iPhone wedi'i osod ar ben Macbook

Sut i gysylltu eich dyfais Apple ag eduroam

Isod mae cyfarwyddiadau ar gyfer cysylltu'ch dyfais Apple a'r rhwydwaith diwifr eduroam. Sicrhewch eich bod wedi cysylltu â'r rhwydwaith diwifr SwanseaUni-setup wrth ddilyn y cyfarwyddiadau perthnasol i'ch dyfais. Cofrestrwch eich dyfais cyn dilyn ein cyfarwyddiadau ar gyfer cysylltu â'n rhwydwaith Wi-Fi.

Sut i gysylltu'ch Mac ag eduroam

Mae'r gwasanaeth wi-fi yn galluogi aelodau'r Brifysgol i gysylltu â rhwydwaith y Brifysgol a'r rhyngrwyd wrth ddefnyddio cyfrifiaduron a dyfeisiau personol. Mae'r gwasanaeth ar gael ar draws gampysau a lletyau'r Brifysgol. Mae'r canllaw hwn yn cynnwys cyfarwyddiadau ar gyfer cysylltu cyfrifiadur Mac â rhwydwaith diwifr eduroam.

Gosod yn awtomatig

Sicrhewch fod eich dyfais wedi'i gysylltu â'r rhwydwaith SwanseaUni-setup cyn dilyn y cyfarwyddiadau hyn.

Mae gan OSX 10.10, 11 a 12 y gallu i lwytho cysodiadau Wi-Fi oddi o ffeil ffurfweddu arbennig. Mae'n bwysig eich bod yn defnyddio Safari i ddarllen y tudalen hwn ac i glicio'r ddolen yn Gam 1 isod. Os ydych yn defnyddio porwr we arall bydd angen achub y ffeil ffurfweddu a'i lwytho â llaw:

  1. Gellir dod o hyd i'r ffeil ffurfweddi yma: Sgript Ffurfweddi MobileConfig Abertawe
  2. Wedi i chi clicio’r ddolen, byddwch yn cael eich procio i osod y proffil.
  3. Gosodwch y proffil, a mewnbynnwch eich cyfeiriad e-bost Prifysgol Abertawe a'ch cyfrinair.
  4. Ar ôl gosod y proffil, cliciwch ar yr eicon Wi-Fi ar y bar dewislen ar ben y sgrin. Dewiswch eduroam o'r gwymplen i gysylltu â'r rhwydwaith.

Gosod â llaw

Os nad ydy'r ffeil ffurfweddu awtomatig yn gweithio, bydd angen dilyn y cyfarwyddiadau ar gyfer gosod â llaw. 

Gellir dod o hyd i'r cyfarwyddiadau yma: Sut i gysylltu'ch Mac ag eduroam - cyfarwyddiadau gosod a llaw

Sut i gysylltu'ch iPhone/iPad ag eduroam

Isod mae cyfarwyddiadau ar gyfer cysylltu eich iPhone neu iPad i'r rhwydwaith diwifr eduroam. Sicrhewch fod eich dyfais wedi cysylltu â'r rhwydwaith diwifr SwanseaUni-Setup cyn i chi dechrau dilyn y cyfarwyddiadau.

Gosod yn Awtomatig

Mae gan ffonau iPhone y gallu i lwytho cysodiadau Wi-Fi menter oddi o ffeil ffurfweddu arbennig.

  1. Gellir dod o hyd i'r ffeil ffurfweddi yma: Sgript Ffurfweddi MobileConfig iPhone/iPad Abertawe
  2. Wedi i chi clicio’r ddolen, byddwch yn cael eich procio i osod y proffil.
  3. Gosodwch y proffil, a mewnbynnwch eich cyfeiriad e-bost Prifysgol Abertawe a'ch cyfrinair.
  4. Wedi i chi osod y proffil, gallwch gysylltu eich dyfais a'r rhwydwaith eduroam trwy cysodiadau Wi-Fi y ddyfais.

Gosod â llaw

Os nad ydy'r ffeil ffurfweddu awtomatig yn gweithio, bydd angen dilyn y cyfarwyddiadau ar gyfer gosod â llaw. 

Gellir dod o hyd i'r cyfarwyddiadau yma: Sut i gysylltu'ch iPhone neu iPad ag eduroam - cyfarwyddiadau gosod â llaw