P'un a ydych chi'n chwilio am le tawel i astudio ar eich pen eich hun, rhywle i weithio gyda'ch gilydd fel grŵp, neu mae angen rhywle arnoch lle gallwch ymlacio a gorffwys rhwng eich astudiaethau neu ar ôl gorffen, mae digonedd o le i chi ar y campws.

Isod fe gewch wybodaeth am ein lleoedd allweddol ar  y ddau gampws (yn ychwanegol i adeiladau'r llyfrgell), gan gynnwys lleoedd tawel, labordai cyfrifiadurol a mannau sydd ar agor y tu allan i oriau gwaith arferol. Os ydych chi'n gymdeithas sy'n chwilio am le, gallwch gysylltu â'ch Swyddog Cymdeithasau gan ddefnyddio'r ddolen isod.

Mae’r mannau sydd ar gael yn amrywio o fannau astudio myfyrwyr, sydd â’r holl offer gan gynnwys microdonau a pheiriannau gwerthu, i gorneli cyfforddus lle gallwch eistedd, plygio i mewn ac ailwefru.

Ein nod yw adolygu'r wybodaeth hon yn rheolaidd drwy gydol y flwyddyn er mwyn sicrhau ei bod yn parhau yn gywir ac yn ddefnyddiol. Yn y cyfamser, os oes gennych unrhyw adborth am gynnwys y tudalennau hyn, anfonwch e-bost at efmcommunity@abertawe.ac.uk.