Students on beach

Dylech ymgyfarwyddo â'r Polisi Monitro Cyfranogiad ar y Llwybr Myfyrwyr (Haen 4 gynt) a'r Datganiad ar Gyfranogiad gan fod gan y Brifysgol ddyletswydd gyfreithiol i weithredu ar beidio ag ymbresenoli er mwyn bodloni ei gofynion wrth adrodd am bresenoldeb i noddwyr allanol, yn ogystal â bodloni gofynion nawdd Fisâu a Mewnfudo'r DU (UKVI) ar gyfer monitro myfyrwyr rhyngwladol sy'n astudio yn y DU ar fisa Llwybr Myfyrwyr (Haen 4 gynt). Mae system electronig ganolog wedi cael ei datblygu i fonitro presenoldeb at y dibenion hyn.

Gweithdrefn Gwneud Cais am Ddatganiad 'Cadarnhad Derbyn i Astudio' o'r Gwasanaethau Addysg

Rhaid bob myfyriwr sydd am wneud cais am estyniad i'w fisa Llwybr Myfyrwyr (Haen 4 gynt) gael datganiad Cadarnhad Derbyn i Astudio o'r Gwasanaethau Addysg.

Er mwyn cael Datganiad Cadarnhad Derbyn i Astudio rhaid i chi fodloni'r gofynion sydd wedi'u nodi gan y Brifysgol a chan gyfreithiau'r DU. Mae'r gofynion hyn wedi'u rhestru isod:

  • Terfyn Amser
    Ar 6 Ebrill 2012, cyflwynodd Asiantaeth Fisas a Mewnfudo'r Deyrnas Unedig derfyn i'r cyfnod y gall myfyrwyr astudio ar gyfer lefel gradd Faglor (NQF 6) a gradd Meistr a Addysgir (NQF 7) tra eu bod ar fisa Llwybr Myfyrwyr (Haen 4 gynt). Ym mwyafrif yr achosion y terfyn yw 5 mlynedd, er y ceir ambell eithriad i'r rheol hon.
  • Dogfennau Adnabod
    Rhaid i chi ddarparu copïau o'ch pasbort cyfredol a'ch holl fisas/cardiau adnabod biometrig, rhai sydd wedi darfod a rhai cyfredol. 
  • Cynnydd Academaidd
    Mae rheoliadau'r Swyddfa Gartref yn gofyn bod myfyrwyr yn dangos cynnydd academaidd drwy symud ymlaen i gyrsiau ar lefel academaidd uwch. Fodd bynnag, nid oes raid i chi ddangos cynnydd academaidd os ydych yn ymestyn eich caniatâd er mwyn cwblhau cwrs yr ydych eisoes yn ei ddilyn.
  • Ffioedd Dysgu/Llety
    Rhaid eich bod wedi talu'r cyfan o'ch ffioedd dysgu a'ch ffioedd llety sy’n ddyledus cyn i chi allu derbyn datganiad Cadarnhad Derbyn i Astudio.

Er mwyn i ni asesu a ydych yn gymwys i gael datganiad Cadarnhad Derbyn i Astudio, rhaid i chi gwblhau Holiadur Astudiaethau Blaenorol, gan fanylu ar eich holl astudio blaenorol yn y Deyrnas Unedig, a chan ddarparu'r holl ddogfennau atodol a chopïau o'ch holl fisas blaenorol fel y nodir yn yr holiadur.

Pwrpas yr Holiadur Astudiaethau Blaenorol yw sefydlu a oes digon o amser gennych i gwblhau eich rhaglen astudio ac i gadarnhau eich bod yn gwneud cynnydd academaidd.

Rhaid bod y wybodaeth yr ydych yn ei darparu yn gyflawn ac yn gywir. Eich cyfrifoldeb chi yw sicrhau nad oes unrhyw wybodaeth a geisir nac unrhyw wybodaeth faterol arall wedi'i hepgor. Mae Prifysgol Abertawe'n cadw'r hawl i wirio dilysrwydd yr wybodaeth hon trwy gysylltu ag unrhyw rai o'r sefydliadau lle'r ydych wedi astudio o'r blaen.

Os yw'r dystiolaeth a ddarperir yn eich Holiadur Astudiaethau Blaenorol yn bodloni'r gofynion a nodir uchod ac rydym yn fodlon bod hyn yn gywir, byddwn yn llunio ffurflen ddatganiad yn nodi manylion yr wybodaeth a fydd yn ymddangos ar eich datganiad Cadarnhad Derbyn i Astudio. Eich cyfrifoldeb chi yw sicrhau bod yr wybodaeth hon yn gywir. Ar ôl i chi gadarnhau'r manylion yn y datganiad ar y ffurflen, byddwn yn cyhoeddi'ch datganiad Cadarnhad Derbyn i Astudio.

SYLWER: O ystyried faint o wybodaeth y mae'n rhaid ei chasglu at ei gilydd a'i dilysu er mwyn sefydlu eich bod yn bodloni'r gofynion ar gyfer Cadarnhad Derbyn i Astudio, gall hyn fod yn broses hir. Caiff pob cais am Cadarnhad Derbyn i Astudio ei brosesu'n unigol, felly ni allwn warantu y caiff ei ddosbarthu o fewn cyfnod penodol.