Rheoliadau Asesu Cyffredinol

G1

Er mwyn cwblhau'r Brentisiaeth, rhaid i fyfyriwr astudio modiwlau gwerth cyfanswm o 360 o gredydau. 40% yw’r marc pasio ar gyfer pob modiwl. Ni chaiff credydau eu dyfarnu ond ar gyfer pasio modiwlau.

G2

Bydd myfyrwyr sy'n pasio pob modiwl â marc o 40% neu fwy yn cymhwyso'n awtomatig i barhau â'u hastudiaethau a/neu i symud ymlaen i'r semester astudio nesaf. (Caiff Cyfadrannau/Ysgolion bennu gofynion ychwanegol, ond rhaid iddynt hysbysu myfyrwyr am y rhain.)

G3

Gellir gwneud penderfyniadau ar ddilyniant myfyrwyr gan Fwrdd Dilyniant a Dyfarnu'r Brifysgol ar ddiwedd tymor neu ar ddiwedd blwyddyn academaidd lawn, pan fydd y cydrannau a addysgir wedi'u cwblhau.

G4

Gwneir penderfyniadau ar ddyfarniadau myfyrwyr gan Fwrdd Dilyniant a Dyfarnu'r Brifysgol ar ddiwedd y rhaglen, pan fydd y cydrannau a addysgir a'r cydrannau dysgu ar sail gwaith wedi'u cwblhau.

G5

Gellir caniatáu i fyfyrwyr symud ymlaen ar ôl methu nifer cyfyngedig o fodiwlau'r flwyddyn. Cyfeirir at fethiannau o’r fath fel "methiannau a oddefir”. Ni ddyfernir credydau ar gyfer methiannau a oddefir. Darperir rheolau ar gyfer methiannau a oddefir o dan Reoliadau Asesu Penodol pob rhaglen astudio.

G6

Bydd myfyrwyr sy'n methu unrhyw fodiwl yn cael un cyfle yn unig i wneud yn iawn am y methiant, fel arfer drwy ymgymryd ag asesiad atodol. Fel arfer, caiff y cyfle hwn ei gynnig yn awtomatig i fyfyrwyr sy'n methu unrhyw fodiwl oni bai nad yw ôl rheoliadau penodol y cynllun yn caniatáu hyn. 

G7

Bydd myfyrwyr sy'n gorfod ymgymryd ag asesiad atodol yn gwneud hynny yn y cyfnod asesu priodol nesaf ar gyfer y rhaglen astudio, a allai fod y tu allan i'r cyfnodau asesu ffurfiol. Hysbysir myfyrwyr am ddull ac amser cyfleodd i wneud asesiad atodol drwy lawlyfr y rhaglen.

G8

Ar yr amod y bydd myfyrwyr sy'n ymgymryd ag asesiadau atodol mewn modiwlau a fethwyd yn bodloni'r arholwyr, byddant yn derbyn marc wedi'i gapio o 40%. Defnyddir y marc wedi'i gapio wrth benderfynu ar ddosbarthiad y dyfarniad terfynol.

G9

Bydd myfyrwyr sy'n dewis peidio â cheisio gwneud yn iawn am fodiwl a fethwyd yn derbyn marc o 0%, ac fel arfer ni chynigir cyfle arall iddynt.

G10

Wrth wneud penderfyniadau ynghylch dilyniant myfyrwyr yn dilyn asesiadau atodol, bydd y Bwrdd Dilyniant a Dyfarnu yn cyfeirio at y marc gorau a enillwyd gan y myfyriwr ym mhob modiwl penodol yn ystod y sesiwn.  

G11

Ni chaniateir i fyfyrwyr wneud asesiad atodol mewn unrhyw fodiwl a basiwyd er mwyn gwella eu perfformiad. 

G12

Cydnabyddir na fydd rhai myfyrwyr yn gallu mynychu arholiadau e.e. oherwydd salwch neu amgylchiadau esgusodol eraill. Cydnabyddir felly y caniateir i'r fath fyfyrwyr gyflwyno cais i sefyll y fath arholiadau fel arholiadau wedi'u gohirio.

Caiff ceisiadau i ohirio arholiadau eu hystyried yn unol â'r gweithdrefnau a gyhoeddir yn llawlyfr y rhaglen.

G13

Ni fydd myfyrwyr sy'n cael penderfyniad "Tynnu'n Ôl o'r Brifysgol" yn cael cyfle arall i wneud yn iawn am fodiwlau a fethwyd.

G14

Fel arfer, y rheolau a amlinellir yn Rheoliadau Penodol Rhaglen: Dilyniant a Dyfarniad fydd yn dylanwadu ar benderfyniad Bwrdd Dilyniant a Dyfarnu'r Brifysgol ar ddilyniant myfyrwyr. Fodd bynnag, gall Bwrdd Dilyniant a Dyfarnu'r Brifysgol ystyried amgylchiadau eraill sy’n berthnasol i achos y myfyriwr cyn gwneud unrhyw benderfyniad ynghylch dilyniant. Ni fyddai disgwyl i'r Bwrdd ganiatáu i fyfyriwr symud ymlaen oni bai ei fod wedi bodloni'r meini prawf gofynnol.

G15

Cymwysterau Ymadael

Os yw myfyriwr yn cael ei dderbyn ar raglen Prentisiaeth ond ni all symud ymlaen i'w chwblhau neu ni chaniateir iddo wneud hynny, gan ddibynnu ar nifer y credydau a enillwyd ar y lefelau priodol ar adeg ymadael, gall fod yn gymwys i dderbyn un o'r dyfarniadau canlynol:

Cymhwyster YmadaelLleiafswm y credydau a astudiwydLleiafswm y credydau a enillwyd
Gradd Sylfaen mewn Cyfrifiadureg (FdSc) Cyfanswm o 240 Wedi Cwblhau Lefel 4 ac 80 o gredydau ar Lefel 5
Tystysgrif Addysg Uwch (CertHE) Cyfanswm o 120 o gredydau 80 o gredydau ar Lefel 4.
Gradd Sylfaen mewn Peirianneg Awyrenegol a Gweithgynhyrchu/Peirianneg Gweithgynhyrchu Uwch  Cyfanswm o 240 o gredydau (credydau a ddilynir)  Cwblhau Lefel 4 a 120 o gredydau ar Lefel 5 (credydau a gyflawnwyd)

Gall myfyriwr sy'n gadael rhaglen â Gradd Sylfaen fod yn gymwys i dderbyn Rhagoriaeth os bydd wedi ennill marc cyfartalog cyffredinol o 80% neu'n uwch, neu 60% am deilyngdod.

Gall myfyriwr sy'n gadael rhaglen â Thystysgrif Addysg Uwch fod yn gymwys i dderbyn Rhagoriaeth os bydd wedi ennill marc cyfartalog cyffredinol o 70% neu'n uwch, neu 60% am deilyngdod.

Caiff y fath gymwysterau ymadael eu cymeradwyo gan Fwrdd Dilyniant a Dyfarnu'r Brifysgol a fydd yn cyfeirio at ganlyniadau'r holl fodiwlau mae'r myfyriwr wedi'u hastudio yn ystod tymhorau pob blwyddyn astudio.

Rheoliadau Penodol: Dilyniant a Dyfarniadau

Prentisiaethau yn y Cyfadran Gwyddoniaeth a Pheirianneg

BSc (Anrhydedd) mewn Peirianneg Meddalwedd Gymhwysol

Dilynir y rheoliadau hyn gan y Bwrdd Dilyniant a Dyfarnu a gynhelir fel arfer ar ddiwedd pob tymor, yn dilyn cyfle asesu atodol. Wrth gytuno ar benderfyniad ynghylch dilyniant neu ddyfarniad, bydd y Bwrdd yn cyfeirio at ganlyniadau'r holl fodiwlau a astudiwyd, fel y'u cronnwyd, yn ystod tymhorau pob blwyddyn astudio.

Y rheolau i'w dilyn ar ddiwedd tymhorau astudio un, dau, pedwar, pump, saith ac wyth yn ystod y Bwrdd Dilyniant a'r Bwrdd Dilyniant atodol/Bwrdd y Gyfadran/Ysgol:

S1

Bydd myfyrwyr sy'n pasio pob modiwl gan ennill marc o 40% neu'n fwy yn gymwys, yn awtomatig, i symud i'r tymor astudio nesaf.

S2

Os yw myfyrwyr yn methu hyd at 40 o gredydau ond wedi ennill o leiaf 30% ym mhob methiant ac wedi pasio pob modiwl craidd, byddant yn cael cyfle i wneud yn iawn am fethiant o'r tymor cyfredol. Cyfeirir at fethiannau o’r fath fel "methiannau a oddefir". Ni ddyfernir credydau ar gyfer methiannau a oddefir.

Bydd myfyrwyr sy'n methu hyd at 40 o gredydau yn cael cyfle i wneud yn iawn am fethiant o'r tymor cyfredol. 

S3

Tybir bod myfyrwyr sy'n methu mwy na 40 o gredydau, neu sydd wedi methu modiwl craidd, neu sydd wedi derbyn marc o lai na 30% mewn unrhyw fodiwl, wedi "Methu”. Gallai'r fath fyfyrwyr, gan ddibynnu ar nifer y credydau a gronnwyd, fod yn gymwys i dderbyn dyfarniad ymadael (gweler G12).

Rheolau i'w dilyn gan y Bwrdd Dilyniant ar ddiwedd y trydydd a'r chweched tymor (diwedd y lefel)

S4

Tybir bod myfyrwyr sy'n pasio pob modiwl (120 o gredydau) gan ennill marc o 40% neu'n uwch wedi cwblhau Lefel 4 a byddant yn gymwys, yn awtomatig, i symud i'r lefel astudio nesaf.

S5

Tybir bod myfyrwyr sy'n methu hyd at 40 o gredydau, ond sydd wedi ennill isafswm o 30% ym mhob modiwl a fethwyd, ac sydd wedi pasio'r holl fodiwlau craidd, wedi cwblhau'r Lefel a byddant yn gymwys i symud i'r lefel astudio nesaf. Cyfeirir at fethiannau o’r fath fel "methiannau a oddefir". Ni ddyfernir credydau ar gyfer methiannau a oddefir.

Bydd myfyrwyr sy'n methu hyd at 40 o gredydau yn cael cyfle i wneud yn iawn am fethiant o'r tymor cyfredol. Nid oes modd gwneud yn iawn am fethu modiwl craidd dysgu ar sail gwaith. Tybir bod unrhyw fyfyriwr sy'n methu unrhyw fodiwl dysgu ar sail gwaith wedi "Methu'r" lefel astudio.

S6

Tybir bod myfyrwyr sy'n methu mwy na 40 o gredydau, neu sydd wedi methu modiwl craidd, neu sydd wedi ennill marc o lai na 30% mewn unrhyw fodiwl, wedi "Methu”. Gallai'r fath fyfyrwyr, gan ddibynnu ar nifer y credydau a gronnwyd, fod yn gymwys i dderbyn dyfarniad ymadael (gweler G15).

Rheolau i'w dilyn wrth ystyried dyfarniad ar ddiwedd y nawfed tymor (diwedd lefel chwech)

S7

Tybir bod myfyrwyr sy'n pasio pob modiwl (120 o gredydau) gan ennill marc o 40% o leiaf wedi cwblhau Lefel 6 a byddant yn gymwys, yn awtomatig, i gael eu hystyried am ddyfarniad.

S8

Tybir bod myfyrwyr sy'n methu hyd at 40 o gredydau, ond sydd wedi ennill isafswm o 30% ym mhob modiwl a fethwyd, ac sydd wedi pasio'r holl fodiwlau craidd, wedi cwblhau Lefel 6 a byddant yn gymwys i gael eu hystyried am ddyfarniad. Cyfeirir at fethiannau o’r fath fel "methiannau a oddefir". Ni ddyfernir credydau ar gyfer methiannau a oddefir.

Bydd myfyrwyr sy'n methu hyd at 40 o gredydau yn cael cyfle i wneud yn iawn am fethiant o'r tymor cyfredol. Nid oes modd gwneud yn iawn am fethu modiwl craidd dysgu ar sail gwaith. Tybir bod myfyriwr sy'n methu unrhyw fodiwl ar sail gwaith wedi "Methu'r" lefel astudio.

S9

Dyfernir Gradd i fyfyrwyr yn unol â Rheoliad 8 o'r Rheoliadau ar gyfer Graddau Baglor.

S10

Tybir bod myfyrwyr sy'n methu mwy na 40 o gredydau, neu sydd wedi methu modiwl craidd, neu sydd wedi derbyn marc o lai na 30% mewn unrhyw fodiwl, wedi "Methu”. Gallai'r fath fyfyrwyr, gan ddibynnu ar nifer y credydau a gronnwyd, fod yn gymwys i dderbyn dyfarniad ymadael (gweler G15).

BEng (Anrh.) mewn Peirianneg Awyrenegol a Gweithgynhyrchu i'w chyflwyno ar y cyd â Choleg Cambria

BEng (Anrh.) mewn Peirianneg Gweithgynhyrchu Uwch i'w chyflwyno ar y cyd â Choleg Cambria

Bydd y rheoliadau hyn yn berthnasol yn y Bwrdd Dilyniant a Dyfarniadau a gynhelir fel arfer ym mis Medi yn dilyn cyfleoedd asesu atodol.

S11

Mae'r holl fodiwlau'n rhai craidd ac felly ni chaniateir methiannau a oddefir.

S12

Bydd myfyrwyr yn cael un cyfle yn unig i ailsefyll mewn unrhyw gydran asesu. Os bydd y myfyriwr yn llwyddo yn y gydran asesu ar yr ail ymgais, 40% fydd uchafswm y marc asesu. Os na fydd myfyriwr yn pasio'r gydran asesu, bydd yr egwyddor marc gorau'n berthnasol. Coleg Cambria ar y cyd â Phrifysgol Abertawe fydd yn pennu amserlen y cyfnod atodol.

S13

Caiff canlyniadau modiwlau a addysgir (ac eithrio’r modiwl prosiect dysgu seiliedig ar waith) eu hystyried a'u cadarnhau yn y Bwrdd Arholi Interim.

Rheolau i’w defnyddio yn ystod y Bwrdd Dilyniant perthnasol (Blwyddyn 1 a Blwyddyn 2):

S14

Er mwyn symud ymlaen i'r lefel astudio nesaf, rhaid i fyfyriwr gronni 120 o gredydau drwy basio'r holl fodiwlau gyda marc o 40% neu fwy.

S15

Tybir bod myfyrwyr sydd wedi pasio pob modiwl (120 o gredydau) a phob cydran asesu gyda marc o 40% neu uwch wedi cwblhau'r Lefel ac yn gymwys, yn awtomatig , i symud i'r lefel astudio nesaf.

S16

Ni fydd myfyrwyr sy'n methu cyflawni marc o 40% neu fwy mewn unrhyw elfen yr asesiad ar yr ail ymgais yn gymwys i symud i'r flwyddyn astudio nesaf. Fel rheol, ni fydd ymgeiswyr o'r fath yn cael cyfle arall i wneud iawn am y methiant a'r penderfyniad fydd "methu".

S17

Bydd myfyrwyr sy'n methu cwblhau lefel astudio yn derbyn penderfyniad academaidd i dynnu yn ôl o'r brifysgol. Efallai bydd ymgeiswyr yn cael eu hystyried am gymhwyster Ymadael.

Rheolau i'w defnyddio yn y Bwrdd Dyfarnu ar ddiwedd Blwyddyn 3

S18

Caiff dyfarniadau myfyrwyr eu hystyried gan Fwrdd Dilyniant a Dyfarniadau'r Brifysgol ar ddiwedd y flwyddyn academaidd lawn, pan fydd proffil llawn canlyniadau'r modiwl, gan gynnwys modiwlau dysgu ar sail gwaith ar gael.

S19

Bernir bod myfyrwyr sy'n pasio pob modiwl (120 o gredydau) a'r holl elfennau asesu ym mhob modiwl, gyda marc o 40% neu uwch wedi cwblhau Lefel 6 a byddant yn cymhwyso'n awtomatig am ddyfarniad.

S20

Dyfernir Gradd i fyfyrwyr yn unol â Rheoliadau Asesu Peirianneg ar Ddosbarthiad Graddau Anrhydedd.

S21

Ni fydd myfyrwyr sy'n methu modiwl ymgais atodol, yn gymwys i gael eu hystyried am radd. Fel arfer, ni fydd ymgeiswyr o'r fath yn cael cynnig cyfle arall i ailsefyll, a bydd gofyn iddynt dynnu'n ôl o'r rhaglen a'r Brifysgol. Efallai bydd ymgeiswyr yn cael eu hystyried am gymhwyster Ymadael.