Dylid darllen yr adran hon ar y cyd â'r Canllawiau ar Dderbyn Myfyrwyr Ymchwil.
3.1
Gall ymgeisydd astudio ar gyfer gradd Doethuriaeth Broffesiynol drwy un o’r dulliau canlynol:
A Bod yn fyfyriwr amser llawn, trwy wneud ymchwil yn y Brifysgol;
B Bod yn fyfyriwr amser llawn, trwy gyflawni ymchwil mewn lleoliad cyflogaeth allanol;
C Bod yn fyfyriwr rhan-amser, trwy wneud ymchwil naill ai yn y Brifysgol neu’n allanol;
Ch Bod yn fyfyriwr amser llawn, trwy wneud ymchwil ar raglen ymchwil gymeradwy a gynigir ar y cyd gan y Brifysgol a Phrifysgol arall.
3.2
Ni cheir dyfarnu gradd Doethuriaeth Broffesiynol fel gradd er anrhydedd.
3.3
Rhaid i ymgeisydd ddilyn rhaglen astudio dan gyfarwyddyd, gan gynnwys cyfnodau o ymarfer proffesiynol/diwydiannol cymeradwy a hyfforddiant (yr elfen hyfforddiant) a gymeradwywyd gan gyfarwyddwr y rhaglen briodol, ynghyd â rhaglen ymchwil (yr elfen ymchwil) ar gyfer y cyfnod a ragnodwyd.
3.4
Bydd yr elfen hyfforddiant yn cynnwys nifer o fodiwlau, hyd at uchafswm o 180 o gredydau, a gymeradwywyd gan y Bwrdd Academaidd perthnasol. Efallai hefyd bydd gofyn i ymgeisydd gwblhau cyfnod neu gyfnodau o hyfforddiant proffesiynol neu brofiad ymarferol.
3.5
Bydd yr elfen ymchwil yn cynnwys llunio traethawd ymchwil.