynddynt cyn cael symud ymlaen o un flwyddyn i’r nesaf.
G5
Rhaid i fyfyrwyr fodloni gofynion presenoldeb ac asesu pob modiwl. Caiff presenoldeb ei fonitro yn unol â Pholisi Monitro Presenoldeb Myfyrwyr a Addysgir y Brifysgol ac yn unol â gofynion yr Ysgol Feddygaeth hefyd. Dylai myfyrwyr ddarllen yr arweiniad yn llawlyfr y rhaglen.
G6
Bydd y marc pasio modiwlau'n amrywio. Gweler llawlyfr y rhaglen am ragor o fanylion. Dim ond myfyrwyr sy'n pasio modiwl fydd yn derbyn credydau.
G7
Ni fydd hawl gan fyfyrwyr sydd wedi cymhwyso i symud ymlaen o un flwyddyn astudio i’r nesaf ddewis ail-wneud unrhyw fodiwl a basiwyd eisoes er mwyn gwella eu perfformiad.
G8
Rhoddir un cyfle i fyfyrwyr wneud yn iawn am gydran asesu neu fodiwl a fethwyd.
G9
Bydd myfyrwyr y mae'n rhaid iddynt gyflwyno gwaith ychwanegol yn y modiwlau Gwyddorau Dynol ac Iechyd, ar yr amod eu bod yn argyhoeddi'r arholwyr, yn cael marc wedi'i gapio ar y marc llwyddo o 50% ym mhob modiwl yn y gydran asesu unigol. Bydd Bwrdd Dilyniant a Dyfarniadau'r Brifysgol yn cyfeirio at y marc wedi'i gapio wrth benderfynu ar gyfartaledd lefel astudio.
G10
Bydd myfyrwyr y mae'n rhaid iddynt ymgymryd ag arholiadau atodol ym modiwlau'r Ysgol Feddygaeth, ar yr amod eu bod yn argyhoeddi’r myfyrwyr, yn cael marc llwyddo a bennir drwy'r broses pennu safonau.
G11
Os bydd yn ofynnol i fyfyrwyr gyflwyno gwaith cwrs atodol, bydd y Gyfadran Meddygaeth, Gwyddorau Iechyd a Bywyd yn rhoi gwybod iddynt beth yw'r gwaith dan sylw.
G12
Disgwylir i fyfyrwyr gwblhau blwyddyn astudio o fewn un sesiwn academaidd fel arfer.
G13
Os yw myfyrwyr yn methu symud ymlaen i'r flwyddyn astudio nesaf, neu os nad ydynt yn gymwys am ddyfarniad ar ôl y cyfnod asesu atodol, bydd yn ofynnol iddynt dynnu'n ôl o'r Brifysgol. Ni fydd y fath fyfyrwyr yn cael cyfle arall i gwblhau eu rhaglen astudio a chânt eu hystyried yn gymwys am gymhwyster ymadael yn unig. Ni chaiff ymgeiswyr y gofynnir iddynt adael y Brifysgol gyfle arall i wneud yn iawn am fodiwlau a fethwyd ac ni chaniateir iddynt drosglwyddo credydau i raglen astudio arall ym Mhrifysgol Abertawe. Bydd rhaid iddynt derfynu eu hastudiaethau. Fel arfer, os yw ymgeisydd yn cael penderfyniad "gofynnir i chi adael y Brifysgol" ni chaiff ei ail-dderbyn i'r un rhaglen astudio, nac i raglen berthynol, heb gymeradwyaeth y Pwyllgor Recriwtio a Derbyn.
G14
Fel arfer, rhoddir marc o 0% i ymgeiswyr nad ydynt yn ceisio gwneud yn iawn am fodiwlau a fethwyd yn ystod y cyfnod asesu atodol mewn modiwlau o'r fath, ac ni roddir cyfle arall iddynt wneud yn iawn am y methiant.
G15
Cydnabyddir y bydd rhai myfyrwyr yn cronni 120 o gredydau mewn blwyddyn academaidd ond efallai bydd yn rhaid iddynt ymgymryd â hyfforddiant pellach neu ychwanegol (gweler S16). Ni fydd y myfyrwyr hynny sy'n methu ymgymryd â'r hyfforddiant penodol yn llwyddo i symud ymlaen i'r flwyddyn astudio nesaf nac yn gymwys am ddyfarniad gradd. Gellir ystyried y fath fyfyrwyr am ddyfarniad ymadael.
G16
Cydnabyddir na fydd rhai myfyrwyr yn gallu mynychu arholiadau e.e. oherwydd salwch neu amgylchiadau esgusodol eraill. Felly, cydnabyddir y dylai myfyrwyr o'r fath fod â'r hawl i gyflwyno cais i ohirio'r asesiad. Fel arfer, bydd yr asesiad a ohiriwyd yn cael ei drefnu yn ystod y cyfnod asesu atodol.
G17
Mae'r Ysgol Feddygaeth a Gyfadran Meddygaeth, Gwyddorau Iechyd a Bywyd yn gweithredu polisi "Ffitrwydd i Sefyll" o ran asesu. Os yw ymgeisydd yn cymryd rhan mewn asesiad ac yn ei gwblhau, tybir ei fod yn ffit i gymryd rhan yn yr asesiad ac ni fydd y Bwrdd Arholi'n derbyn nac yn ystyried tystiolaeth o amgylchiadau esgusodol a fodolai cyn yr asesiad, a gyflwynir wedi'r asesiad. Cyhoeddir manylion llawn y polisi hwn i fyfyrwyr.
G18
Dylai myfyrwyr hysbysu'r Gyfadran Meddygaeth, Gwyddorau Iechyd a Bywyd am eu hamgylchiadau esgusodol a chyflwyno cais i ohirio asesiad cyn dyddiad yr asesiad hwnnw. Ystyrir ceisiadau i ohirio asesiad yn unol â'r Polisi ar Amgylchiadau Esgusodol. Os yw ymgeisydd yn cyflwyno cais am ohirio asesiad ond yn ymgymryd â'r asesiad hwnnw maes o law, bydd gan yr ymgeisydd bum niwrnod gwaith o ddyddiad yr asesiad i roi gwybod i'r Ysgol am ei benderfyniad i dynnu'r cais am ohirio yn ôl ac i wneud cais am farcio'r asesiad.
G19
Mewn amgylchiadau eithriadol, ac yn unol â Pholisi'r Brifysgol ar Amgylchiadau Esgusodol sy'n Effeithio ar Asesu, gall myfyrwyr sy'n methu gwneud yn iawn am eu modiwl(au) yn ystod y cyfnod ailsefyll oherwydd amgylchiadau esgusodol, neu sy'n methu'r modiwl ar y cynnig cyntaf yn ystod y cyfnod asesu atodol (h.y. gohiriad), gyflwyno tystiolaeth o amgylchiadau o'r fath i'r Ysgol i'w hystyried. Yn ôl disgresiwn Bwrdd Dilyniant a Dyfarnu'r Brifysgol, gellir rhoi un cyfle arall i ymgeiswyr o'r fath ailsefyll fel ymgeiswyr allanol. Fel arfer, cynhelir yr ailasesiad(au) yn ystod y cyfnod asesu nesaf ar gyfer y modiwlau dan sylw yn y flwyddyn academaidd nesaf.
G20
Ni fydd myfyrwyr sydd wedi'u cofrestru fel Ymgeiswyr Allanol yn gymwys i dderbyn taliadau bwrsariaeth yn ystod y cyfnod hwn.
G21
Efallai bydd myfyrwyr sydd wedi cofrestru fel myfyrwyr allanol yn gorfod talu ffi ychwanegol fel y’i pennir gan Swyddfa Arholiadau'r Brifysgol.
G22
Ni chaniateir i ymgeisydd sydd i'w ailarholi mewn prosiectau gosod neu fath arall o asesiad gwaith cwrs ailgyflwyno fersiwn ddiwygiedig o'i waith gwreiddiol. Yn hytrach, bydd yn rhaid iddo gyflwyno gwaith newydd i'w asesu, ar bynciau gwahanol i'r rhai lle nad oedd yr arholwyr yn fodlon ar ei waith gwreiddiol.
G23
Tybir bod ymgeiswyr sy'n absennol yn ystod rhan o arholiad ysgrifenedig neu o'r arholiad cyfan (neu nad ydynt yn cyflwyno prosiectau neu waith cwrs erbyn dyddiad a bennwyd) wedi methu'r modiwl(au) dan sylw. Yn achos ymgeiswyr na allant fynychu arholiad oherwydd amgylchiadau esgusodol, rhaid cyflwyno cais am ohiriad i'r Cyfadran Cartref cyn dyddiad yr arholiad. Rhaid i geisiadau am ohiriadau gael eu llofnodi gan yr Ysgol berthnasol a'u cyflwyno i’r Gwasanaethau Addysg i'w cymeradwyo. Bydd rhaid i ymgeiswyr y caniateir iddynt ohirio sefyll yr arholiadau yn y cyfnod arholiadau nesaf sydd wedi'i amserlennu ar gyfer y modiwl(au) dan sylw.
G24
Fel arfer, bydd y Rheolau Dilyniant Penodol yn dylanwadu ar Fwrdd Dilyniant a Dyfarnu'r Brifysgol wrth benderfynu ar ddilyniant myfyrwyr. Fodd bynnag, ni ddylai myfyrwyr ddisgwyl, fel hawl, y byddant yn cael caniatâd i ymgymryd ag asesiad atodol. Gall Bwrdd Dilyniant a Dyfarnu'r Brifysgol ystyried amgylchiadau eraill sy’n berthnasol i achos y myfyriwr cyn gwneud penderfyniad ynghylch dilyniant. Ni fyddai disgwyl i'r bwrdd Dilyniant a Dyfarnu ganiatáu i fyfyriwr symud ymlaen i’r flwyddyn nesaf na chymhwyso am ddyfarniad oni bai ei fod/bod wedi bodloni’r meini prawf gofynnol.
G25
Gall myfyriwr a dderbynnir i'r rhaglen fod yn gymwys i dderbyn cymhwyster ymadael ar yr amod ei fod:
- Wedi cronni’r lleiafswm credydau angenrheidiol ar gyfer y dyfarniad;
neu
- Wedi bodloni gofynion academaidd y rhaglen ond wedi methu cyflawni'r safon ofynnol o ran ymddygiad proffesiynol.
Gan ddibynnu ar nifer y credydau a gronnwyd, bydd myfyrwyr o’r fath yn gymwys, ar argymhelliad y Bwrdd Arholi perthnasol, am ddyfarniad:
Tystysgrif Ôl-raddedig mewn Astudiaethau Gofal Iechyd (60 o gredydau)
Diploma Ôl-raddedig mewn Astudiaethau Gofal Iechyd (120 o gredydau)
Gall myfyrwyr fod yn gymwys am y dyfarniad ymadael, 'Diploma Ôl-raddedig mewn Astudiaethau Cydymaith Meddygol', ar yr amod eu bod wedi cyflawni:
120 o gredydau ym Mlwyddyn 1
80 o gredydau ym Mlwyddyn 2 (PMXM03; PMXM04).
Rheoliadau Asesu Penodol ar gyfer y rhaglen MSc mewn Astudiaethau Cydymaith Meddygol
Rheolau i'w defnyddio yn ystod Bwrdd Dilyniant cyntaf y Brifysgol (Blwyddyn 1)
S1
Bydd myfyrwyr sy’n cronni 120 o gredydau mewn modiwlau ar ddiwedd y flwyddyn academaidd ac sy’n dangos safon foddhaol o ymddygiad proffesiynol yn cymhwyso'n awtomatig i symud ymlaen i’r flwyddyn astudio nesaf.
S2
Ni fydd myfyrwyr sy'n cronni llai na 120 o gredydau yn cymhwyso i symud ymlaen i'r flwyddyn nesaf. Yn ôl argymhelliad y Bwrdd Arholi, fel arfer bydd y fath fyfyrwyr yn cael asesiad atodol yn y modiwlau a fethwyd a bydd y marciau wedi'u capio ar 50%. Disgwylir i fyfyrwyr ailsefyll pob arholiad ar gyfer y modiwl a fethwyd, a hefyd ailgyflwyno pob darn o waith cwrs a fethwyd yn ôl yr angen. Disgwylir i fyfyrwyr y dyfernir asesiad "wedi'i ohirio" iddynt ymgymryd â chydran benodol yn ystod y cyfnod asesu atodol.
S3
Ni fydd myfyrwyr sy'n cronni llai na 60 credyd yn ystod y flwyddyn academaidd fel arfer yn cael asesiad atodol yn y modiwlau a fethwyd.
S4
Yn achos S2 ac S3 uchod, bydd y Bwrdd Arholi'n ystyried proffil pob myfyriwr ar sail unigol a gall wneud argymhellion i Fwrdd Dilyniant a Dyfarnu'r Brifysgol ynghylch addasu penderfyniad diwedd y flwyddyn.
Rheolau i'w defnyddio yn ystod Bwrdd Dilyniant Atodol y Brifysgol (Blwyddyn 1)
S5
Bydd myfyrwyr sy’n cronni 120 o gredydau mewn modiwlau ar ddiwedd y flwyddyn academaidd ac sy’n dangos safon foddhaol o ymddygiad proffesiynol yn cymhwyso'n awtomatig i symud ymlaen i’r flwyddyn astudio nesaf.
S6
Ni fydd myfyrwyr sy'n cronni llai na 120 o gredydau yn gymwys i symud ymlaen i'r flwyddyn nesaf o astudio a bydd yn ofynnol iddynt dynnu'n ôl o'r Brifysgol. Gellir ystyried y fath fyfyrwyr am ddyfarniad ymadael.
Rheolau ar gyfer Dyfarnu Gradd Meistr Ôl-raddedig mewn Astudiaethau Cydymaith Meddygol
S7
Gall myfyrwyr sy'n cronni 40 o gredydau yn eu dysgu annibynnol dan gyfarwyddyd, neu gydran gyfwerth gymeradwy, ac 80 o gredydau yn y modiwlau a addysgir yn y flwyddyn astudio olaf ac sy'n dangos safon foddhaol o ymddygiad proffesiynol, gymhwyso am ddyfarniad gradd.
S8
Ni fydd myfyrwyr sy'n cronni llai nag 80 credyd yn y flwyddyn astudio olaf fel arfer yn cael asesiad atodol yn y modiwlau a fethwyd.
S9
Os cynigir cyfle i fyfyrwyr ailsefyll modiwlau a fethwyd, fel arfer, bydd rhaid iddynt wneud hynny yn ystod y cyfnod asesu nesaf a amserlennir ar gyfer y modiwlau dan sylw.
S10
Bydd myfyrwyr sy'n methu'r elfen dysgu annibynnol dan gyfarwyddyd neu'r elfen gyfwerth gyfatebol yn cael un cyfle i ailgyflwyno o fewn un mis calendr ar ôl cyhoeddi'r canlyniadau. Caiff y marc ei gapio ar 50%.
S11
Bydd myfyrwyr sy'n methu'r elfen dysgu annibynnol dan gyfarwyddyd neu'r elfen gyfwerth gyfatebol ar yr ail ymgais, bydd yn ofynnol iddynt dynnu'n ôl o'r Brifysgol. Caiff myfyrwyr o'r fath eu hystyried am ddyfarniad ymadael Astudiaethau Cydymaith Meddygol y Diploma Ôl-raddedig.
S12
Os nad yw myfyrwyr yn cyflwyno eu dysgu annibynnol dan gyfarwyddyd neu gydran gyfwerth gymeradwy erbyn y dyddiad cau (gweler llawlyfr y rhaglen), bydd yn ofynnol iddynt dynnu'n ôl o'r Brifysgol a dyfernir Astudiaethau Cydymaith Meddygol y Diploma Ôl-raddedig iddynt fel dyfarniad ymadael. Ni chânt gyfle i ailgyflwyno.
S13
Cydnabyddir y gall rhai ymgeiswyr fethu'r modiwlau dysgu annibynnol dan gyfarwyddyd a'r modiwlau a addysgir ar yr ymgais gyntaf. Fel arfer, gofynnir i'r fath fyfyrwyr dynnu'n ôl o'r Brifysgol.
S14
Ar ddiwedd pob modiwl Gwyddorau Dynol ac Iechyd, cyfrifir gradd myfyriwr trwy bennu pwysedd pob elfen asesu sy'n cyfrannu tuag at farc y modiwl, fel yr amlygir yn y cynllun asesu. Asesir perfformiad myfyrwyr ym modiwlau'r Ysgol Feddygaeth drwy farc pasio/methu.
S15
Er y gall myfyriwr fod yn gymwys am y dyfarniad, ar ôl llwyddo yn yr holl asesiadau, efallai y bydd achlysuron lle bydd yr arholwr wedi amlygu problem o ran elfen(nau) o gymhwysedd myfyriwr mewn maes ymarferol neu broffesiynol penodol nad yw mor ddifrifol fel y gallai effeithio ar y canlyniad academaidd ond y mae angen ystyriaeth bellach. Gall arholwyr amlygu problemau o'r fath drwy roi "cerdyn melyn" i'r myfyriwr yn ystod arholiad ymarferol neu drwy gyfeirio at y broblem mewn adroddiad ar yr arholiad.
Caiff yr achosion hyn eu cyfeirio at Fyrddau Arholi'r Gyfadran/Ysgol i'w hystyried fesul achos. Mae'n bosib na fydd Byrddau Arholi'r Gyfadran/Ysgol yn cymryd camau pellach neu gallant fynnu bod yr ymgeisydd yn ymgymryd â hyfforddiant pellach neu ychwanegol cyn gwneud argymhelliad ar ddyfarniad y radd. Mewn achosion o'r fath, lle mae angen hyfforddiant pellach neu ychwanegol, dyfernir penderfyniad o "Asesiad Atodol" i fyfyrwyr. Darperir hyfforddiant yn ystod y cyfnod asesu atodol neu cyn hynny i sicrhau y gellir ailystyried canlyniadau'r myfyriwr cyn graddio. Os nad yw myfyriwr yn mynychu neu’n cymryd rhan yn yr hyfforddiant, ni fydd yn cymhwyso am y dyfarniad.
Cymhwysedd ar gyfer Llwyddo, Teilyngdod neu Ragoriaeth
Dyfernir y dosbarth gradd yn unol â strwythur pwyntiau y ceir manylion amdano yn Dosbarth gradd MSc ar gyfer y Rhaglen Meddyg Cyswllt.
Dosbarth Gradd MSc ar gyfer y Rhaglen Meddyg Cyswllt
Côd y Modiwl a chredydau | Teilyngdod | Rhagoriaeth |
---|---|---|
CHHS- 10 credyd- Y Gyfraith a Moeseg | 1 | 2 |
CHHS- 10 credyd- Cymdeithaseg a Seicoleg | 1 | 2 |
CHHS- 20 credyd- Ymchwil, ymarfer a myfyrio ar sail tystiolaeth | 2 | 4 |
CHHS- 40 credyd- Traethawd hir | 4 | 4 |
SUMS- 40-credyd-PMXM01- Sgiliau Clinigol Meddyg Cyswllt | 4 | 8 |
SUMS- 40 credyd- PMXM02- Sylfeini Meddygaeth Glinigol ar gyfer Meddygon Cyswllt 1 | 4 | 8 |
SUMS- 40 credyd- PMXM03- Sylfeini Meddygaeth Glinigol ar gyfer Meddygon Cyswllt 1 | 4 | 8 |
SUMS- 40 credyd- PMXM04-Sgiliau Clinigol Meddygon Cyswllt 2 | 4 | 8 |
Ar gyfer Ysgol Feddygaeth Prifysgol Abertawe, rhoddir rhagoriaeth i'r 25% uchaf o ran y Prawf Cynnydd a'r OSCE. Rhoddir teilyngdod i'r 25% nesaf o fyfyrwyr (h.y. y 25-50% gorau) a bydd y gweddill yn derbyn marc llwyddo.
Ar gyfer Coleg y Gwyddorau Dynol ac Iechyd, rhoddir rhagoriaeth i fyfyrwyr sy'n ennill dros 70% yn yr asesiad, teilyngdod i'r rhai sy'n ennill 60-69% a marc llwyddo i'r rhai sy'n ennill 50-59%.
Caiff cyfanswm y marciau ar gyfer yr holl fyfyrwyr ei gyfrifo a bydd y marciau teilyngdod a rhagoriaeth yn cael eu dyfarnu yn ôl y tabl isod.
Llwyddo | 0-23 |
Teilyngdod | 24-39 |
Rhagoriaeth | 40-48 |