Covid-19 CYNGOR IECHYD A DIOGELWCH A CHANLLAWIAU AR GYFER STAFF A MYFYRWYR
Mae Tîm Iechyd a Diogelwch Prifysgol Abertawe wedi datblygu’r dudalen hon i’ch helpu i barhau â’ch gwaith yn ddiogel yn ystod lledaeniad y Coronafeirws.
Mae’r sefyllfa’n ansefydlog ac yn gallu newid yn gyflym. Mae cyngor a chanllawiau’n cael eu haddasu’n barhaus, wrth i ddealltwriaeth o’r feirws a’i effaith ddatblygu.
Mae’r Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch (HSE) wedi diweddaru’r cyngor Adrodd am Anafiadau, Clefydau a Digwyddiadau Peryglus (RIDDOR) i gynnwys COVID-19.
Isod, cewch wybodaeth a chanllawiau defnyddiol am weithio gartref, camau i’w cymryd wrth baratoi i ddychwelyd i’r campws a phan fyddwch wedi dychwelyd, trefniadau ar gyfer dysgu ac addysgu a chyngor am deithio lleol a gweithgareddau oddi ar y safle.
Wrth baratoi i ddychwelyd i’r campws, rhaid i chi gwblhau’r hyfforddiant gorfodol ar Covid-19 i staff a myfyrwyr ôl-raddedig. I ganfod sut i gyrchu’r sesiwn hyfforddiant, darllenwch y daflen wybodaeth hon:
Byddwn yn diweddaru’r rhaglen yn rheolaidd gyda’r cyngor a’r arweiniad diweddaraf mewn perthynas â covid-19 i staff y Brifysgol.
Os oes gennych ymholiadau neu bryderon am eich cyfrifoldebau iechyd a diogelwch yn ystod covid-19, cysylltwch â’ch Arweinydd Busnes Iechyd a Diogelwch.