Grŵp o bobl yn cael y drafodaeth

Lles Personol

Os oes gennych broblemau personol a allai, yn eich barn chi, effeithio ar eich gwaith, dylech siarad, yn y lle cyntaf, â'ch prif oruchwyliwr/eich goruchwyliwr cyntaf, neu'ch ail oruchwyliwr. Os yw'ch problemau neu'ch amgylchiadau'n debygol o effeithio'n ddifrifol ar eich gwaith, efallai y byddwch am eu rhoi mewn ysgrifen gan ofyn i'ch goruchwyliwr roi copi yn eich ffeil yn y Gyfadran/Ysgol. Gallai hyn fod o gymorth i chi os bydd angen  i chi gyflwyno cais am ymestyn eich ymgeisyddiaeth. 

Os ydych yn ansicr ynghylch pa ffordd y dylech fynd i’r afael â phroblem (e.e. problemau academaidd neu fugeiliol), sy’n effeithio ar eich astudiaethau, gallwch bob amser gysylltu â MyUniHub yn y Gwasanaethau Academaidd, a byddant yn rhoi cyngor ar y weithdrefn fwyaf priodol i’w dilyn. Os byddwch yn parhau i deimlo nad yw cwyn wedi'i datrys, dylech ddarllen Gweithdrefn Achwyn y Brifysgol, sydd i'w chael yn yr adran a Chwynion.

Dyled Ariannol

Mae’n bwysig eich bod yn talu eich ffioedd ar amser. Disgwylir i chi dalu neu wneud trefniadau i dalu eich ffioedd ar ddechrau’r tymor. Gallwch gael rhagor o wybodaeth am ddyledion ariannol.

Gwasanaethau'r Brifysgol

Os oes gennych bryderon am eich goruchwyliaeth neu am y cyfleusterau a’r gwasanaethau yn eich Gyfadran/Ysgol, dylech siarad â'ch goruchwyliwr yn y lle cyntaf. Os na chaiff y problemau eu datrys o fewn cyfnod rhesymol, dylech eu cyfeirio at sylw Cadeirydd y pwyllgor yn y Gyfadran/Ysgol sydd â'r cyfrifoldeb am faterion ôl-raddedig: gallai hyn fod yn Bwyllgor Materion Ôl-raddedig, yn Bwyllgor Graddau Uwch, neu’n Bwyllgor Ymchwil (neu bwyllgor cyfatebol yn eich Gyfadran/Ysgol). Os nad yw Cadeirydd y pwyllgor hwnnw wedi datrys y broblem o fewn cyfnod rhesymol, dylech ddwyn y broblem at sylw Pennaeth eich Gyfadran/Ysgol. Os nad yw hyn yn arwain at ddatrys y broblem, dylech ddwyn y broblem at sylw'r Gwasanaethau Academaidd, a fydd yn eich helpu trwy siarad am eich problem a rhoi cyngor. 

Defnyddio’r Fewnrwyd

Ar ôl i chi gofrestru gyda’r Brifysgol, byddwch yn gallu mewngofnodi i system Fewnrwyd y Brifysgol i wirio manylion cofnod eich ymgeisyddiaeth, cael hyd i wybodaeth, a lawrlwytho unrhyw ffurflenni angenrheidiol. Mae'r Fewnrwyd yn rhoi dolenni e-bost hefyd, a gallwch eu defnyddio i gyfathrebu â'r Gwasanaethau Academaidd a hefyd i hysbysu'r Brifysgol am newidiadau i'ch gwybodaeth bersonol, er enghraifft i hysbysu'r Swyddfa Llety eich bod wedi newid eich cyfeiriad.

Fewnrwyd y Brifysgol Abertawe

  • Bydd angen i chi fewngofnodi yn gyntaf. Ewch i'r blychau ar frig ochr dde'r dudalen a theipiwch eich enw defnyddiwr (eich rhif myfyriwr chwe digid);
  • Rhowch eich cyfrinair (os dyma'r tro cyntaf i chi ei ddefnyddio,dilynwch y cyfarwyddiadau ar y sgrîn);
  • Dewiswch yr wybodaeth neu'r broses sydd ei hangen arnoch e.e. 'cofnod academaidd’).

Goruchwyliaeth

Dylech ddisgwyl cael trefniadau goruchwylio effeithiol a fydd yn rhoi cymorth, cyngor ac arweiniad rheolaidd o safon uchel i chi yn ystod eich astudiaethau ar gyfer gradd ymchwil. Cyfeiriwch at y Canllaw i Oruchwyliaeth Ymchwil Ôl-raddedig.