Beth mae ein tîm Cymunedol yn gallu ei wneud i chi:
Fel myfyriwr sy'n byw oddi ar y campws, rydych chi'n breswylydd sy'n aelod o gymuned Abertawe.
Rydym ni yma i gefnogi myfyrwyr sy'n byw oddi ar y campws sut bynnag y gallwn ni. Gallai hynny gynnwys:
- Helpu i gyfryngu a datrys materion gyda chyd-breswylwyr neu gwynion am sŵn
- Eirioli drosoch yn y gymuned leol
- Ymweld â chi gartref
- Hybu ymgysylltu cadarnhaol rhwng myfyrwyr a'r gymuned leol