Rheoliadau Asesu Penodol ar Gyfer y Modiwl Presgripsiynu Anfeddygol (Y Cyngor Fferyllol Cyffredinol) – SHGM22

Mae’r rheoliadau hyn yn berthnasol i fyfyrwyr sydd wedi cofrestru ar y modiwl unigol, a myfyrwyr sy’n astudio rhaglen lle mae'r modiwl yn bodoli fel rhan o ddyfarniad.

S1

Y marc llwyddo ar gyfer holl rannau’r asesiad fydd 50%, ac eithrio’r arholiad rhifedd y mae angen cael marciau llawn er mwyn llwyddo.

S2

Bydd methu sefyll arholiad/gwneud yn iawn am asesiad a fethwyd neu gyflwyno gwaith erbyn y dyddiad a nodir gan y Brifysgol neu ar ei rhan yn arwain at ddyfarnu 0% ar gyfer y modiwl.

S3

Bydd yn ofynnol i ymgeisydd sy’n absennol o’r modiwl ail-wneud y modiwl ar y cyfle cyntaf posibl, o fewn cyfnod hwyaf posibl ei ymgeisiaeth.

S4

Mewn amgylchiadau eithriadol ac yn unol â Pholisi ar Amgylchiadau Esgusodol sy'n Effeithio ar Asesu'r Brifysgol, gall ymgeiswyr sy'n methu gwneud yn iawn am ei fodiwl yn ystod y cyfnod ailsefyll oherwydd amgylchiadau esgusodol neu sy'n methu'r modiwl ar y cynnig cyntaf yn ystod y cyfnod ailsefyll (h.y. gohiriad) gyflwyno tystiolaeth o amgylchiadau o'r fath i'r Coleg i'w hystyried. Yn ôl disgresiwn Bwrdd Dilyniant a Dyfarnu'r Brifysgol, gellir caniatáu ymgeiswyr o'r fath un cyfle arall i ailsefyll. Fel arfer cynhelir yr ailasesiad(au) yn ystod y cyfle asesu nesaf ar gyfer y modiwl ar y cyfle cyntaf posibl, ond o fewn cyfnod hwyaf posibl ei ymgeisiaeth. 

S5

Bydd ymgeiswyr sy’n methu cyflawni’r marc llwyddo mewn unrhyw ran o asesiad yn cael un cyfle i wneud yn iawn am y methiant, ac mae’n rhaid iddynt ailsefyll pob rhan o asesiad fel y nodir gan y Coleg oni bai fod ymarfer peryglus (gweler diffiniad isod) wedi’i nodi.

S6

Dylid capio marciau pob asesiad sydd wedi’i ailsefyll ar 50% neu’r marc llwyddo os yw’n uwch, ni waeth y marc go iawn, ac eithrio’r arholiad rhifedd y mae angen cael marciau llawn er mwyn llwyddo ynddo – felly bydd y marc go iawn yn gymwys.

S7

Bydd ymgeisydd yn cael ei dynnu’n ôl o’r Brifysgol os yw’n methu rhan o asesiad ar yr ail ymgais.

S8

Ni chaiff ymgeiswyr ailsefyll unrhyw ran o asesiad y mae marc llwyddo eisoes wedi’i ennill ar ei gyfer.

S9

Bydd ymgeiswyr y mynnir eu bod yn tynnu’n ôl  o’r Brifysgol yn cael cyfle i apelio yn erbyn y penderfyniad hwn trwy weithdrefnau ar Gywirdeb y Marciau a Gyhoeddwyd neu'r gweithdrefnau ar gyfer Apeliadau Academaidd. Ni fydd hawl apelio gan fyfyriwr sydd wedi’i dynnu’n ôl oherwydd ymarfer peryglus.

Gofynion Penodol Cyngor Fferyllol Cyffredinol (GPhC) Pan Nodwyd Ymarfer Peryglus

  1. Bernir na fydd myfyrwyr sy’n methu nodi problem ddifrifol neu roi ateb a fyddai’n achosi niwed i’r claf, fel y pennir gan y Brifysgol neu ar ei rhan yn ystod unrhyw ran o asesiad, yn ddiogel i ymarfer*, a byddant yn cael marc o 0% ac yn methu’r modiwl.
  2. Bydd myfyrwyr yn colli’r hawl i wneud yn iawn am fethu, pan nodwyd ymarfer peryglus. Bydd y myfyriwr yn cael ei dynnu’n ôl  o’r modiwl.
  3. Bydd gan fyfyriwr sy’n ymgymryd â modiwl SHGM22 fel modiwl dewisol mewn rhaglen astudio un cyfle i ddewis ac ymgymryd â modiwl dewisol arall os yw’n cael ei dynnu’n ôl o SHGM22 oherwydd ymarfer peryglus. Un cynnig yn unig fydd y myfyrwyr hyn yn ei gael ar gyfer y modiwl arall, ac ni fyddant yn cael cyfle i wneud yn iawn am unrhyw asesiadau a fethwyd.
  4. Gall myfyrwyr sydd wedi methu SHGM22 oherwydd ymarfer peryglus wneud cais unwaith eto i gael eu derbyn i'r modiwl. Os yw eu cais yn llwyddiannus ac maen nhw’n ailgofrestru ar y modiwl, bydd yn ofynnol i fyfyrwyr fynd i bob sesiwn addysgu ac ymarfer, a bydd yn rhaid iddynt lwyddo ym mhob asesiad. 

* Yr asesydd, y cymedrolwr a’r asesydd allanol fydd yn gwneud y dyfarniad hwn gan ddefnyddio eu barn academaidd clinigol.

Dyma enghreifftiau o ymarfer peryglus o bresgripsiynu anfeddygol (ond nid ydynt yn gyfyngedig iddynt):

  • Rhagnodi cyffur nad yw’n cael ei argymell ar gyfer y cyflwr hwnnw, pan fo digon o opsiynau eraill.
  • Rhagnodi cyffur a awgrymir na ddylid ei ddefnyddio ar gyfer y cyflwr hwnnw.
  • Rhagnodi cyffur nad oes ei angen ar y claf (e.e. gwrthfiotig heb dystiolaeth o haint yn y darlun clinigol).
  • Rhagnodi'r cyffur anghywir (e.e. ysgrifennu’r dogn anghywir, ffurf, llwybr neu swm ar y presgripsiwn).
  • Methu bodloni’r gofynion sylfaenol o ran ysgrifennu presgripsiwn, a all arwain at ddosbarthu’r cyffuriau anghywir a niwed o ganlyniad i hyn.
  • Perfformio’n wael yn ystod ymgynghoriad clinigol (senario cleifion estynedig – asesiad crynodol) e.e. nodi hanes mewn ffordd wael, cynnal archwiliad clinigol gwael a allai arwain at roi diagnosis anghywir a thriniaethau dilynol.