1.    Cyfrifoldeb

1.1

Rhaid i Gyfadrannau/Ysgolion ddarparu cyngor a chyfarwyddyd i fyfyrwyr gyda'r nod o hwyluso cynhyrchu darnau dysgu annibynnol dan gyfarwyddyd o'r safon angenrheidiol ar gyfer gradd Meistr a Addysgir. Gwaith yr ymgeisydd ei hun fydd e (y myfyriwr sy'n gyfrifol am y cynnwys), ond fe'i cyflawnir gyda chyngor a chyfarwyddyd y goruchwyliwr.

1.2

Dylai goruchwylwyr fod yn hynod ofalus wrth roi sylwadau i fyfyrwyr am ganlyniad terfynol y radd sy'n seiliedig ar y dysgu annibynnol dan gyfarwyddyd. Hynny yw, ni ddylai goruchwylwyr geisio rhagweld y bydd y myfyriwr yn pasio gyda theilyngdod neu ragoriaeth.

1.3

Rhaid i fyfyrwyr sydd wedi cwblhau'r elfen a addysgir o'u rhaglen ac sydd, am resymau personol, yn dymuno cwblhau'r elfen dysgu annibynnol dan gyfarwyddyd i ffwrdd o Abertawe gyflwyno cais am gymeradwyaeth i Ddeon Gweithredol y Gyfadran/Ysgol neu ei ddirprwy a'r Gwasanaethau Cydymffurfiaeth Myfyrwyr (yn achos myfyrwyr â nawdd fisa gan y Brifysgol). Dylai myfyrwyr â nawdd fisa sylwi y byddai eu fisa myfyriwr yn cael ei chwtogi pe bai eu cais yn cael ei gymeradwyo, gan na fyddent yn dychwelyd i'r DU. Dylid sylwi na fyddai myfyrwyr yn gymwys i gyflwyno cais am fisa gwaith ar ôl gorffen astudio y Llwybr i Raddedigion pe bai eu fisa'n cael ei chwtogi. Rhaid i fyfyrwyr ymwneud â goruchwyliaeth pan fyddant i ffwrdd o Abertawe. Gall unrhyw fyfyriwr sy’n absennol heb ganiatâd gael eu tynnu yn ôl o’r Brifysgol yn unol â’r Polisi Monitro Presenoldeb ar gyfer Myfyrwyr a Addysgir.

2.    Dewis Pwnc

2.1

Dylai Cyfadrannau/Ysgolion, naill ai ar y cyd neu trwy unigolyn dynodedig (Cyfarwyddwr y Rhaglen), sicrhau bod y pynciau'n addas ar gyfer rhaglen gradd ôl-raddedig Meistr a Addysgir yn ymwneud ag ymchwil. Disgwylir y byddai'r pwnc, fel arfer, yn cael ei gytuno cyn cwblhau Rhan Un yn achos myfyrwyr ar raglenni meistr safonol, ac fel mae'r Gyfadran/Ysgol yn penderfynu yn achos myfyrwyr ar raddau estynedig neu hyblyg. Dylid cofnodi'r pwnc ar y daflen Cofnod Goruchwylio (gweler 5.1).

2.2

Dylai'r cynnig fod, yn gyffredinol, ym maes arbenigedd y Goruchwyliwr neu'r Goruchwylwyr.

2.3

Dylid pennu'r pwnc ar ôl trafodaeth rhwng y myfyriwr a'r goruchwylwyr, a dylai gael ei gymeradwyo'n ganolog gan y Gyfadran/Ysgol. Lle bo modd, dylid dylunio pynciau fel bod modd i fwy nag un aelod o staff gynorthwyo'r myfyriwr. Dylid hysbysu'r myfyriwr am enwau staff sydd yn gymwys i'w gynorthwyo.

2.4

Caiff ymgeiswyr ar raglenni safonol ddechrau gwaith rhagarweiniol ar y dysgu annibynnol dan gyfarwyddyd yn ystod Rhan Un y rhaglen, ond ni chânt gyflwyno'r gwaith tan ar ôl iddynt lwyddo yn Rhan Un. Gwahoddir ymgeiswyr ar raglenni Estynedig neu Hyblyg i ddechrau gwaith paratoi ar eu dysgu annibynnol dan gyfarwyddyd yn unol â chyfarwyddiadau eu Cyfadran/Hysgol.

3.    Amserlen

3.1

Dylid cytuno'r cynnig yn unol â dyddiad cau'r Brifysgol ar gyfer cyflwyno gwaith, a dylai fod yn addas i gael ei gwblhau o fewn yr amser a bennir.

3.2

Dylai myfyrwyr sy'n wynebu problemau personol neu feddygol annisgwyl hysbysu eu Cyfadrannau/Hysgolion cyn gynted â phosibl. Caiff Cyfadrannau/Ysgolion ystyried gofyn am estyniad i'r amserlen.

4.    Amserlen Goruchwylio

4.1

Mae’r Brifysgol yn gofyn bod Cyfadrannau/Ysgolion rhwng y Goruchwyliwr a'r myfyriwr fodd bynnag, dan amgylchiadau arbennig gellir cynnal goruchwyliaeth ar lein e.e. ar Zoom neu Skype. Caiff presenoldeb y myfyrwyr yn y cyfarfodydd hyn ei fonitro. Gall Cyfadrannau/Ysgolion sydd eisiauam ddarparu goruchwyliaeth ychwanegol wneud hynny. Dylai Cyfadrannau/Ysgolion sy'n mynnu cynnal cyfarfodydd ychwanegol hysbysu'r myfyrwyr o'r ffaith hon yn llawlyfr y Gyfadran/Ysgol.

4.2

Fel arfer, disgwylir i'r un goruchwyliwr fod yn bresennol ym mhob un o'r cyfarfodydd hyn.

4.3

Rhaid i Gyfadrannau/Ysgolion sicrhau bod goruchwylio ar gael i fyfyrwyr yn achos absenoldeb staff, gan gynnwys gwyliau a salwch. Dylai Gyfadrannau/Ysgolion sicrhau bod myfyrwyr yn cael eu hysbysu am y trefniadau ar gyfer goruchwylio yn ystod yr haf.

4.4

Cedwir cofnod o fyfyrwyr sy'n methu mynychu cyfarfodydd a bydd y fath gofnod ar gael i Fyrddau Arholi / Pwyllgorau Apêl.

4.5

Dylai pob Cyfadran/Ysgol gynnal o leiaf tri chyfarfod ffurfiol ar gyfer myfyrwyr amser llawn, fel yr amlinellir islaw. Yn achos myfyrwyr rhan amser, gallai fod yn fwy addas cynnig cyfarfodydd ychwanegol i fonitro cynnydd eu hastudiaethau, ac argymhellir cynnal o leiaf pedwar cyfarfod. Cedwir cofnod, a gytunir rhwng y Goruchwyliwr a'r myfyriwr, gan gynnwys dyddiadau, y camau gweithredu a gytunwyd a’r dyddiadau cau a osodwyd (mae argymhelliad o dempled ar gael gan y Gofrestrfa Academaidd/Gwasanaethau Addysg). Y myfyriwr sy'n gyfrifol am gynnal y cofnod hwn, a bydd yn ei gyflwyno gyda'i waith. Dylai Goruchwylwyr gadw copi o'r cofnod hwn.

Disgwylir y bydd y myfyriwr yn cyfarfod â’r Goruchwyliwr wyneb yn wyneb. Fodd bynnag, cydnabyddir efallai na fydd hyn yn bosibl yn achos rhai rhaglenni e.e. rhaglenni dysgu o bell. Dan yr amgylchiadau hynny, bydd disgwyl i’r Gyfadran/Ysgol myfyriwr gadw cofnod ffurfiol o’r cyfarfod, gan gynnwys cyfeirio at fformat y cyfarfod e.e. e-bost, fideo-gynadledda, ffôn. Rhaid i fyfyrwyr sy'n gwneud ymchwil y tu allan i'r Brifysgol, neu sy'n gadael Abertawe am resymau personol, geisio awdurdod ar gyfer eu habsenoldeb oddi wrth y Deon Gweithredol neu ei enwebai.

4.5.1 Cyfarfod 1

Yn achos rhaglenni meistr safonol, cynhelir y cyfarfod cyntaf yn syth ar ôl cadarnhau cwblhau Rhan Un. Yn achos yr holl raglenni eraill, pennir dyddiad y cyfarfod cyntaf gan y Gyfadran/Ysgol, a chyhoeddir hynny yn Llawlyfr y Gyfadran/Ysgol.

Dylid defnyddio'r cyfarfod hwn i ffurfioli cynllun gwaith manwl, gosod dyddiadau cau am gwblhau gwaith, a thrafod y strwythur.

Argymhellir hefyd bod y cyfarfod hwn yn cael ei ddefnyddio i sicrhau bod y myfyriwr yn deall materion sy’n ymwneud â chamymddwyn academaidd (llên-ladrad) a'r dull cyfeirnodi angenrheidiol.

4.5.2 Cyfarfod 2

Yn achos rhaglenni meistr safonol amser llawn, dylid cynnal ail gyfarfod, fel arfer, tua diwedd Gorffennaf / dechrau Awst. Yn achos yr holl raglenni eraill, pennir dyddiad yr ail gyfarfod gan y Gyfadran/Ysgol, a chyhoeddir hynny yn Llawlyfr y Gyfadran/Ysgol.

Yn achos myfyrwyr rhan-amser ar raglenni meistr safonol, cynhelir y cyfarfod hwn erbyn canol Tachwedd fel arfer. Efallai y bydd Cyfadran/Ysgol'n dymuno cynnal cyfarfod ychwanegol ar gyfer myfyrwyr rhan-amser i fonitro eu cynnydd.

Caiff Gyfadrannau/Ysgolion a myfyrwyr ddefnyddio'r cyfarfod hwn i drafod cynnydd ac i drafod adrannau drafft o'r gwaith. Dylai goruchwylwyr sicrhau bod myfyrwyr yn gallu cwblhau'r gwaith yn unol â'u cynlluniau gwaith o hyd.

Yn achos myfyrwyr amser llawn, dylid nodi unrhyw broblemau a allai arwain at gais am estyniad (megis anawsterau personol/ salwch a fydd yn effeithio ar eu gallu i gwblhau ar amser) yn y cyfarfod hwn, a dylai Cyfadrannau/Ysgolion ystyried a ydynt am gyflwyno cais am estyniad i'r dyddiad cau.

Dylid nodi y caiff ceisiadau am estyniad ar gyfer myfyrwyr llawn amser eu hystyried yn weinyddol ar ran Bwrdd Achosion Myfyrwyr ar ddechrau mis Medi, ac felly dylai Cyfadrannau/Ysgolion ystyried a chymeradwyo ceisiadau erbyn diwedd Awst. Cylchredir dyddiadau cau penodol i Gyfadrannau/Ysgolion pob sesiwn. Dylid cyflwyno ceisiadau am estyniad gan Gyfadrannau/Ysgolion i Wasanaethau Addysg.

4.5.3 Cyfarfod 3 - (myfyrwyr rhan-amser yn unig)

Mae'n bosibl y bydd Gyfadrannau/Ysgolion'n dymuno cynnal cyfarfod ychwanegol yn achos myfyrwyr rhan-amser i fonitro cynnydd ac i sicrhau bod myfyrwyr yn gallu gorffen eu gwaith o fewn yr amserlen yn y cynllun gwaith o hyd. Caiff adrannau drafft eu trafod yn y cyfarfod hwn hefyd.

Dylid nodi unrhyw broblem a allai arwain at gais am estyniad (megis anawsterau personol/ salwch) yn y cyfarfod hwn, a dylai Cyfadrannau/Ysgolion ystyried a ydynt am gyflwyno cais am estyniad i'r dyddiad cau.

4.5.4 Cyfarfod Olaf

Dylid cynnal trydydd cyfarfod - fel arfer y cyfarfod olaf - tua un mis yn ddiweddarach (yn achos myfyrwyr amser llawn). Dylai hyn ganiatáu gwelliannau terfynol.

Yn achos myfyrwyr rhan-amser ar raglenni meistr safonol, dylid cynnal y cyfarfod hwn ym mis Medi, 15 mis ar ôl cwblhau Rhan Un (cyfarfod Mehefin y Bwrdd).

Bydd y cyfarfod yn cynnwys adroddiad ar gynnydd y myfyriwr a dylid trafod drafft o'r gwaith terfynol. Disgwylir y bydd myfyrwyr yn darparu drafft o'r gwaith terfynol mewn da bryd fel bod modd i Oruchwylwyr ei ddarllen a rhoi sylwadau arno yn y cyfarfod. Disgwylir i oruchwylwyr wneud sylwadau cyffredinol ar y drafft, ond ni ddisgwylir iddynt ei brawf-ddarllen neu gywiro gwallau teipio ac yn y blaen.

5.    Cyflwyno

5.1

Disgwylir y bydd myfyrwyr yn cyflwyno copi o gofnod ysgrifenedig eu cyfarfodydd goruchwylio ffurfiol i'r Gyfadran/Ysgol. Mae'r Brifysgol yn argymell yn gryf bod Cyfadrannau/Ysgolion, lle bynnag y bo modd, yn defnyddio'r templed sydd ar gael o'r Gwasanaethau Addysg.

5.2

Cedwir y cofnod hwn yn ffeil y myfyriwr o fewn y Gyfadran/Ysgol, a gellid ei ddarparu i'r Gwasanaethau Addysg yn achos unrhyw apêl.

6.    Ailgyflwyno

6.1

Yn achos myfyrwyr sy'n methu'r elfen ddysgu annibynnol dan gyfarwyddyd ar y cais cyntaf, ac sy'n cael caniatâd i ailgyflwyno eu gwaith, dylid darparu un sesiwn adborth ffurfiol. Dylai hyn gynnwys adborth ysgrifenedig ar y rhesymau am y methiant, a dylid ei gynnal yn syth ar ôl iDilyniant a Dyfarnu’r Brifysgol gadarnhau'r canlyniad.

6.2

Dylai Cyfadrannau/Ysgolion sicrhau bod yr adborth yn adlewyrchu holl sylwadau’r arholwyr (y rhai mewnol, a'r rhai allanol hefyd lle bo'n berthnasol) a bod y myfyriwr yn cael gwybod am y newidiadau angenrheidiol.

6.3

Yna bydd Cyfadrannau/Ysgolion neu Wasanaethau Cydymffurfiaeth Myfyrwyr yn gyfrifol am gofnodi ymgysylltiad myfyrwyr ar ffurf gwiriadau lles am weddill y cyfnod ailgyflwyno. Does dim hawl gan fyfyrwyr i gael goruchwyliaeth ychwanegol.

6.4

Bydd myfyrwyr sy'n ailgyflwyno eu gwaith yn parhau i fod yn ddarostyngedig i ofynion y Polisi Monitro Ymgysylltu ar gyfer Myfyrwyr Ymchwil a bydd disgwyl iddynt ymgysylltu'n llawn â'u hastudiaethau yn ystod y cyfnod ailgyflwyno. Bydd myfyrwyr yn cael eu monitro bob pedair wythnos hyd at y pwynt cyflwyno o fewn y terfyn amser a bennwyd ar gyfer myfyrwyr amser llawn a rhan-amser a byddant yn dal i fod yn destun y broses uwchgyfeirio am resymau nad ydynt yn ymgysylltu.

Trefn Arfaethedig

3 digwyddiad ar gyfer myfyrwyr amser llawn neu 6 i fyfyrwyr rhan-amser sydd â hawl i ailgyflwyno i'w hychwanegu at y system ar ôl cyhoeddi canlyniadau swyddogol y Brifysgol.
Bydd y tîm Monitro Ymgysylltu yn derbyn rhestr o fyfyrwyr o'r tîm Asesu a Dyfarnu ac yn sefydlu digwyddiadau yn unol â hynny. Er enghraifft:

Meistr a Addysgir llawn amser ar gwrs sy’n dechrau ym mis Medi

Medi Cyflwyno’n gyntaf.
Tachwedd Penderfyniad cynnydd y Bwrdd Dilyniant a Dyfarnu - Ailgyflwyno am 3 mis. Sefydlu digwyddiadau.
Rhagfyr  Gwiriad Ymgysylltu Systemau Rheoli Ymchwil i'w gwblhau gan y Goruchwyliwr yn dilyn y cyfarfod i drafod adborth ysgrifenedig y myfyriwr. 
Ionawr  Gwiriad Ymgysylltu Systemau Rheoli Ymchwil i'w gwblhau gan y Gwasanaethau Proffesiynol neu Wasanaethau Cydymffurfiaeth Myfyrwyr.
Chwefror Gwiriad Ymgysylltu Systemau Rheoli Ymchwil i'w gwblhau gan y Gwasanaethau Proffesiynol neu Wasanaethau Cydymffurfiaeth Myfyrwyr ar ôl ailgyflwyno.

Meistr a Addysgir rhan-amser ar gwrs mynediad ym mis Medi 

Medi Cyflwyno’n gyntaf.
Tachwedd Penderfyniad cynnydd y Bwrdd Dilyniant a Dyfarnu - Ailgyflwyno am 6 mis. Sefydlu digwyddiadau.
Rhagfyr  Gwiriad Ymgysylltu Systemau Rheoli Ymchwil i'w gwblhau gan y Goruchwyliwr yn dilyn y cyfarfod i drafod adborth ysgrifenedig y myfyriwr. 
Ionawr  Gwiriad Ymgysylltu Systemau Rheoli Ymchwil i'w gwblhau gan y Gwasanaethau Proffesiynol neu Wasanaethau Cydymffurfiaeth Myfyrwyr yn dilyn ebost dros dro. 
Chwefror Gwiriad Ymgysylltu Systemau Rheoli Ymchwil i'w gwblhau gan y Gwasanaethau Proffesiynol neu Wasanaethau Cydymffurfiaeth Myfyrwyr yn dilyn ebost dros dro. 
Mawrth Gwiriad Ymgysylltu Systemau Rheoli Ymchwil i'w gwblhau gan y Gwasanaethau Proffesiynol neu Wasanaethau Cydymffurfiaeth Myfyrwyr yn dilyn ebost dros dro. 
Ebril Gwiriad Ymgysylltu Systemau Rheoli Ymchwil i'w gwblhau gan y Gwasanaethau Proffesiynol neu Wasanaethau Cydymffurfiaeth Myfyrwyr yn dilyn ebost dros dro. 
Mai Gwiriad Ymgysylltu Systemau Rheoli Ymchwil i'w gwblhau gan y Gwasanaethau Proffesiynol neu Wasanaethau Cydymffurfiaeth Myfyrwyr ar ôl ailgyflwyno.