ER MWYN YMUNO Â CHLWB CHWARAEON PRIFYSGOL ABERTAWE, BYDD YN RHAID YMAELODI Â CHW
Mae dwy lefel o aelodaeth Chwaraeon Abertawe:
Aelodaeth sylfaenol (i glybiau nad ydynt yn rhan o BUCS) – £25.
Mae hyn yn rhoi’r canlynol i chi:
- Dim ffi ymuno pan fyddwch yn cofrestru i ddefnyddio cyfleusterau campfa Prifysgol Abertawe
- Yswiriant atebolrwydd cyhoeddus a damwain bersonol
- Cofrestru ar gyfer cystadlaethau’r clwb
- Amserau hyfforddi â gostyngiad blaenoriaethol
- Tocyn â phris gostyngedig i Varsity
- Llogi gwisgoedd dŵr am ddim
- Llogi racedi sboncen a thennis am ddim yn y pentref chwaraeon
- Yswiriant i yrru cerbydau ar gyfer eich clwb (gyda’r drwydded yrru briodol)
- Gostyngiadau ychwanegol drwy gydol y flwyddyn
Aelodaeth BUCS (os ydych chi/eich clwb yn cynrychioli’r Brifysgol mewn cystadlaethau BUCS) – £33.
Mae hyn yn rhoi’r uchod i chi yn ogystal â’r canlynol:
- Mynediad at gynghreiriau a chystadlaethau BUCS
- Teithio a llety BUCS ar gyfer y flwyddyn
Gallwch ychwanegu at eich aelodaeth sylfaenol ar unrhyw adeg gyda thaliad ychwanegol.
Sylwer nad yw eich aelodaeth Chwaraeon Abertawe yn cynnwys eich aelodaeth o'r gampfa a rhaid prynnu honno ar wahân.
SUT GALLAF BRYNU AELODAETH?
Gallwch brynu eich aelodaeth ar-lein drwy wefan Undeb y Myfyrwyr: https://www.swansea-union.co.uk/activities/sport/benefits/join/. Bydd yn rhaid i chi fewngofnodi i'r safle gyda’ch rhif myfyriwr i’w phrynu.