Canllaw i PhD (Cyfnod Astudio Estynedig)

1.

Mewn achosion penodol, caiff ymgeiswyr doethurol gyflwyno cais i astudio am gyfnod estynedig wrth gael eu derbyn ar raglen gradd ymchwil. Mae'r cyfnod estynedig wedi'i fwriadu ar gyfer myfyrwyr nad ydynt yn gallu ymgymryd â'u hymchwil yn llawn heb ennill sgiliau neu wybodaeth newydd nad oes modd eu hennill drwy gwrs ymchwil Meistr paratoadol a, hebddynt, y byddai'r ymchwil ddoethurol yn anghyflawn. Mae hyd yr ymgeisyddiaeth ar gyfer PhD (cyfnod astudio estynedig) yn adlewyrchu'r angen i gwblhau cwrs Meistr cyn cychwyn yn llawn ar gam ymchwil dan oruchwyliaeth gradd ddoethurol.

2.

Ni chaiff myfyrwyr eu derbyn ond i raglenni PhD (cyfnod astudio estynedig) a ddilyswyd yn ffurfiol gan y Brifysgol.

3.

I fod yn gymwys i gael ei dderbyn i'r rhaglen PhD (cyfnod astudio estynedig), rhaid i ymchwil y myfyriwr gwrdd ag un neu fwy o'r meini prawf canlynol:

  • ni ellir ymgymryd â'r ymchwil yn llawn heb ennill sgiliau iaith penodol;
  • ni ellir ymgymryd â'r ymchwil yn llawn heb ddysgu sgiliau newydd penodol, methodolegol lefel uchel, er enghraifft, sgiliau meintiol cymhleth;
  • ni ellir ymgymryd â'r ymchwil yn llawn heb ddatblygu sgil newydd penodol i'r ddisgyblaeth sy'n sgil sylweddol ac anodd dros ben, neu le y mae lefel uchel o gydweithio â disgyblaethau eraill yn gofyn am gyfnod helaeth o amser ychwanegol i ddatblygu'r wybodaeth ofynnol o feysydd eraill;
  • ni ellir ymgymryd â'r ymchwil yn llawn heb ymgymryd â gwaith maes sy'n cyflwyno heriau sylweddol, o natur fethodolegol neu ymarferol er enghraifft;
  • mae amodau noddwr y myfyriwr neu ysgoloriaeth a ddyfarnwyd iddo'n gofyn am gwblhau PhD (cyfnod astudio estynedig), er enghraifft ysgoloriaeth Cynghorau Ymchwil y Deyrnas Unedig.

4.

Rhaid bod ennill sgiliau neu wybodaeth o'r fath yn rhan ganolog o'r astudiaethau doethurol yn eu cyfanrwydd. Ni ystyrir bod cyfnod estynedig o astudio yn briodol lle y gellid bod wedi ennill y sgiliau perthnasol neu'r wybodaeth berthnasol yn rhesymol drwy hyfforddiant fel rhan o gwrs Meistr, neu y gellid bod wedi'u hennill fel rhan o raglen ddoethur safonol amser llawn tair blynedd o hyd, neu bum mlynedd yn rhan-amser.

5.

Dylid cyflwyno cais am PhD (cyfnod astudio estynedig) wrth gyflwyno'r cais cychwynnol. Ni chaiff ceisiadau ôl-weithredol eu hystyried.