Rheoliadau ar gyfer Dyfarnu Graddau, Diplomâu a Thystysgrifau ar ôl Marwolaeth

1.     Diffiniad

Gellir dyfarnu cymhwyster ar ôl marwolaeth i fyfyriwr sydd wedi marw ac sydd wedi cwblhau digon o'i astudiaethau ar gyfer y dyfarniad (gweler 2.1).

2.     Cyflwyniad

2.1

Gall Gyfadran/Ysgol argymell i'r Bwrdd Dilyniant a Dyfarnu'r Brifysgol ddyfarnu cymhwyster israddedig, ôl-raddedig a addysgir, neu ymchwil lle mae digon o dystiolaeth am berfformiad yr ymgeisydd i ddangos y byddai wedi cyrraedd y safon angenrheidiol ar gyfer y fath gymhwyster.

2.2

Bydd gradd ar ôl marwolaeth fel arfer yn ddyfarniad sy'n enwi pwnc, fel bo'n addas, heblaw am yr achosion hynny lle y mae gofynion cyrff proffesiynol yn pennu fel arall.

2.3

Os yw’r ymgeisydd wedi cwblhau’r holl ofynion asesu ar gyfer y dyfarniad, dylai’r achos gael ei ystyried gan y Bwrdd Arholi.

3.     Gweithdrefnau Creu’r Dyfarniad

3.1

Rhaid i Gyfadran/Ysgol yr ymgeisydd wneud cais ysgrifenedig i'r Cyfarwyddwr Gwasanaethau Addysg i ystyried dyfarniad ar ôl marwolaeth, gyda chaniatâd teulu’r ymgeisydd neu ei berthynas agosaf.

3.2

Caiff y cais ei ystyried gan y Bwrdd Dilyniant a Dyfarnu'r Brifysgol gan roi sylw i argymhelliad y Gyfadran/Ysgol.

3.3

Bydd y Bwrdd Dilyniant a Dyfarnu'r Brifysgol yn gwneud penderfyniad ynghylch cymeradwyo’r dyfarniad neu beidio. Hysbysir y penderfyniad i deulu’r ymgeisydd neu ei berthynas agosaf ac fe’i hadroddir i’r Gyfadran/Ysgol.

4.    Adrodd, Monitro, Gwerthuso ac Adolygu

4.1

Cyfrifoldeb y Pwyllgor Rheoliadau, Ansawdd a Safonau, yw adolygu’r Rheoliadau ar gyfer Dyfarnu Graddau, Diplomâu a Thystysgrifau ar ôl Marwolaeth a’u heffeithiolrwydd a gwneud awgrymiadau am newidiadau, lle bo hynny’n berthnasol, i’w hystyried gan y Pwyllgor Addysg y Brifysgol.