Marciau Dros Dro

Marciau dros dro yw marciau nad ydynt eto wedi’u cyflwyno i Fwrdd Dilyniant/Dyfarnu llawn y Brifysgol ac a allai gael eu haddasu o’r herwydd. Bydd marciau dros dro ar gael i fyfyrwyr israddedig ac ôl-raddedig trwy gyfrif Mewnrwyd y myfyriwr. Bydd marciau cydrannol yn ymddangos ar gyfrif Mewnrwyd myfyriwr cyn gynted ag y cânt eu cofnodi gan y Gyfadran/Ysgol. Bydd marc cyffredinol y modiwl yn ymddangos pan fydd yr holl farciau cydrannol ar gyfer y modiwl wedi’u cofnodi.

Ni fydd marciau a ddyfernir yn ystod y prif gyfnodau arholi, yn ymddangos yng nghyfrif mewnrwyd myfyriwr ar unwaith. Yn hytrach, byddant yn ymddangos naill ai ar ddiwedd y cyfnod arholi neu pan fyddant wedi’u cadarnhau gan Fwrdd Dilyniant a Dyfarnu'r Brifysgol (mae eithriadau’n berthnasol). Bydd unrhyw farciau dros dro a gofnodwyd eisoes yn cael eu rhewi yn ystod y cyfnod hwn. Pan gyhoeddir marciau ar ôl cyfarfod Bwrdd Dilyniant a Dyfarnu'r Brifysgol, rhoddir gwybod i fyfyrwyr am y dyddiad cyhoeddi.

Ni fydd unrhyw farciau dros dro yn cael eu dangos ar gyfer traethodau hir gradd meistr a addysgir; Bydd y marciau hynny ar gael unwaith y bydd Bwrdd Dilyniant a Dyfarnu'r Brifysgol wedi'u cadarnhau.

Marciau a Gadarnhawyd

Marciau a gadarnhawyd yw marciau a gadarnhawyd gan Fyrddau Dilyniant a Dyfarnu’r Brifysgol a’r Arholwr Allanol.

Y Gwasanaethau Academaidd sy’n gyfrifol am roi gwybod yn ffurfiol i fyfyrwyr israddedig ac ôl-raddedig a addysgir am farciau a gadarnhawyd ar ôl cyfarfod Bwrdd Dilyniant a Dyfarnu'r Brifysgol. Bydd marciau a chanlyniadau a gadarnhawyd ar gael i fyfyrwyr israddedig ac ôl-raddedig trwy gyfrif Mewnrwyd y myfyriwr. Gallai’r swyddogaeth hon gael ei dirprwyo i Gyfadrannau/Ysgolion  mewn amgylchiadau eithriadol. Y Coleg, Prifysgol Abertawe, fydd yn gyfrifol am y swyddogaeth hon mewn perthynas â myfyrwyr yn Y Coleg Gwneir pob ymdrech i hysbysu ymgeiswyr am eu canlyniadau o fewn wythnos o gynnal cyfarfodydd Bwrdd Dilyniant a Dyfarnu'r Brifysgol.

Rhaid i unrhyw farciau/penderfyniadau a ryddheir gan gyfadrannau/ysgolion fod yn gyfrinachol a chael eu datgelu i'r rhai y mae angen mynediad atynt yn unig a bod ganddynt hawl i'w gweld.