Rheoliadau Rhwyd Ddiogelwch: Rhaglenni Ôl-raddedig a Addysgir

Myfyrwyr sydd wedi’u cofrestru ar Raglenni sy’n dilyn Rheoliadau Hyblyg
(yn gymwys pro rata i fyfyrwyr amser llawn a rhan-amser)

Mae’r rheoliadau brys hyn yn adlewyrchu’r gwahaniaethau cynhenid sy’n rhan o astudiaethau ôl-raddedig a chawsant eu hysgrifennu’n benodol er mwyn cefnogi Myfyrwyr Ôl-raddedig a Addysgir yn ystod y cyfnod hwn o her fyd-eang. O ganlyniad, bwriedir na fydd unrhyw fyfyriwr yn derbyn canlyniad gradd sy’n waeth na’r un y byddai wedi’i dderbyn mewn amgylchiadau arferol, lle bynnag y bo modd.

Ystyrir bod y sefyllfa bresennol wedi effeithio ar astudiaethau myfyrwyr sy’n astudio modiwlau a gwblheir ar ôl 14 Mawrth 2020. Ni fydd hyn yn effeithio ar fodiwlau a gwblhawyd cyn y dyddiad hwn, oni bai eu bod wedi’u nodi’n benodol gan y Cyfadran/Ysgol.

Bydd yr ymagwedd Rhwyd Ddiogelwch yn berthnasol i fyfyrwyr sydd wedi’u cofrestru ar raglenni sy’n arwain at gofrestriad proffesiynol neu raglenni eraill a ddiffinnir yn achosion arbennig gan Gyfadrannau/Ysgolion. Fodd bynnag, oherwydd gofynion cyrff proffesiynol, statudol a rheoleiddiol, efallai y caiff yr ymagwedd Rhwyd Ddiogelwch ei gweithredu mewn ffyrdd amrywiol. Bydd Colegau/Ysgolion myfyrwyr yn rhoi gwybod iddynt sut bydd yr ymagwedd rhwyd ddiogelwch yn gweithio ar gyfer eu rhaglen benodol.

1.

Disgwylir i’r holl fyfyrwyr astudio am 180 o gredydau ar gyfer eu rhaglen a rhoi cynnig ar bob asesiad, yn unol â’r rheoliadau academaidd perthnasol.

2.

Rhaid i’r holl fyfyrwyr gronni o leiaf 901 o gredydau mewn modiwlau a addysgir a 60 o gredydau ar ffurf Dysgu Annibynnol dan Gyfarwyddyd fel yr amlinellir yn y rhannau perthnasol o Reoliadau Academaidd y Brifysgol i fod yn gymwys am ddyfarniad (i ddangos bod deilliannau dysgu’r rhaglen wedi’u cyflawni).

3.

Lle gall cyfyngiadau’r pandemig effeithio ar y dull asesu gwreiddiol, a lle bo’n angenrheidiol ac yn briodol, gall Cyfadrannau/Ysgolion newid dulliau asesu i alluogi eu myfyrwyr i gyfranogi yn eu hastudiaethau.

4.

Mae’n bosib y bydd angen addasu’r deilliannau dysgu a, lle bo angen, y dull asesu ar gyfer yr elfen 60 o gredydau ar ffurf Dysgu Annibynnol dan Gyfarwyddyd (traethawd estynedig neu brosiect) er mwyn adlewyrchu’r heriau sydd ynghlwm wrth astudio yn yr amgylchiadau presennol, gan warchod safonau’r rhaglen ar yr un pryd.

5.

Caiff myfyrwyr sy’n ymgymryd â phrosiectau ar sail gwaith labordy (neu brosiectau eraill y gall yr amgylchiadau effeithio arnynt) fel rhan o’u Dysgu Annibynnol dan Gyfarwyddyd wneud cais i ohirio eu hastudiaethau a dychwelyd i gwblhau yn ystod sesiwn academaidd 2020-21. Ni fydd y Brifysgol yn gofyn i fyfyrwyr dalu unrhyw ffioedd sy’n codi o ganlyniad, ond dylai myfyrwyr sylwi efallai y bydd rhaid iddynt dalu costau ychwanegol o ganlyniad i bethau megis llety, teithio a gohirio cyflogaeth.

6.

Bydd yr holl fyfyrwyr yn gymwys i gael eu hystyried am Amgylchiadau Esgusodol yn unol â’r polisi diwygiedig ar Amgylchiadau Esgusodol.

7.

Penderfynir ar gymhwysedd myfyriwr am Deilyngdod neu Ragoriaeth ar sail cyfartaledd cyffredinol y myfyriwr ar gyfer y cynllun gradd, yn unol â’r pwysiadau canlynol:

Credydau a GronnwydPwysiad Perthynol
Y 60 Credyd Gorau 3
Y 60 Credyd Gorau Nesaf 2
Y 60 Credyd sy’n Weddill 1

8.

Bydd myfyrwyr sy’n methu modiwlau’n cael eu cofrestru’n awtomatig ar gyfer Asesiad Atodol. Lle bo rheoliadau’r rhaglen yn caniatáu hynny, bydd y Brifysgol yn goddef methiant i lawr i 40%, mewn rhaglenni a addysgir nad ydynt yn rhai craidd ar gyfer hyd at 30 o gredydau, yn unol â’r rheoliadau academaidd cyfredol.

Os yw myfyrwyr sy’n gymwys am oddefiad ar yr ymgais gyntaf am ildio eu hawl i asesiad atodol yn eu modiwlau a fethwyd, gyda chefnogaeth eu Cyfadran/Ysgol, gallant wneud cais o fewn 10 niwrnod i fodiwlau gael eu cofnodi fel ‘methiannau a oddefir’ yn unol â’r rheoliadau academaidd safonol. Cyfeirir at fethiannau o’r fath fel ‘methiannau a oddefir’. Ni fydd credyd yn cael ei ddyfarnu ar gyfer methiannau a oddefir.

9.

Caiff myfyrwyr ohirio eu hastudiaethau yn unol â’r rheoliadau academaidd cyfredol a bydd y Brifysgol yn ystyried ceisiadau myfyrwyr â chydymdeimlad. At ddiben pennu dosbarth gradd, ni fydd y ‘rhwyd ddiogelwch’ yn berthnasol i fyfyrwyr nad ydynt yn astudio modiwlau yn ystod y cyfnod diffiniedig pan fydd y rheoliadau hyn yn weithredol. Lle bo ceisiadau wedi’u cymeradwyo, gellir estyn cyfnodau ymgeisyddiaeth yn briodol, o fewn cyfyngiadau Byrddau’r Brifysgol.

Amgylchiadau Esgusodol ac Asesiadau Atodol

10.

Caiff myfyrwyr gyfle i ymgymryd ag asesiadau atodol (wedi’u capio) i wneud iawn am gredydau a fethwyd mewn modiwlau a addysgir, yn unol â’r rheoliadau academaidd cyfredol.

11.

Bydd ceisiadau am estyniad a/neu i ohirio gan fyfyrwyr ag Amgylchiadau Esgusodol a gymeradwywyd, er mwyn cefnogi eu hastudiaethau, yn cael eu hystyried â chydymdeimlad, yn unol â’r rheoliadau academaidd safonol.

12.

Os oes gan fyfyrwyr nifer sylweddol o asesiadau atodol a ohiriwyd, gan ymgynghori â’u Cyfadran/Ysgol gallant gael eu hystyried am estyniad i’r dyddiad cau i gyflwyno Dysgu Annibynnol dan Gyfarwyddwyd. Ni fydd y Brifysgol yn gofyn i’r myfyrwyr dalu ffioedd ychwanegol sy’n codi.

13.

Bydd gan fyfyrwyr sy’n methu’r elfen Dysgu Annibynnol dan Gyfarwyddyd hawl awtomatig i un ymgais arall i ailgyflwyno (marc wedi’i gapio) yn unol â’r rheoliadau academaidd a'r terfynau amser cyfredol. Ni fydd y Brifysgol yn gofyn i’r myfyriwr dalu ffioedd ychwanegol sy’n codi.

14.

Gellir caniatáu i fyfyrwyr ag amgylchiadau esgusodol a gymeradwywyd ohirio asesiad ar gyfer modiwlau a addysgir tan flwyddyn academaidd 2020-21 a chael eu hasesu fel Ymgeiswyr Allanol.

15.

Os yw ymgeisydd yn ymgymryd ag asesiad atodol oherwydd Amgylchiadau Esgusodol o ganlyniad i’r pandemig presennol, bydd yr egwyddor marc gorau’n berthnasol p’un a yw’n ymgymryd â’r asesiad yn y sesiwn academaidd bresennol neu’r un nesaf.

16.

Mae’n ofynnol i fyfyrwyr sy’n methu modiwlau craidd ymgymryd ag asesiad atodol, yn unol â’r rheoliadau academaidd safonol.

17.

Bydd yr holl asesiadau atodol yn cael eu capio ar 50%, yn unol â’r rheoliadau academaidd safonol.

18.

Dylai asesiadau atodol ac wedi’u gohirio o fewn y sesiwn academaidd adlewyrchu fformat a phwysiad yr asesiad gwreiddiol, lle bynnag y bo modd.

19.

Ni fydd myfyrwyr sy’n pasio modiwlau yn gymwys ar gyfer asesiad atodol er mwyn gwella eu marc am y modiwl.

   1. Oni bai fod rheoliadau rhaglenni penodol yn pennu gofyniad credydau uwch.

RHEOLIADAU PENODOL AR GYFER RHAGLENNI MEISTR HYBLYG 180 CREDYD

Dysgu Annibynnol dan Gyfarwyddyd

Diffinnir dysgu annibynnol dan gyfarwyddyd fel darn o waith unigol neu nifer o ddarnau o astudiaeth a gyfarwyddwyd gan yr unigolyn (a wnaed dan arweiniad goruchwyliwr), yn rhoi cyfanswm o 60 credyd, sy’n darparu cyfle i wneud ymchwil estynedig mewn un neu ragor o agweddau o’r maes llafur sy’n berthnasol i’r rhaglen. Gall dysgu annibynnol dan gyfarwyddyd gymryd amrywiaeth o ffurfiau, wedi eu dewis i fod y rhai mwyaf addas i’r rhaglen, a/neu i wella rhagolygon cyflogadwyedd y myfyrwyr. Gall hyn gael ei ddiffinio pan gymeradwyir y rhaglen a bydd yn gyfwerth â’r ymdrech sydd ei angen i baratoi traethawd hir hyd at 20,000 o eiriau.