Mae llawer o adnoddau ar-lein ar gael i’ch helpu chi i drefnu eich gwaith.

Pethau i’w hystyried: 

  • Ydy’r adnodd yn weddol hawdd ei ddefnyddio? Ni fyddwch chi’n dymuno gwastraffu amser ymchwil gwerthfawr yn ceisio datrys problemau gyda’r meddalwedd!
  • Gall adnoddau am ddim ddiflannu. Yn aml, bydd rhywbeth arall sy’n cyflawni’r un nod yn ymddangos felly dylech chi ganolbwyntio ar yr hyn rydych chi’n dymuno i’r adnodd ei gyflawni a dod o hyd i un addas – byddwch yn barod i addasu.
  • Os ydych chi’n defnyddio data sensitif, bydd angen i chi fod yn ymwybodol efallai nad yw adnoddau am ddim mor ddiogel ac efallai nad dyna’r lle gorau i gadw rhywfaint o’ch deunydd.”