Rheoliadau Academaidd ar gyfer Myfyrwyr Cysylltiol a Addysgir.
1. Cyflwyniad
1.1
Mae'r rheoliadau hyn yn berthnasol i fyfyrwyr sy'n astudio modiwlau ar raglenni israddedig neu ôl-raddedig a addysgir ond nad ydynt wedi'u cofrestru fel myfyrwyr ar raglen sy'n arwain at ddyfarniad. Ni fydd myfyrwyr cysylltiol yn gymwys i gael eu hystyried am unrhyw ddyfarniad gan Brifysgol Abertawe, ond byddant yn derbyn credydau am unrhyw fodiwlau a gwblhawyd yn llwyddiannus ganddynt.
1.2
Diffinnir myfyriwr cysylltiol fel unrhyw fyfyriwr nad yw'n dilyn rhaglen astudio a enwyd, ond sy'n astudio modiwl unigol neu nifer cyfyngedig o fodiwlau, naill ai fel cyfle datblygu gyrfa, rhagflas cyn astudio pellach, neu er diddordeb.
1.3
Mae'n rhaid i'r holl fyfyrwyr cysylltiol gofrestru gyda'r Brifysgol a thalu'r ffioedd priodol a bennwyd gan y Brifysgol.
1.4
Caiff ymgeiswyr amser llawn sydd wedi'u cofrestru ar raglenni gradd israddedig cychwynnol neu ôl-raddedig a addysgir, gofrestru fel myfyrwyr cysylltiol ar yr un pryd gyda chaniatâd penodol y Gyfadran/Ysgol perthnasol. Dylai ymgeiswyr o'r fath sylwi na chaniateir defnyddio modiwlau a ddilynir fel myfyriwr cyswllt yn lle modiwlau ar y raglen radd.
2. Derbyniadau ac Amodau Mynediad
2.1
Ceir dau fath o Fyfyriwr Cysylltiol:
- Myfyriwr Cysylltiol Israddedig (Lefelau 3, 4, 5, 6).
- Myfyriwr Cysylltiol Ôl-raddedig (Lefel 7).
2.2
Rhaid i'r holl ddarpar ymgeiswyr wneud cais i'r Swyddfa Derbyn yn y lle cyntaf. Yn achos myfyrwyr sy'n dilyn modiwlau datblygiad proffesiynol parhaus, gellir dirprwyo'r broses dderbyn i'r Gyfadran/Ysgol.
2.3
Fel arfer, bydd angen i ymgeiswyr ddangos eu bod yn bodloni gofynion derbyn a matriciwleiddio gofynnol y rhaglen israddedig neu ôl-raddedig y mae'r modiwlau yr hoffent eu dilyn yn gysylltiedig â nhw. Amlinellir y gofynion hyn yn y Rheoliadau Cyffredinol. Rhaid i ymgeiswyr allu dangos i'r Gyfadran/Ysgol berthnasol, lefel briodol o wybodaeth a/neu brofiad cyn cael caniatâd i ddilyn y modiwl(au) dan sylw.
2.4
Fel myfyrwyr cysylltiol cofrestredig, rhaid i ymgeiswyr gydymffurfio â rheoliadau academaidd a chyffredinol y Brifysgol.
2.5
Cyn cofrestru, rhaid i Gyfadrannau/Ysgolion sicrhau bod myfyriwr cysylltiol yn gallu cyfathrebu'n effeithiol yn Saesneg, ar lafar ac yn ysgrifenedig, a'i fod yn gallu cyflawni'r sgôr IELTS (neu brawf cyfatebol) ar gyfer y rhaglen astudio.
3. Cofrestru yn y Brifysgol
3.1
Mae'r Brifysgol yn disgwyl i bob ymgeisydd gofrestru er mwyn cael ei gydnabod fel myfyriwr y Brifysgol. Mae'n rhaid i bob ymgeisydd gofrestru yn unol â'r cyfarwyddiadau cofrestru ar gyfer y rhaglen astudio dan sylw ac o fewn y cyfnod cofrestru penodedig a amlinellir yn y Rheoliadau Academaidd a'r Gweithdrefnau ar gyfer Dyfarniadau Israddedig - Rheoliadau Cyffredinol (Rheoliad 4) neu yn y Rheoliadau Cyffredinol ar gyfer Ôl-raddedigion a Addysgir (Rheoliad 4).
4. Dewis Modiwlau
4.1
Ar ôl bodloni'r meini prawf derbyn a chofrestru fel myfyriwr y Brifysgol, bydd rhaid i ymgeiswyr ddewis y modiwl(au). Ni chaiff myfyriwr gofrestru ar fodiwl fel myfyriwr cysylltiol ond gyda chaniatâd penodol Cyfadran/Ysgol. Gall Cyfadran/Ysgol atal ymgeiswyr rhag cofrestru fel myfyrwyr cysylltiol ar fodiwlau penodol.
4.2
Bydd cynigion i fyfyrwyr yn nodi na chaiff cynnig o le ar fodiwl ei gadarnhau nes y cadarnheir bod lleoedd ar gael ar y modiwl penodol. Gellir rhoi blaenoriaeth i fyfyrwyr sydd wedi'u cofrestru ar raglen sy'n arwain at ddyfarniad.
5. Llawlyfr
5.1
Bydd y Gyfadran/Ysgol priodol yn darparu manylion cynnwys, deilliannau dysgu a gofynion asesu modiwlau i fyfyrwyr cysylltiol.
6. Trosglwyddo rhwng Modiwlau
6.1
Caniateir i fyfyrwyr cysylltiol drosglwyddo o un modiwl i un arall ar yr amod y caniateir y trosglwyddiad yn unol â'r rheoliadau a'i fod wedi'i gymeradwyo gan y Gyfadran(nau)/Ysgol(ion) dan sylw o fewn y raddfa amser briodol.
6.2
Mewn achosion eithriadol yn unig ac yn amodol ar gymeradwyaeth Cadeirydd Pwyllgor Dysgu ac Addysgu'r Gyfadran/Ysgol neu Swyddog a enwebwyd yn y Gyfadran/Ysgol, y cymeradwyir trosglwyddo y tu allan i'r graddfeydd amser.
6.3
Disgwylir i fyfyrwyr cysylltiol ddilyn y gweithdrefnau ar gyfer trosglwyddo sydd mewn grym ar y pryd ac a fabwysiadwyd gan Senedd y Brifysgol.
7. Ymgysylltu Myfyrwyr
7.1
Mae'r Brifysgol yn disgwyl i fyfyrwyr fodloni'r gofynion presenoldeb a amlinellir yn Datganiad ar Ymgysylltu.
8. Monitro Cynnydd a Cyfranogiad
8.1
Caiff cyfranogiad ymgeiswyr ei fonitro yn unol â Polisi Monitro Cyfranogiad y Brifysgol.
8.2
Caiff cynnydd ei fonitro drwy drefniadau Tiwtora Personol, trafodaeth ac adborth rheolaidd gan fentoriaid a thrwy Byrddau Dilyniant a Dyfarnu.
9. Darpariaeth Arbennig
9.1
Cyfrifoldeb yr ymgeiswyr fydd hysbysu'r Gyfadran/Ysgol berthnasol/Cyfadrannau/Ysgolion perthnasol am unrhyw anabledd neu unrhyw amgylchiadau arbennig a allai olygu bod angen darpariaeth arbennig ar gyfer asesu. Bydd angen i ymgeiswyr ddarparu tystiolaeth berthnasol lle y bo’n briodol. Mae'n rhaid cyflwyno unrhyw gais i'r Gyfadran/Ysgol cyn gynted ag sy'n ymarferol, ac yn bendant cyn yr arholiad neu'r asesiad dan sylw.
9.2
Mae rhagor o fanylion a chanllawiau i drefniadau arbennig ar gyfer arholiadau ar gael yn y ddogfen Canllawiau ar gyfer Cyfadrannau/Ysgolion wrth ar gyfer cefnogi Myfyrwyr ag Amgylchiadau Esgusodol a/neu ofynion cefnogaeth addysgol arbennig.
10. Rheoliadau Asesu
10.1
Mae'n rhaid i bob ymgeisydd gydymffurfio â'r gofynion ynghylch ymgysylltu ac asesu, gan gynnwys cyflwyno gwaith cwrs erbyn y dyddiadau cau a bennir gan arweinydd y modiwl, sefyll arholiadau ar yr amser a'r dyddiad a bennir gan y Brifysgol, ac unrhyw ofynion eraill a amlinellir yn llawlyfr y Gyfadran/Ysgol.
10.2
Y marc pasio ar gyfer modiwlau fydd 40% fel arfer i fyfyrwyr israddedig, a 50% i fyfyrwyr ôl-raddedig. Dyfernir credydau wrth i fyfyrwyr gwblhau modiwl yn llwyddiannus.
10.3
Os bydd myfyriwr cysylltiol yn methu modiwl, fel arfer caiff un cyfle arall yn unig, yn yr un flwyddyn academaidd fel arfer, i basio'r modiwl a fethwyd ar y cyfle priodol nesaf. Yn unol ag arfer y Brifysgol, bydd marciau unrhyw ymgais i basio modiwl a fethwyd yn destun y rheolau capio, heblaw am lefelau 3 a 4. Mewn achosion lle mae amodau ariannu'n atal myfyrwyr rhag ailsefyll modiwl, bydd y Gyfadran/Ysgol dan sylw yn egluro hyn i'r myfyrwyr.
10.4
Bydd rheoliadau, rheolau a gweithdrefnau canlynol y Brifysgol a'r Gyfadran/Ysgol ynghylch asesu yn berthnasol i fyfyrwyr cysylltiol:
- Cyflwyno gwaith yn hwyr;
- Camymddygiad academaidd;
- Cywirdeb marciau a gyhoeddwyd;
- Darpariaeth arbennig ar gyfer asesu;
- Rheoliadau arholiadau, gan gynnwys absenoldeb ac ymddygiad.
10.5
Caiff canlyniadau myfyrwyr cysylltiol eu cadarnhau a'u gwirio gan Fwrdd Arholiadau'r Gyfadran/Ysgol a Bwrdd Dilyniant a Dyfarnu'r Brifysgol.
11. Terfynau Amser
11.1
Disgwylir i fyfyrwyr cysylltiol gwblhau'r modiwlau maent wedi'u cofrestru arnynt yn yr un sesiwn.
12. Gohirio Astudiaethau/Tynnu'n Ôl
12.1
Ni fydd y rheoliadau ynghylch gohirio astudiaethau'n berthnasol i fyfyrwyr cysylltiol fel arfer. Fodd bynnag, disgwylir i fyfyrwyr cysylltiol gydymffurfio â gweithdrefnau'r Brifysgol ynghylch tynnu'n ôl.
13. Trosglwyddo i Raglen Astudio
13.1
Caniateir i fyfyrwyr barhau fel myfyrwyr cysylltiol cofrestredig nes iddynt gyflawni'r cymhwyster ymadael lleiaf (fel y'i nodir isod):
- Tystysgrif Addysg Uwch - 120 credyd ar lefel israddedig;
- Tystysgrif Addysg Uwch Ôl-raddedig - 60 credyd ar lefel ôl-raddedig a addysgir.
Wedi hynny, bydd y dewisiadau canlynol ar gael i fyfyrwyr:
- Ar yr amod eu bod yn bodloni gofynion y rhaglen, ac yn amodol ar amodau cyllido, caiff myfyrwyr drosglwyddo i raglen astudio a gadael â dyfarniad, e.e. tystysgrif ôl-raddedig;
- Ar yr amod eu bod yn bodloni gofynion y rhaglen, ac yn amodol ar amodau cyllido, caiff myfyrwyr drosglwyddo i raglen astudio sy'n arwain at ddyfarniad, e.e. gradd israddedig neu ôl-raddedig;
- Parhau fel myfyriwr cysylltiol. Ni fydd myfyrwyr sy'n dewis parhau fel myfyrwyr cysylltiol yn gymwys am unrhyw ddyfarniad pellach.
13.2
Os yw myfyrwyr yn penderfynu trosglwyddo i raglen astudio gydnabyddedig sy'n arwain at ddyfarniad, bydd rhaid iddynt wneud cais i'r Gyfadran/Ysgol priodol yn unol â rheoliadau'r Brifysgol ynghylch trosglwyddo rhwng rhaglenni.
13.3
Yn achos myfyrwyr rhyngwladol a noddir gan y Brifysgol, mae trosglwyddo rhwng rhaglenni'n amodol ar feddu ar deitheb myfyriwr ddilys Llwybr Myfyrwyr (Haen 4 gynt). Cyn y caiff y myfyriwr drosglwyddo i raglen arall, asesir a yw'r broses drosglwyddo'n bodloni deddfwriaeth Llwybr Myfyrwyr (Haen 4 gynt) gyfredol cyn y caiff y cais ei gymeradwyo. Bydd yr asesiad yn cyfeirio at lefel y rhaglen newydd, cyfnod caniatâd i aros presennol y myfyriwr, y terfynau amser cyfredol sy'n llywodraethu astudio Llwybr Myfyrwyr (Haen 4 gynt); asesir a yw'r rhaglen newydd yn bodloni 'dyheadau go iawn' y myfyriwr o ran ei yrfa ac ystyrir unrhyw ofynion eraill a bennir gan Swyddfa Teithebau a Mewnfudo'r DU). Lle nad oes modd cwblhau'r rhaglen newydd o fewn y cyfnod caniatâd i aros sy'n weddill o dan Llwybr Myfyrwyr (Haen 4 gynt), bydd angen i'r myfyriwr adael y DU i gyflwyno cais pellach am ganiatâd i aros er mwyn cwblhau'r rhaglen. Os oes angen cymeradwyaeth gan y Cynllun Cymeradwyo Technoleg Academaidd (ATAS) ar raglen, bydd rhaid i fyfyrwyr rhyngwladol gael cymeradwyaeth a darparu copi o'r dystysgrif ATAS i'r Brifysgol cyn y gellir cymeradwyo cais i newid rhaglen.
14. Byrddau Arholi a Phenodi Arholwyr
14.1
Bydd yr holl arholiadau’n cael eu cynnal dan awdurdod Rheoliadau a Gweithdrefnau’r Brifysgol ar gyfer Cynnal Arholiadau. Cynhelir Byrddau Arholi yn unol â'r rheoliadau asesu priodol.
14.2
Enwebir a phenodir Arholwyr Allanol yn unol â'r gweithdrefnau a nodir yng Nghôd Ymarfer Prifysgol Abertawe ar gyfer Arholwyr Allanol.
15. Apeliadau Academaidd
15.1
Ni chaniateir i fyfyrwyr cysylltiol apelio yn erbyn marc modiwl.
15.2
Os yw myfyrwyr cysylltiol am gwestiynu cywirdeb marc a ddyfernir, caniateir iddynt wneud hynny dan weithdrefnau Cywirdeb Marciau a Gyhoeddwyd y Brifysgol.
16. Camymddygiad Academaidd
16.1
Caiff honiadau o gamymddygiad academaidd eu hystyried yn unol â gweithdrefnau Camymddygiad Academaidd y Brifysgol.
17. Addasrwydd i Ymarfer
17.1
Caiff honiadau ynghylch addasrwydd i ymarfer eu hystyried yn unol â Rheoliadau Addasrwydd i Ymarfer y Brifysgol.
18. Cwblhau Astudio
18.1
Hysbysir myfyrwyr cysylltiol bob blwyddyn am ganlyniadau eu modiwl(au) drwy gofnod yr unigolyn ar y fewnrwyd, a chânt eu hysbysu am fanylion y weithdrefn ar gyfer trosglwyddo i raglen astudio gydnabyddedig sy'n arwain at ddyfarniad. Caiff myfyrwyr wneud cais i'r Brifysgol am drawsgrifiad swyddogol y Brifysgol os oes angen un.
18.2
Pan fydd myfyriwr cysylltiol wedi cwblhau modiwl y gellir ei ystyried yn fodiwl hyfforddiant proffesiynol yn llwyddiannus, gall Cyfadran/Ysgol ddarparu "Tystysgrif Cwblhau" i'r myfyriwr.
19. Dyfarniadau Aegrotat/Ar Ôl Marwolaeth
19.1
Ni fydd y rheoliadau ynghylch dyfarniadau ar ôl marwolaeth ac Aegrotat yn berthnasol i Fyfyrwyr Cysylltiol.